Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyfansoddiadol

gyfansoddiadol

Oherwydd y gred fod y drefn gyfansoddiadol yn annigonol i ymdrin â'r problemau a fyddai'n codi wedi'r Rhyfel, daeth sôn am sefydlu seneddau rhanbarthol, system ffederal.

Gellid gwrthod cyflogi rhywun os oedd perygl, yn nhyb yr awdurdodau, y byddai'r person hwnnw yn ymgymryd â gweithgareddau gwrth-gyfansoddiadol yn y dyfodol.

Ar ôl i gynghorau lleol etholedig ymddangos o dan y gyfundrefn gyfansoddiadol yn y chwedegau, daeth tro ar fyd.

Yn wyneb y dehongliad "treisgar" a roddai rhai pobl barchus ar dân Penyberth, yr oedd e'n tybio mai da fyddai pwysleisio'n gyhoeddus mai plaid gyfansoddiadol a heddychol oedd y Blaid; ond yn ôl y cof sydd gennyf i, nid oedd e'n sicr mai doeth fyddai codi'r mater i'r gwynt yn y Gynhadledd: tebyg ei fod yn ofni yr ai'n ddadl fawr ar y cynnig, a hynny'n fel ar fysedd y collfeirniaid o'r tu allan.

Dyma un o dermau mawr gwleidyddiaeth gyfansoddiadol y ganrif newydd yn dod i mewn i'n geirfa.

Ac felly mae'r ddeddf a gafodd ei phasio'n ddiweddar yn cyfyngu'r hawl gyfansoddiadol i loches yn yr Almaen i'r bobl hynny sy'n cyrraedd yn syth o'r wlad lle roeddent mewn perygl.

Ond o'n safbwynt ni, yn bwysicach na'r ffynhonellau hyn, mae i'r egwyddor safle arbennig mewn cyfraith gyfansoddiadol, oblegid bu swydd iddi yng nghyfansoddiad yr Almaen.