Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyfeiliornus

gyfeiliornus

Y diweddar Athro Charles Coulson, yn fwy na neb arall, a ddangosodd mor gyfeiliornus yw'r ateb yma.

Mae'r syniad bod ffontiau sans-seriff yn haws i'w darllen oherwydd eu bod yn 'symlach' yn gyfeiliornus.

Wedyn byddai'r gair dirprwyadaeth yn gyfeiliornus gan ei fod yn awgrymu mai ar ewyllys da'r awdurdod canolog y mae hawliau'r awdurdod mwy lleol yn dibynnu, tra bo'r egwyddor yn pwysleisio fod gan yr awdurdod lleol yntau hawliau.

Erbyn hyn hefyd 'roedd Waldo wedi clywed mai cwbl gyfeiliornus oedd y datganiad a roddodd Mr S iddo am y pwyllgor: 'roeddent hwy wedi pasio i gadw Waldo yng Nghas-mael yn sefydlog ac nid yn unig tan y Tribiwnlys fel y dywedasai Mr S.

Efe a achosodd i'r economi aros yn ei hunfan am gyfnod hir, meddir, drwy osod y pwyslais i gyd ar atgyfnerthu'r diwydiannau trymion traddodiadol a alluogai Rwsia, yn ei farn gyfeiliornus ef, i gystadlu a gwledydd nerthol y gorllewin.

Ni chryfhasoch y rhai llesg, ac ni feddyginiaethasoch y glaf, ni rwymasoch ddrylliedig chwaith, a'r gyfeiliornus ni ddygasoch adref, a'r golledig ni cheisiasoch; eithr llywodraethasoch hwynt â thrais ac â chreulondeb A hwy a wasgarwyd o eisiau bugail: a buant yn ymborth i holl fwystfilod y maes, pan wasgarwyd hwynt.