Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gydweithio

gydweithio

Dylai unrhyw fenter newydd gynnwys astudiaeth o: sut i ddatblygu ysgolion gwledig fel canolfannau addysg a chyfathrebu i'r pentrefi ac hyd yn oed fel Canolfannau Busnes i ddatblygu mentrau newydd; a sut y gallai grwpiau o ysgolion bach cyfagos gydweithio er mwyn cynnig profiadau addysgol eang a chyffrous i'r disgybl.

Ac eithrio Ysgol Gyfun Rhydfelen, Pontypridd, a fu'n gyfrifol am gydweithio ar raglen beilot gyda Bethan ar gyfer y gyfres, mae'r ysgolion sydd wedi eu gwahodd i ymddangos yn y gyfres yn rhai nad ydynt fel arfer yn cael sylw gan y Cyfryngau, yn ol Bethan.

Golygodd y datblygiad gydweithio clos rhwng gwyddonwyr o gefndiroedd tra gwahanol yn ffisegwyr, cemegwyr, metelegwyr, a pheirianwyr electroneg, ac mae'r cydweithio hwn yn parhau i fod yn un o nodweddion y maes hyd heddiw.

I ffurfio Cynllun Addysg Cymunedol -- mewn trafodaeth a phawb yn y Sir, i ddamgos sut y gall pob ysgol, coleg a mudiad gwirfoddol gydweithio â'i gilydd.

Bu agwedd Awdurdod Addysg Caerfyrddin yn fwy cadarnhaol tuag at ysgolion gwledig, gan hybu strategaeth newydd o gael ysgolion gwledig i gydweithio a'i gilydd mewn clystyrau.

Daeth yn amlwg fod nifer o Gymry Cymraeg yn barod i gydweithio â'r Torïaid -- dim ond iddyn nhw gael arian i gynnal Sianel Gymraeg, y Steddfod, rhywfaint o ysgolion Cymraeg a'r Quango ei hunain, doedd dim ots am ryddid i Gymru a bywyd i'w chymunedau lleol.

Mae angen i'n hysgolion ni gydweithio yn lle cystadlu, a dibynnant lawer ar wasanaethau cefnogol Awdurdodau Lleol.

Perthynas chi-a-chithau fu rhwng Mona a Tref gynt ond wrth iddynt gydweithio closiant fesul tipyn: unwyd hwy yn eu consyrn a'u nod.

Oherwydd bod y tri ohonom yn ffans i'r grŵp, roedden ni'n gweld Y Cyrff fel grŵp i gydweithio â nhw yn y tymor hir.'

Pe collid yr ysgolion hyn, a'r plant yn cael eu symud i ysgolion mewn pentrefi eraill yn ôl cyfleustra gweinyddwyr a chyfrifwyr, byddai'r plant yn cael eu hamddifadu o rai o gonglfeini'n haddysg gynradd - sef y sicrwydd o berthyn a chael eu hadnabod a'r gallu i gydweithio.

Anogwn yr Awdurdodau Addysg Sirol i hyrwyddo arbrofi gyda gwahanol fodelau o glystyru ysgolion - yn amrywio o gydweithio at ddibenion penodol yn unig drwodd at ffederasiynau ffurfiol gydag un strwythur staff.

Credaf mai dim ond trwy gydweithio y gallwn gynnig y cyfle cyfartal haeddiannol i holl blant Cymru.

'Roedd Awdurdod Datblygu Cymru, Bwrdd Croeso Cymru, y Cyngor hwn ac Antur Llŷn (y partneriaid) wedi cytuno i gydweithio i sefydlu a rhedeg cynllun cymhorthdal i berchenogion a/ neu ddeiliaid eiddo masnachol yng nghanol y dref.

Trwy gydweithio gyda meddygon, ffermwyr a diwydianwyr, mae cemegwyr yn ein helpu i fyw bywydau mwy iach a chyfforddus.

gobeithiaf y bydd hwn yn helpu siaradwyr cymraeg i fynd i'r afael a'r her hon ychwanegodd y bydd y swyddfa gymreig yn annog colegau a chyflogwyr i gydweithio a menter a busnes.

Rhwydwaith Coleg Digidol Cymru - enghraifft wych o gydweithio rhwng sefydliadau ym meysydd addysg, technoleg a darlledu.

Neu ai trwy gydweithio law yn lllaw i gyrraedd y nod o sicrhau yr addysg orau i bawb yn ein cymuned i bob plentyn yn y sir beth bynnag fo ei gefndir, tlawd, cyfoethog, y Cymraeg neu'r di-Gymraeg?

Câi ef nifer o weinidogion i gydweithio wrth fendithio'r claf.

Dywedodd Mike Phillips, Rheolwr Microsoft Office ym Mhrydain: Mae yna gydweithio wedi bod i edrych ar sut i ddatblygu'r gwasnaeth.

Caiff nodweddion eraill eu rheoli mewn ffyrdd mwy cymhleth, wrth i nifer o enynnau gydweithio.

Ond, yn lle arbrofi gyda gwahanol fodelau o gydweithio yn ôl amgylchiadau lleol mae'r Awdurdod wedi penderfynu ymlaen llaw fabwysiadu un model yn unig a elwir yn 'ffederasiynau' h.y. cysylltiad ffurfiol rhwng cylch o ysgolion o dan un pennaeth sy'n ymdebygu i un ysgol aml-safle.

Bu+m yn ystyried froeon ysgrifennu ato i ofyn iddo a fuasai'n barod i gydweithio ar hunangofiant, ond oherwydd galwadau eraill ni wneuthum hynny.

Yn achlysurol yn arbennig yn achos y cynlluniau cynharaf, byddai grwpiau bychain o athrawon o'r un fryd yn dod at ei gilydd, i weithio'n annibynnol ar eu cynlluniau eu hunain Dyna'n sicr oedd hanes grwp Caer Efrog - gydweithio gan nifer o athrawon a oedd yn adnabod ei gilydd yn dda.

Mae yna gydweithio rhwng y colegau, yr adran addysg o'r cyngor sir a'r gerddi er mwyn creu swyddi ac mae hynny yn beth da i ardal wledig, meddai'r Cynghorydd Huw John.

Rydym yn ymfalchio yn y ffaith ein bod yn gweithio mewn partneriaeth â BBC Cymru a chredwn mai dim ond drwy gydweithio y bydd BBC Adnoddau, Cymru yn parhau i fod yn fusnes adnoddau cyfryngol llwyddiannus a blaengar.

Mi fydd disgwyl hefyd i Rod Richards gydweithio efo awdurdodau lleol - Ynys Môn, er enghraifft, sydd, yn ei farn gyhoeddus o, yn llawn llygredd; neu awdurdodau Llafur y De, wedyn, a fyddai, yn ôl ei awgrym o eto, yn fodlon gwerthu'u nain yn hytrach na chanu iddi.

Dylid rhoi blaenoriaeth i gynlluniau sydd yn cwrdd anghenion lleol am waith, yn cyfrannu at amcanion parc cenedlaethol a helpu i ychwanegu at werth cynhyrchion lleol; ii) Datblygwyr ddylai fod yn gyfrifol am gostau ychwanegol dylunio neu ddefnyddiau adeiladu er mwyn cyrraedd y safonau amgylcheddol uwch sydd yn angenrheidiol mewn parciau cenedlaethol; iii) Dylai asiantaethau datblygu gwledig ac awdurdodau lleol gydweithio gyda'r parciau cenedlaethol i hybu cynlluniau datblygu economaidd sydd yn cydweddu ag amcanion parciau cenedlaethol; iv) Dylid edrych yn ffafriol ar arall gyfeirio fferm sydd yn cyfrannu at gynnal busnesau fferm heb beryglu amcanion parciau cenedlaethol.

Trwy gydweithio mewn clwstwr o ysgolion, gellir cronni a rhannu profiad llawer o athrawon ac o adnoddau materol a hybu cyfathrach ehangach ymhlith plant.

Ar yr un pryd yn y dalaith gyfan byddai mwyafrif y Protestaniaid yn llai nag yw ar hyn o bryd ond byddai Senedd Ulster yn sicrhau'r moddion i'r ddwyblaid gydweithio'n greadigol er y byddai mwyafrif o hyd gan y Protestaniaid.