Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyfeillion

gyfeillion

codwch fwyn gyfeillion O!

Pan oedd yn Rhydychen, canodd gywyddau i'w gyfeillion, ac yn ddiweddarach canodd ar yr un mesur i gyfarch dau ohonynt pan briodasant.

codwch fwyn gyfeillion I agor drws i ni.

Y mae bwrlwm awenyddol David Ellis yn cadarnhau tystiolaeth ei gyfeillion ei fod yn fachgen ifanc ffraeth, llawn hwyl a direidi.

Rydw i'n gwybod y byddwch yn cyfarfod â llawer o hen gyfeillion o Lanfairfechan a Threfor.

"Ddaru o dy frifo di?" gofynnodd un o'i gyfeillion.

Ei daith ffurfiannol gyntaf oedd honno o'i henfro i Wrecsam, lle cafodd ei dro%edigaeth o dan bregethu Walter Cradoc: ei berthynas â Cradoc yw pwnc Pennod IV Morgan Llwyd: ei gyfeillion a'i gyfnod.

Mae'r trydydd yn ddyn tipyn yn hŷn na'i gyfeillion, ond er hynny y mae yr un mor gefnsyth ac urddasol.

Wedi cael ychydig o fwyd, aeth Peter i geisio cysylltu â'i gyfeillion, tra bu Larry a minnau'n crwydro Sgwâr Wensylas.

Os mynn neb bererindota at wron Cynfal ar hyd ffordd Mr Thomas, awgrymaf ei fod, cyn mynd at Morgan Llwyd: ei gyfeillion a'i gyfnod, yn darllen y gyfrol Saesneg yn "Writers of Wales," cyfrol a rydd iddo olwg ar Llwyd yn ei gefndir ac yn drefnus wrth ei waith ysgrifennu.

Mi gawn son am yr hen ddyddiau - am yr hen gyfeillion." Yr achlod fawr!

Wedi clywed hanesion gan gyfeillion yn Amman, fe aeth llond dwrn ohonom at y ffin honno rhwng Gwlad Iorddonen fel y mae - ar y lan orllewinol a gipiwyd oddi arni gan Israel.

'Wyddoch chi beth, gyfeillion?

Yn y cofiant cyflwynir ni i amryw byd o gyfeillion Dei Ellis.

Ni wn pa bryd y dêl y drydedd gwaith, ond pan ddaw, ar ysgwyddau prudd ei gyfeillion y bydd John.

Yn aml, bardd crwydrol yw ef - fel y bu Waldo am lawer o'i oes (gan ymdebygu ar lawer cyfrif i Ieuan Brydydd Hir), - a'i gyfeillion yn niferus ac yn wasgaredig.

gallasai syr william preece fod wedi dweud llawer o hanes david hughes wrth robert griffith, oherwydd am gyfnod buont yn gyfeillion agos, yn cydweithio'n broffesiynol ac yn cyd gyfarfod yn gymdeithasol tra'n byw yn llundain.

Roedd e bob amser yn galw'i ddefaid yn `gyfeillion'.

Doedd ganddo ddim crebwyll diplomyddol o unrhyw fath, a llwyddodd i elyniaethu un o gyfeillion pennaf Libya, sef yr Aifft.

'Roedd o a 'Nhad tua'r un oed ac yn gyfeillion bore oes.

Cymerwyd rhan gan nifer o gyfeillion yn cynrychioli Y Glyn, Jerusalem, Salem a'r Tabernacl.

Efallai y dylwn feddwl am gael rhai wedi'u hargraffu erbyn y flwyddyn nesaf: rhywbeth ar linellau 'Cyfarchion tymhorol i'n hoff gyfeillion.

Un o'i gyfeillion agos yn y Coleg, ac wedi hynny pan oedd yn athro ysgol, oedd Kate Roberts.

Ond mae'n debyg i'w hawdur drefnu i'w hargraffu ar daflen a'i dosbarthu ymhlith ei gyfeillion a'i gydnabod, a gwelodd y llyfryddwr Charles Ashton o Ddinas Mawddwy un o'r taflenni hyn, a cheir disgrifiad ohoni ymhlith ei bapurau.

Yr oedd y ddau yn gyfeillion, Don Manuel yn cael gair o fod yn ddyn rhadlon a chyfeillgar.

`Rydyn ni mewn trafferth gyfeillion,' gwaeddodd Ivan ar ei ddau gi, Belka a Chernysh.

Wyddoch chi beth, gyfeillion, tydwi ddim hyd yn oed yn ei feio fo chwaith - wel, toeddwn i heb arfer hefo lladron yr adeg honno, yn nago'n, yn enwedig lladron yn codi o fôn llwyn drain i ymosod arnaf ac yn fy mraw mi wnes i gadw braidd gormod o sūn.

Yn nghwrs y blynyddoedd, fel nifer o gyfeillion eraill, rwyf wedi recordio sawl llyfr ar gyfer Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru yn y stiwdio fach ym Mangor.

"Mae'n syndod dy fod yn fyw," ebe un o'i gyfeillion tra'n ceisio rhyddhau Douglas o'i sedd.

Gwyddai Mrs Pamela Shepherd mai Duw oedd wedi ei dysgu sut i ddidoli'r bratiau a dywedodd hynny wrth gyfeillion lu o weithiau yn ddiweddarach.

Ond hyd yn oed yn ystod yr amserau drwg parhaodd y Gymdeithas i gynnig rhaglenni Cymreig ac ar hyn o bryd y mae bron i gant o aelodau, a thua chant arall o "gyfeillion".

Ni theimlai gymaint â hynny o golled ar ôl ei gyfeillion chwaith, hyd yn oed pan ddeallodd bod posibilrwydd y caent eu darganfod gan y fyddin Brydeinig.

Oherwydd iddo barchu treftadaeth ei ardal y mae'n parchu'r iaith a chrefft y llenor: myn hefyd fawrygu ac amddiffyn ei dreftadaeth, a diddanu ei gyfeillion, a chofnodi'i edmygedd o'i etifeddiaeth hen.

Yn ystod yr wythnos honno yn Llangrannog y deuthum i a Thalfan yn gyfeillion.

Gydag amser, bydd pob newyddiadurwr yn meithrin rhwydwaith o gyfeillion mewn swyddi allweddol y gall ddibynnu arnynt i roi gwybod iddo am ddigwyddiadau.

Treuliai ef ei bnawniau Sadwrn yng nghwmni ei fyddin breifat o gyfeillion, un ai ar deras y stadiwm bêl-droed yn cega ei dîm a gollai yn ddieithriad, neu ar y prom yn pwmpio pres i beiriannau soffistigedig y parlyrau adloniant.

Roedd yn rhaid rhybuddio ei gyfeillion, dod o hyd i'r llyfrau ac arwain y gŵr ifanc atynt, a hyn i gyd cyn toriad y wawr.

Ni allai Harri ychwaith beidio â meddwl am ei gyfoedion a'i gyfeillion, fel y byddent yn cymryd arnynt gydymdeimlo ag ef yn ei golled, ac ar yr un pryd yn llechwraidd chwerthin yn eu llewys ei fod wedi bod mor anffortunus yn ei ymdrech gyntaf i droi ei gefn arnynt hwy!

roedd amryw o gyfeillion henry richard yn ei edmygu'n fawr am ei waith a'i safiad dros heddwch parhaol a byd-eang, ac fel arwydd o'u hedmygedd derbyniodd rodd o bymtheg cant o bunnoedd, ynghyd â beibl.

Tynnwyd ei gyfeillion a'i gyd-ddisgyblion oddi wrth yr aradr a'r oged, a'u gyrru, fel wyn mudion, o'r meysydd i'r Rhyfel Mawr; gwyr ifainc heb gasineb yn eu calon at yr Almaenwyr.

Er enghraifft, mae gen i gyfeillion sydd wedi troi yn Efengylwyr, sydd wedi penderfynu, er eu bod yn Gymry Cymraeg, fod yn well ganddyn nhw fynychu Capel Saesneg gan fod hwnnw'n Gapel Efengylaidd, yn llawn hwyl a sbri ac ati.

Hoffwn ddiolch i nifer o gyfeillion a sbardunodd fy niddordeb yn y fordaith dan hwyliau i Awstralia ac yn arbennig.

Teimlai fod yr amser yn llusgo, a bod oriau wedi mynd heibio er iddo adael ei gyfeillion ar fin y dŵr.

Mae'n rhaid ei fod o'n wirion bost os oedd o'n credu y byddai o'n datgan ble'r oedd cuddfan ei gyfeillion.

Cychwyn am ddeg o'r gloch o orsaf Castellamare, wedi canu'n iach i hen gyfeillion a - mewn hwyl raslon - i'r RSM Y trên bach yn orlawn.

Ni chadwodd ddyddiadur, ni sgrifennodd ddim am ei waith, ac roedd mor ddi-sôn-amdano'i-hun fel mai ychydig iawn o'i gyfeillion agosaf hyd yn oed a wyddai gymaint a gyflawnodd yn ei luniau.

~ iolen stopiodd i herio'r hen gyfeillion a orweddai yno trwy weiddi 'Dowch allan rwan os ydach chi isio paffio efo fi fel roeddach chi'n gneud erstalwm!

Ond yn bwysicach i mi, roedd yma gyfle heb ei ail i deithio'n ôl at ddinas a du'n agos iawn at fy nghalon a chael cyfarfod a recordio sgyrsiau gyda llawer o hen gyfeillion a chyfansoddwyr y bu+m yn astudio gyda nhw.

Yn anarferol iawn nid oedd ganddi deulu agos ond cafodd ofal gan gylch bach o gyfeillion.

Cynigiwyd ein bod yn ail-edrych ar y sefyllfa ariannol eto gyda golwg ar gyfrannu mwy at Gyfeillion y Samariaid.

Gwelodd Caradog y byddent yn ei ddal ymhell cyn iddo gyrraedd ei gyfeillion.

Fellv nid oes gennyf fi, fel rhai o'i gyfeillion, ddim atgofion personol ohono yn ei flynyddoedd cynnar.

Daethom yn gyfeillion mawr toc.

Roedd yn rhaid iddo ddychwelyd at ei gyfeillion ar unwaith.

Gwelais rai o gyfeillion Saunders Lewis ar fy nhaith, ac y maent yn disgwyl wrthym.

Wynn Thomas, Morgan Llwyd: ei Gyfeillion, ei Gyfoeswyr, a'i Gyfnod.

Gwelai ei hen gyfeillion ef yn pregethu ar y stryd o fewn ychydig ddyddiau.

Ond wedyn, buasai Ynot a'i gyfeillion yn siŵr o feddwl am ryw ffordd arall, rhyw adeilad arall i'w godi, a gellid mentro y byddai'n adeilad a apeliai i rai adrannau o'r bobl.

Daeth ef a'r prentis yma yn gyfeillion mawr - a'r prentis yn ei gynorthwyo pan bu ymrafael rhwng rhai o'r morwyr ar ei long ef a rhai o long arall yn Newcastle, New South Wales.

Sbot ddy enwogion, melys gwrdd â hen gyfeillion eto eto eto, ai fo fydd nesa, pwy 'sa'n meddwl y basan ni'n cwarfod eto fel hyn mor fuan.

Trodd Henedd i edrych ar ei gyfeillion, ei lygaid yn rhwth, fel pe bai'n gofyn iddyn nhw beth i'w wneud.