Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyfathrebu

gyfathrebu

Ond o fy mhrofiad anffodus i o feddygon ac ysbytai does a wnelo lliw eu croen fawr ddim ag anallu rhai meddygon i gyfathrebu a defnyddio gair yr adroddiadau diweddar.

Maen nhw'n rhy wan erbyn hyn i gyfathrebu â fi, ond gallan nhw ddal i'w wneud drwyddot ti.' Golchodd ton o benysgafnder dros Meic.

Mae Cyfarwyddwr Sain wedi dychwelyd y ffurflenni i D^y'r Cwmniau gyda chais syml - a wnaed droeon o'r blaen - am i D^y'r Cwmniau ddarparu eu ffurflenni mewn ffurf dwyieithog, fel y gall pob cwmni yng Nghymru gael dewis teg a chlir ym mha iaith y dymunant gyfathrebu a'r T^y.

Mae'n dal yn anodd i gyfathrebu â'r ffoaduriaid ond dim hanner mor galed ag oedd hi ar y dechrau.

Syniai Saussure am iaith fel chwarae gwyddbwyll, lle y bo i'r darnau eu gwerth a'u swyddogaeth a lle y bo'n rhaid eu symud yn ôl rheolau arbennig; bod dwy wedd ar astudio iaith, sef y wedd syncronig, disgrifiad o gyfansoddiad iaith, ei sieniau, ei geiriau a'i gramadeg mewn cyfnod arbennig, a'r wedd ddeiacronig, y cyfnewidiadau sy'n digwydd i iaith dros gyfnod o amser; a bod rhai gwahaniaethau rhwng Langage, gallu cynhenid yr hil ddynol i gyfathrebu trwy gyfrwng arwyddion llafar confensiynol, la langue, y system ieithyddol fel y mae'n bod yn meddwl pawb sy'n defnyddio'r iaith, a la parole, arferion llafar ac ysgrifenedig y siaradwyr, yr unig wedd y gellir ei hastudio.

Un o fwriadau'r Pecyn HMS felly, yw cynnig cyfle i athrawon: * adfyfyrio ar eu harferion dysgu presennol, mewn sefyllfaoedd uniaith yn ogystal a dwyieithog gan ofyn pam a sut y maent yn cyflwyno'r gwaith fel y gwnant, * gyd-drafod gydag aelodau eraill o'r un adran y dulliau dysgu hynny sy'n seiliedig ar y defnydd o iaith wrth gyfathrebu yn eu pwnc, * elwa oddi wrth brofiad aelodau eraill sydd yn yr un adran.

Dan y pennawd olaf hwn y bydd yr ieithydd yn ymdrin â chwestiynau dysgu ieithoedd, seicoleg iaith, cymdeithaseg iaith a pheirianneg gyfathrebu (trosglwyddo iaith trwy gyfrwng heblaw'r rhai arferol o siarad ac ysgrifennu).

Y mae celfyddyd y Pwyliaid, fel hwy euhunain, yn lawn dewrder, gwreiddioldeb ac ysfa angerddol i gyfathrebu.

'Anhawster' oedd y Gymraeg, rhwystr i gyfathrebu, gan gadw dynion yn ôl rhag gwybodaeth o'r byd a'r betws.

Mewn dinas heb system ffôn doedd hi ddim yn hawdd i'r llu mudiadau dyngarol gyfathrebu â'i gilydd.

gyfathrebu drwy siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu

Mae'n rhyfeddu at y dull newydd hwn o gyfathrebu.

Bydd hyn yn galluogi busnesau yng Ngwynedd a staff yr Awdurdod i gyfathrebu â'i gilydd ac â chanolfannau led-led y Deyrnas Gyfunol a'r tu draw.

Yr oedd y gallu i gyfathrebu'n effeithiol â gwerin gwlad yn allweddol bwysig yn eu gyrfa.

Mae BBC Cymru hefyd wedi sefydlu fforwm sgwrsio o'r enw talkwales i alluogi gwrandawyr a gwylwyr i gyfathrebu am faterion Cymreig.

Mae'r Cyngor yn awr yn chwilio am fentrau ategol sydd wedi eu cyllido'n ddigonol i gyfathrebu â'r gynulleidfa ar lwyfan ehangach.