Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyfansoddiad

gyfansoddiad

'Dwi'n siwr fod ei gyfansoddiad o fel mynydd tanllyd eiliadau cyn ffrwydro.

Nid oedd yn dasg anodd profi ffolineb yr ensyniadau a gallai ddweud heb flewyn ar ei dafod fod y Methodistiaid yn gwbl deyrngar i gyfansoddiad Prydain ac i'r Eglwys Sefydledig.

Syniai Saussure am iaith fel chwarae gwyddbwyll, lle y bo i'r darnau eu gwerth a'u swyddogaeth a lle y bo'n rhaid eu symud yn ôl rheolau arbennig; bod dwy wedd ar astudio iaith, sef y wedd syncronig, disgrifiad o gyfansoddiad iaith, ei sieniau, ei geiriau a'i gramadeg mewn cyfnod arbennig, a'r wedd ddeiacronig, y cyfnewidiadau sy'n digwydd i iaith dros gyfnod o amser; a bod rhai gwahaniaethau rhwng Langage, gallu cynhenid yr hil ddynol i gyfathrebu trwy gyfrwng arwyddion llafar confensiynol, la langue, y system ieithyddol fel y mae'n bod yn meddwl pawb sy'n defnyddio'r iaith, a la parole, arferion llafar ac ysgrifenedig y siaradwyr, yr unig wedd y gellir ei hastudio.

Mae'r lliwiau'n rhan o gyfansoddiad gofodol y llun, glas clir yr awyr a melyn y das yn gwrthgyferbynnu â gwyrdd tywyll y blaendir.

Nid oes gan y Deyrnas Gyfunol gyfansoddiad ysgrifenedig a'r traddodiad hwnnw o gymryd pethau'n ganiataol oni phrofir yn wahanol sydd i gyfrif am nad oes datganiad ffurfiol o statws swyddogol y Saesneg fel sydd ar gyfer ieithoedd eraill mewn gwladwriaethau sydd â chyfansoddiad ysgrifenedig.

Sugnodd i'w gyfansoddiad yr olygfa wrth syllu ar y clogwyni llwydwyn y tu ol iddo, a rhythu'n obeithiol tua Ffrainc.

yn wenithfaen i gyd gan fod yn ei gyfansoddiad cymysg Iechfaen gwyrdd o ansawdd rhagorol -y 'greens', fel y'i gelwir--a hollt 'fel sidan' ynddynt.

Tony Blair yn llwyddo i ddiddymu Cymal 4 o gyfansoddiad y Blaid Lafur.

Y mae uchafswm o ddwy fil o bunnau o gosb am bob anifail y ceir hormonau anghyfreithlon yn ei gyfansoddiad.

Sylwais fod blwch postio yn ymyl y ciosg a ymddangosai yn wirioneddol hynafol er bod ER wedi ei doddi i'w gyfansoddiad.

Ond mae digwyddiadau fel hyn yn gyffredin, yn rhan annatod o gyfansoddiad y gêm.

Mae pob rhan yn faes mor eang ynddo'i hun fel nad oes digon o allu nac amser gan ddyn i leibio i'w gyfansoddiad y cyfan a wyddys amdanynt.

Mae'n rhaid ei fod yn ddyn o gyfansoddiad cryf.

Byddwch yn sensitif i gyfansoddiad ieithyddol y Pwyllgor.