Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyfathrach

gyfathrach

Yn y cyfarfodydd hyn daw nifer fawr o bobl ieuanc i gyfathrach agos iawn â'i gilydd.

Dywedid hefyd fod y cyfarfodydd gweddi min nos, a'r gyfathrach a ddilynai wrth ddychwelyd adref, yn ei wneuthur yn waeth.

Ond y nef a helpo'r milwyr a geisiai foddio eu chwant trwy gyfathrach â'r merched brodorol, ac o ganlyniad eu cael eu hunain mewn 'anhawster arbennig' ychydig ddyddiau'n ddiweddarach.

Mae'r diweddglo rhethregol yn cwblhau'r broses o dderbyn y farwolaeth trwy ffarwelio'n ffurfiol â'r gyfathrach a fu rhwng y bardd a'i fab, gan gyrraedd uchafbwynt hynod effeithiol gyda'r cyfarchiad syml a thyner, 'Siôn fy mab'.

I mi, merch yw'r un a gyferchir yn y penillion ac ol-athronyddu methiant carwriaeth yw'r cynnwys, sef ceisio dadansoddi'r gyfathrach agosaf a mwyaf personol a all ddigwydd rhwng mab a merch.

Cyn hir deuai ei thro hithau i briodi, a dyna fyddai diwedd y gyfathrach dawedog rhyngddynt.

Y mae awgrym yn Genesis o gyfathrach rhwng merched dynion a bodau goruwchnaturiol a elwid yn ddemoniaid.

Gwir mai'r clwb lleol ple mae'r aelodau yn cyfarfod yn gyson o wythnos i wythnos yw pwerdy'r mudiad - yno y ceir y gyfathrach glos, yno y ceir y gwmni%aeth ddiddan, ond y perygl o gadw o fewn muriau'r clwb lleol yw i'r aelodaeth ddiflasu gan nad oes sialens ychwanegol iddynt.

Yr oedd hefyd braidd yn amheus ei moesau, gan ddifyrru mwy nag un cariad ar y tro - nid, meddai hi, am ei bod yn mwynhau'r gyfathrach ond am ei bod yn rhoi'r fath fwynhad i'w chariadon!

Mae yna hefyd gannoedd o bobol sy'n cael eu haflonyddu gan ysbrydion ac mae yna filiynau sy'n mynd drwy fywyd heb weld na chael unrhyw gyfathrach ag ysbryd na bwgan.

Yng ngeiriau'r Athro Gryffydd: "Meddwl critig a rhesymegwr a oedd gan y naill [Emrys ap Iwan]; meddwl gweledydd a bardd a oedd gan y llall." Ni wn pa gyfathrach a fu rhwng y ddau, os bu un o gwbl, ond nid damwain yn unig yw nad ysgrifennodd Emrys (hyd y medrais i weled) yr un erthygl i Cymru, er ei fod ef a'r cylchgrawn wedi cydoesi am bymtheng mlynedd.TRAED MEWN CYFFION - Kate Roberts (tud.

Gan hwn mynnwn gyngor, gan hwn acw wybodaeth, gan un arall nwyddau, hwylustod, cysylltiad: cant a mil o bethau, a'r pethau hynny yw'r unig gyfathrach rhyngom ag ef.

"Diolch, Elystan." 'Roedd y gyfathrach rhyngddynt yn closio a dôi cyfle i rannu cyfrinachau.

O'r gyfathrach hon y daeth creaduriaid fel y `li l ith' y mae sôn amdanynt yn y Beibl.

'Pedwar hygar rhywiogaidd', meddai, 'Llunon teg oll yn un ty' - enghraifft hynod o'r gyfathrach glos a allai ffynnu mewn perthynas deuluol.

Gobaith Ali oedd na fyddai Fred yn barod i dderbyn y pedwar plentyn yn ogystal â Mary, na Mary'n fodlon ildio'r plant er mwyn Fred, ac y deuai'r gyfathrach rhyngddynt i ben yn raddol, fel y gwnaethai gyda Martin Charles.