Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyfartal

gyfartal

Bu chwarae caled y prynhawn hwnnw, â'r bachwyr yn weddol gyfartal.

Gêm gyfartal, felly, a digon i Alan Cork gnoi cil yn ei gylch.

Ar y llaw arall fe dorrodd Phil Price 70 am y trydydd diwrnod yn olynol efo rownd arbennig o dda - 68 - mewn gêm gyfartal efo Retief Goosen.

Mae pethau'n gyfartal iawn ar ddiwedd diwrnod cyntaf y prawf criced rhwng Lloegr a Pakistan yn Faisalabad.

Peniad wedyn gan Jao Pinto a roedd y sgôr yn gyfartal erbyn y egwyl.

Roedd gêm gyfartal yn ganlyniad teg ac o leia wnaeth Abertawe ddim colli am y pedwerydd tro yn olynol.

Os oeddent wedi bod yn briod am dros saith mlynedd roedd yn rhaid rhannu eu holl eiddo yn gyfartal a theg rhwng y ddau.

Mae'r Trydydd Prawf rhwng De Affrica ac India'r Gorllewin wedi gorffen yn gyfartal.

Yna cic rydd gan John Frain a pheniad gan Ian Sampson a roedd y sgôr yn gyfartal.

Daeth Bari Morgan a Tommy Mutton ag Abertawe yn gyfartal wedi 68 ac 82 munud.

Eto Trundle ddaeth â Wrecsam yn gyfartal.

Mae'r ddau achos yma unwaith eto yn tanlinellu'r ffaith nad yw'r Gymraeg yn gyfartal â'r Saesneg yng Nghymru, a hynny er gwaetha'r ffaith bod y Ddeddf Iaith wedi'i phasio ers dwy flynedd.

Cyfeiriodd Merêd at gyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg yn y Cynulliad a dadlau ar sail egwyddor o gymryd fod y ddwy iaith yn gyfartal y dylid cyfieithu i'r Gymraeg o'r Saesneg fel y cyfieithir o'r Saesneg i'r Gymraeg.

Cafodd y Cymro Phil Price rownd o 72, mae e felly yn gyfartal â'r safon.

Rhaid i'r Gymraeg a'r Saesneg fod yn gyfan gwbl gyfartal o ran eu dilysrwydd annibynnol.

Etifeddai'r naill ddosbarth eu heiddo yn ôl y gyfraith Seisnig, a olygai etifeddu gan y cyntafanedig, a'r llall yn ôl y gyfraith Gymreig (neu Gyfraith Hywel fel y'i gelwid), a olygai rannu'r etifeddiaeth yn gyfartal rhwng meibion, a hynny o fewn uned deuluol ddiffiniedig.

Gêm gyfartal 1 - 1 yn erbyn Porthmadog gafodd Llangefni, sy'n yr ail safle.

Lloegr fydd yn chwarae yn erbyn Yr Eidalwyr yn yr Wyth Ola os caiff tîm Kevin Keegan gêm gyfartal yn erbyn Romania yn Charleroi.

Ond mor belled mae pethau wedi bod yn mynd yn bur dda i Gymru gydag Ian Woosnam yn curo Bernhard Langer a phawb yn gyfartal yn y ddwy gêm arall.

Doedd pnawn Sadwrn ar y Maes Cenedlaethol ond yn brawf pellach o gyn iseled yw pêl-droed yn ein gwlad a dathlu bod yn gyfartal yn halen ar y briw.

Gêm gyfartal, 1 - 1, gafodd Gwlad Pwyl yn erbyn Yr Alban mewn gêm gyfeillgar yn Begosh.

Mae'n gyfartal ddi-sgôr ar hyn o bryd ar ôl y cymal cyntaf yn Barcelona.

Fe orffennodd y gyfres brawf rhwng Lloegr a Phacistan yn gyfartal, un yr un, ar ôl i'r ymwelwyr ennill gêm hynod yn Old Trafford.

Ildiodd Swindon gôl i Martyn Chalk wedi pymtheg eiliad ond daeth y tîm cartre'n gyfartal hanner awr yn ddiweddarach - Danny Invincible oedd y sgoriwr.

Llwyddodd Gwlad Pwyl i daro'n ôl a dod yn gyfartal gyda pheniad gan Glowacki.

Roedd Lerpwl ar y blaen, 2 - 1, tan yr eiliadau olaf pan sgoriodd Alexios Alexandris ei ail gôl i ddod a'r sgôr yn gyfartal.

Aeth Arsenal trwodd i ail rownd Cynghrair Pencampwyr Ewrop drwy ddal Lazio i gêm gyfartal 1 - 1 yn Stadio Olympico.

Mae Caerliwelydd (Carlisle United) wedi sicrhau y byddan nhw'n aros i fyny yn dilyn gêm gyfartal, 1 - 1, yn Lincoln.

Yr un argyhoeddiad a barai i Cradoc fynnu fod y saint i gyd yn gyfartal â'i gilydd.

Dros y blynyddoedd mae Senedd Ewrop wedi pasio sawl mesur yn datgan bod rhaid trin pob iaith swyddogol yn gyfartal er mwyn sicrhau cyfartaledd ymhlith yr aelodau.

Ond roedd y sgôr yn gyfartal gyda dim ond wyth munud yn weddill a bu raid cael dwy gôl gan Paul Scholes i Man U ennill.

Ond gyda Lloegr angen pwynt yn unig i fynd trwodd i'r wyth olaf daeth Romania yn gyfartal ddwy funud wedir egwyl.

Yna gôl wych gan chwaraewr y gêm, Mark Dickerson, wedi camgymeriad gan golwr Caerdydd, Jon Hallworth, yn dod a Llanelli yn gyfartal.

Dylid gwneud arolygon rheolaidd o'r ddarpariaeth cyfatebol o adnoddau yn yr ysgolion cyfrwng Gymraeg er mwyn mesur i ba raddau mae'r cyfle yn gyfartal i bob disgybl sy'n derbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

Rhaid i Man U o leiaf sicrhau gêm gyfartal.

Yn y Cynghrair Cenedlaethol neithiwr - cafodd Y Barri, sydd ar y brig, gêm gyfartal, 2 - 2, gyda Hwlffordd.

Roedden nhw'n chwarae Chelsea yn yr Uwch-gynghrair ac fe orffennodd hi'n gyfartal 2 - 2, felly maen nhw'n dal i frwydro am y trydydd safle.

Mae cricedwyr Lloegr yn paratoi am y drydedd gêm brawf yn erbyn Pakistan yn Karachi ar ôl i ddwy gêm gyntaf y gyfres orffen yn gyfartal.

Yr oeddan nhw wrthir un fath yn Iwerddon - ond o leiaf yr oedd eu tîm hwy wedi cael eu gêm gyfartal oddi cartref - a hynny yn erbyn Portiwgal a ddaeth mor agos i ennill Cwpan Ewrop yn ddiweddar.

Diddordebau/ gweithgareddau'r sampl Dyma brif ddiddordebau'r sampl yn eu trefn : O edrych ar y tabl uchod, gwelir fod y pedwar diddordeb cyntaf yn weddol gyfartal o ran canrannau o fewn y grwpiau oedran a nodir.

Pan edrychir ar restr gyflawn o weithiau Elfed, un peth sy'n taro dyn ar unwaith yw pa mor gyfartal, yn ieithyddol, ydoedd swm ei gynnyrch.

Oherwydd hynny dwin meddwl y bydd Lloegr yn cael gêm gyfartal heno.

Cafwyd y gem fwya dramatig yng nghystadleuaeth Euro 2000 neithiwr - gêm gyfartal Iwgoslafia a Slovenia.

Mae Morgannwg yn dal ar waelod Ail Adran Pencampwriaeth Criced y Siroedd ar ôl gêm gyfartal yn erbyn Essex ar Erddi Sophia ddoe.

Mae Caerdydd yn yr wythfed safle yn y Drydedd Adran yn dilyn gêm gyfartal oddi cartref yn erbyn Chesterfield, y tîm sydd ar y brig.

Yn gynnar rhoddodd Nuno Gomes Portiwgal ar y blaen a sgoriodd Thierry Henry i ddod a Ffrainc yn gyfartal bum munud wedir egwyl.

Gydag ugain mund o'r hanner cynta yn weddill daeth Wrecsam yn gyfartal.

Gorffennodd Colin Jackson yn gyfartal ail yn y 110 metr dros y clwydi mewn amser o 13.

Gêm gyfartal, 3 - 3, oedd hi rhwng Leeds a Lazio.

mae'r Alban wedi cael gêm gyfartal 25 - 25 yn erbyn Nelson Bays ar eu taith yn Seland Newydd.

Mae Manchester United gam yn nes at rownd wyth ola Cynghrair y Pencampwyr ar ôl gêm gyfartal, 1 - 1, yn Panathanaikos.

Gêm gyfartal, 1 - 1, oedd hi.

Daeth Cymru'n gyfartal ar ôl 74 munud efo ergyd o bell gan Mark Pembridge.

Mae Deddf Llywodraeth Cymru 1998 yn gosod dyletswydd statudol ar y Cynulliad i weithredu'r egwyddor fod y Gymraeg a'r Saesneg yn cael eu trin ar y sail eu bod yn gyfartal wrth gynnal ei fusnes.

Roedd hi'n gêm gyffrous, digon o adloniant ar cwbl yn gyfartal yn y diwedd.

Roedd Mark Kinsella'n meddwl ei fod e wedi ennill y gêm i Charlton, cyn i Lee Hendrie wneud y sgôr yn gyfartal unwaith eto.

Cipiodd cricedwyr Pakistan ddwy o wicedi Lloegr ar ddiwedd ail ddydd y gêm brawf yn Faisalabad gan gadw'r gêm yn hynod gyfartal a chyffrous.

Gêm gyfartal, 1 - 1, gafodd Halifax gyda Brighton.

Yn yr ail hanner daeth Damian Lacey ag Abertawe yn gyfartal.

Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi esgyn yn ddiogel i Ail Adran Cynghrair y Nationwide diolch i gêm gyfartal, 3 - 3, ar faes Caerefrog - York City - echdoe.

Cafodd Penybont, sydd yn gyfartal gyda Chasnewydd a Chaerdydd ar frig y Cynghrair, fuddugoliaeth hawdd dros Cross Keys ar Gae'r Bragdy.

Teg fyddai dweud ei bod hi'n lled gyfartal ymysg blaenwyr y ddau dîm, ac inni weld dau wyth a wyddai beth a ddisgwylid ganddynt.

Ysgafnhau a wna'r galwadau ar weithwyr naw tan bump erbyn diwedd y prynhawn a phrin fod yna'r un maes lle na rennir baich y gwaith yn weddol gyfartal.

Mae'r wraig yn rhoi genedigaeth ac yn magu plant; ni all y gwr a'r wraig, felly, fod yn gyfartal.

Yn rownd gynta Pencampwriaeth Golff Agored Iwerddon yn Ballybunion, mae Sergio Garcia o Sbaen a Patrick Sjoland o Sweden yn gyfartal ar y blaen gyda sgôr o 64 - saith ergyd yn well nar safon.

Pedair gêm gyfartal o'r bron - dyna record Cymru yn rownd ragbrofol Cwpan y Byd.

Roedd cyffro mawr ar gae Sain Helen, Abertawe, neithiwr yn y Cynghrair Un-dydd Cenedlaethol wrth i Forgannwg a Sir Warwick orffen yn gwbl gyfartal.

Mae ei gynnyrch yn gyfartal hefyd o ran natur y gwaith a gyhoeddodd yn y ddwy iaith: ceir barddoniaeth, emynau, pregethau, ysgrifau, cofiannau, trafodaethau hanesyddol, gweithiau defosiynol, gwaith golygu, oll yn y Gymraeg a'r Saesneg.