Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwyngalchog

gwyngalchog

Croesawai'r Eglwys gelfyddyd y paentiwr hefyd, a ymarferai â'i grefft ar y muriau gwyngalchog a darlunio golygfeydd Beiblaidd ac eglwysig yn lliwgar a byw; yn naturiol, fel yr âi tai'r ysgwi%eriaid yn fwy uchelgeisiol, câi'r paentiwr fynedfa iddynt hwythau'n ogystal.

Telyneg yw disgrifiad y lilith o'r fferm sydd ganddo i'w gwerthu, ond lle y buasai bardd yn sôn am fwthyn uncorn, gwyngalchog, y mae'r lilith yn fwy modern ei awen ac yn sôn am garthffosydd a mod.

Hwylio ar wyneb y ceudwll oeddan ni, gan edrych i fyny i ben y clogwyni lle mae trefi bychain gwyngalchog yn disgleirio yn yr haul, fil o droedfeddi uwch ein pennau.

Roedd y morwyr a rowliai'r casgenni'n anadlu fel ceffylau gwedd pan ddaeth y pentre a'r hofeldai gwyngalchog i'r golwg drachefn.

Ceir golygfeydd trawiadol o'r tir a'r môr, a cheir cipolwg ar hen feini o'r oesoedd cynnar, cestyll yr Oesoedd Canol, capeli a bythynnod gwyngalchog bychain.