Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gydymdeimlad

gydymdeimlad

Tueddai Pusey i gydymdeimlo â'r bwriad hwn, er mwyn profi nad oedd gan y mudiad gydymdeimlad ag Eglwys Rufain, ond ni fynnai Newman na Keble gael dim i'w wneud ag o.

Un genedl fawr Brydeinig ydym, o dan yr un Llywodraeth, yn cael ein cynrychioli yn yr un senedd gyffredinol, ac y mae ein gwir nerth yn ein hunoliaeth... ac y mae'n rhaid imi ddweud nad oes ynof ond ychydig o gydymdeimlad â'r cri a godir yn y dyddiau hyn am gael Plaid Gymreig yn y senedd.

Pwysleisiais fod yn rhaid darlledu'r adroddiad nos Lun, a mynegais gydymdeimlad â'r swyddog am fod ganddo waith mor anodd.

Os byddwch yn mynd i drafferthion, fe gewch lawer rhagor o gydymdeimlad yn y banc na gan gwmni ariannu.

Fel ficer gyda'r Eglwys, oes gennych chi gydymdeimlad gyda hwy?

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, yr oedd ei ewythr Wil yn dal i fyw yn Rhosaeron (gwr y lluniais ysgrif arno i'r Genhinen gyfredol, 'Ei ewythr Gwilamus'), ac yr oedd yn filwrol ei gydymdeimlad.

Yr oedd hefyd yn filwrol ei gydymdeimlad ac wedi brifo teimladau Waldo droeon drwy ddweud pethau cas ynghylch ei basiffistiaeth, ac wedi gweithio'n ei erbyn ar y pwyllgor addysg i'w ddiswyddo.

Yn y bore daeth Siôn Corn yr ysbyty heibio i bawb, ac i'r rhai a gollodd eu baban yr oedd ganddo hances boced, ychydig o siocled a gair o gydymdeimlad a chysur.

Gan eu bod heb gydymdeimlad â'r ffordd o fyw yn y cymunedau a gaent yno, roedd dod wyneb yn wyneb ag iaith gwbl estron yn brofiad brawychus.

Felly, ni lethir y tenant yn ormodol gan ddagrau o gydymdeimlad dirdynnol dros ei feistr tir druan.

I rywun â chryn gydymdeimlad, fel oedd gan Symons, roedd amgylchiadau broydd gwledig a diwydiannol Cymru yn adwythig eu dylanwad.

Nid oedd gan y Dirprwywyr ronyn o gydymdeimlad.

"Dwi'n gwybod bod 'na lot gormod o siarad am addysg yn yr ysgolion gan bobol Prifysgol sy'n gwybod dim am y peth ond mae gen i gydymdeimlad ag athrawon dosbarth chwech dan drefn newydd pethau.

Yr oedd Mr Jones y Person, hefyd yr un mor ddiragrith yn ei gydymdeimlad, ac wrth weled yr Yswain a'r Person mor hynaws tuag at Harri, dilynodd eraill rhai na theimlent yn dda nac yn ddrwg ato eu hesiampl.

Gwir iddo lenwi swydd trethwr yn anrhydeddus iawn, ond gwyr y dylaf mai ychydig o gydymdeimlad sydd rhwng seryddiaeth a Threth y Tlodion, neu Gyngor Plwyf, er i'r seryddwr fod yn ysgrifennydd y Cyngor hwnnw am flynyddoedd.

Wrth weld nifer yr ymwelyddesau caredig a da eu hamcan yn ddiamau yr wyf yn meddwl ddarfod imi wneuthur yn gall drwy ofyn i wraig synhwyrol gymryd gofal o Miss Hughes a'i chadw rhag cael ei boddi gan gydymdeimlad.

Na, dydw i ddim yn dy feio di, Huwcyn." Trwy fy ngalw'n Huwcyn llwyddodd Gruff, yn ei ffordd gynnil ei hun, i gyfleu coflaid o gydymdeimlad fel y'm hysgogwyd innau i fwrw rhagor ar fy mol.

Soniai pawb am y golled a fyddai i'r achos, a rhedai'r holl gydymdeimlad tuag at Miss Hughes.

Bu+m lawer yn ei gwmni o dro i dro, a bob amser, o bob peth, byddai gogwydd ei feddwl yn wastadol at ddaioni ac at gydymdeimlad ag uniondeb a phurdeb.

Gwir fod D J yn rhoi o helaethrwydd ei gydymdeimlad a'i hoffter o'r natur ddynol ym mhob cyflwr, a Lingen yn dadansoddi'n oer heb flewyn ar ei dafod.

DIOLCH Dymuna John, Gwyneth a'r plant Hengefn Llanfair Caereinion, ddiolch yn ddiffuant iawn am bob arwydd o gydymdeimlad a hwy yn eu profedigaeth o golli tad a thaid annwyl.

Dymuna'r teulu ddatgan eu diolch cywiraf am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a estynnwyd iddynt yn ystod eu profedigaeth drist.