Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyff

gyff

Ceisid sicrhau'r cytundebau mwyaf proffidiol er mwyn gallu ehangu dylanwad dau gyff uchelwrol ac unioni cwrs datblygiad dau wehelyth o'r rhyw breintiedig.

Ond peth arall ydi bod yn gyff gwawd a chael pobol yn chwerthin am ein pennau ni.

Y broses allblygol; rhannu doniau â chefn gwlad; adlewyrchu'r goludoedd a fuasai'n hanfod ei gyff ei hun ac a ddangosai y 'mawredd a chymeriad' a feithrinai ' o gadw tŷ gwedi y tad': y nodweddion allblygol hynny a roddai ystyr i fywyd yr uchelwr; hebddynt ni allai ei gyfiawnhau ei hun yng ngolwg ei geraint, ei gymdogaeth, na'r wladwriaeth a roesai iddo wisg gydnabyddedig ei statws gweinyddol.

Byddwn i'n gyff gwawd i'r gymdogaeth gron pe...'

Ynddi impiwyd brigau ysgolheigiaeth y Dadeni Dysg ar hen gyff llenyddiaeth Cymru, a ffrwythlonwyd iaith y beirdd gan awelon y Diwygiad.