Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyffro

gyffro

Yn ardal Dolgellau hefyd, mae yna gyffro wrth i bobol edrych yn fanwl ar bob wyneb dieithr rhag ofn i Richard Gere neu Sean Connery alw heibio'r National Milk Bar am baned rhwng ffilmio golygfeydd o'r epig Arthuraidd, First Knight.

Ond bu rhaid iddo gyfaddef wrtho'i hun, yn anewyllysgar ddigon, fod golwg eithaf difater ar bawb - hyd yn oed y plant - a oedd yn y cerbyd hir, a'i galon ef yn carlamu gan gyffro eiddgar: a pharhau i guro'n gyflym a wnai pan gyrhaeddodd Paddington.

Roedd hi'n gyffro gwyllt ar y strydoedd.

Roedd yna gyffro aruthrol a mae Caerdydd gam yn nes at yr Ail Adran.

MAE CWPAN Y Byd ar gychwyn, ac mae'r un hen gyffro ama'i eto er gwaetha pob dim.

`Cael ysgwyd llaw â 'nghefnder yn ei gegin ei hun'; sgrifennu am arferion byw yr Americanwyr cyffredin; `cael cyfle hefyd i ysgwyd llaw â rhai o'i ddynion cyhoeddus'; rhoi blas o wleidyddiaeth a pholisi; `gweled hefyd rai o olion y galanasdra ofnadwy diweddar'; fel newyddiadurwr o'r iawn ryw, cyfleu rhywfaint o gyffro'r funud.

Ychydig iawn a gyffro a achoswyd ganddi yn Llyn.

Mae Abertawe eisoes wedi disgyn i'r Drydedd Adran, ond mae yna ddigon o gyffro o hyd cyn y gêm.

Mwy o gyffro a ffwdan wedyn i hel ein trugareddau at ei gilydd cyn ei bod yn nosi'n llwyr.

Fe fu/ yna un cyfarfyddiad rhwng y ddau dim fodd bynnag a achosodd dipyn o gyffro, er mai nid pêl-droed oedd yn gyfrifol am hynny.

Ym mhlith y rhain hefyd y mae cyfraniad dieithr y dyn du a fu'n aros yn ein tŷ ni unwaith - mewn dyddiau pan oedd gweld dyn du yn dipyn o gyffro, heb sôn am ei fod yn cysgu'n yr ystafell nesaf.

Rhan o gyffro anhygoel oes Fictoria oedd agor ffenestri ar fydoedd newydd, ac ni ellir deall cymhellion y rhai a ymfudodd i bellafoedd byd heb gofio'r bwrlwm syniadau a oedd yn rhan hanfodol o hanes gwledydd Ewrop ym mhedwardegau'r ganrif ddiwethaf.

TG4 yw'r sefydliad cyntaf i ddod â chwa o awyr iach, o gyffro ac o ieuenctid i'r iaith Wyddeleg.

Crisialwyd yr holl gyffro anniddig hwn drwy'r byd yn y gerdd ' I'r Anniddig', un o gerddi'r dilyniant a enillodd y Goron i Dafydd Rowlands yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fflint ym mlwyddyn yr Arwisgo.

Ddeng mlynedd yn ddiweddarach ysgogodd mynyddoedd Gilfach Goch ddarn arall o sgrifennu a barodd dipyn mwy o gyffro trwy'r byd nag a wnaeth Huw Menai: Yma, yn How Green was My Valley Richard Llewellyn, wele gynnig myth a allai gymryd lle admabyddiaeth uniongyrchol o draddodiad.

Fodd bynnag, ar wahan i'r chwarter olaf, mae'r ffilm yn brin o gyffro ac effeithiau gweledol.

Mentrais syllu ar ei lygad chwith, ac fe sylweddolais fod ei fynegiant ar ei drai olaf, heb gyffro dicter ynddo na gwenwyn dial.

Pob clod i'r ddau dîm am sicrhau cymaint o gyffro.

Yng Nghrud y Gwynt 'roedd yna gryn gyffro.

Ond wedi'r holl gyffro gyda'r adar a'r siarc, a'r ymladd hefo'r llysywod, teimlai Douglas nad oedd ganddo fawr o nerth ar ôl erbyn hyn.

Mae'r stori'n creu gwahanol emosiynau - o gyffro cael mynd am bicnic i bryder wrth i Tedi fynd ar goll a gorfoledd pan fo'n dychwelyd yn ddiogel.