Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gydwybod

gydwybod

Ni all neb anghofio'i brofiadau trist a llon, tawel a chynhyrfus, tra bo'r cof yn effro a'r gydwybod yn fyw.

Magodd y beirdd gydwybod gymdeithasol, a daeth canu i'r rhinweddau Cristionogol, megis sobrwydd ac elusengarwch, yn brif thema i'w gwaith.

Rhaid chwalu'r myth mai rhywbeth personol yn unig yw iaith a'i bod yn fater o gydwybod neu yn ddewis personol.

Yr hyn a olygir yw y dylai pa gredoau bynnag sydd gan y bardd fod hefyd yn deimladol angerddol ganddo, yn hytrach na bod yn ddogmâu a wasanaethir o gydwybod neu o ddyletswydd.

Am y gwyddant yn eu calonnau y dylai Cymru fod yn ymreolus y mae ganddynt gydwybod Gymreig na rydd lonydd iddynt, gan wneud gwarth eu hannheyrngarwch yn fwy llidus.

Llareiddiwyd ei gydwybod euog drwy gynnig statws uwch i'r gweithwyr yn Lleifior, ond yntau, yr aristocrat, a sbardunodd y fenter.

Roedd ganddo ef gydwybod gymdeithasol effro iawn, wrth gwrs, ond yr esiampl a gynigiai ei stori i'r genhedlaeth yn union cyn f'un i oedd gwerth hunan-wellhad: goruchafiaeth hunan-ddisgyblaeth, diwydrwydd, a byw'n dda, gwerthoedd oedd wedi eu hangori mewn patrwm cymdeithasol di-sigl.

Meddai: "Y mae hunan lywodraeth seneddol i mi yn fater o gydwybod Gristnogol" Gwelai Syr Ifan ab Owen Edwards ddisglair olau 'mlaen.

'Roedd ymyl dalennau Beibl Genefa yn llawn o nodiadau esboniadol, Calfinaidd eu diwinyddiaeth a gwrthglerigol eu naws, ac fe fuont yn gryn dramgwydd i'r awdurdodau eglwysig pan geisiwyd ym mlynyddoedd cynnar Elisabeth I sefydlu trefn eglwysig Brotestannaidd y gallai Pabydd ei derbyn heb dreisio gormod ar ei gydwybod.

Yn ei henaint dangosodd gryn ddewrder yn ei ymlyniad wrth gydwybod ar bwnc heddwch a rhyfel, ond er iddo dreulio blynyddoedd yng Nghymru nid ymddengys iddo ymglywed o gwbl â'r cyffro cenedlaethol na dangos y diddordeb lleiaf ym mhwnc cenedlaetholdeb mewn egwyddor na gweithred yng Nghymru.

Oherwydd fod ei gydwybod yn pigo, ymddiswyddodd Haydn o'i swydd fel blaenor.

Yr oedd cyflwr gresynus tlodion Llanfaches yn pwyso ar gydwybod y gweinidogion.

Mae'n wynebu croesffordd yn ei fywyd, ei gydwybod yn dechrau ei boeni ynglŷn â digonedd ei deulu, ond yn bwysicach fyth mae wedi syrffedu ar y syniad o fyw fel gwr bonheddig, ac mae ei gariad at Lisabeth yn prysur oeri.

Gwaith creadigol, ar unrhyw ffurf lenyddol, yn dangos tyndra rhwng dyn a'i gydwybod.

Mae ganddo allu sy'n medru dallu'r gydwybod.