Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyffyrddiad

gyffyrddiad

Daeth ataf a rhoi ei law ar fy ysgwydd yn ei ddull cu a thadol (a bu ei gyffyrddiad grasol yn help nid bychan i mi ddeall ystyr seicolegol 'tadolaeth Duw', reit siwr).

Soniaf yn awr am y modd y gofynnwyd imi gan wraig glaf am roi iddi gyffyrddiad y Crist byw.

Yr eilydd Michael Blackwood rwydodd y drydedd wedi 64 munud, a hynny efo'i gyffyrddiad cynta yn y gêm, a roedd y deiliaid gam yn nes at rownd derfynol arall yn y Cwpan Cenedlaethol.

Ond roedd y ddadl honno ar ei mwyaf emosiynol pan ddeuai materion crefydd a Chymreictod i gyffyrddiad â'i gilydd ym mhwnc mawr yr oes - Addysg.

Un o'r peryglon pennaf a wynebai'r morwynion alltud oedd 'dyfod i gyffyrddiad a llyfrau o duedd lygredig a drygionus, a ffug-chwedlau, o'r rhai hyn, mae llenyddiaeth y Saeson yn llawn, yn fwyaf nodedig y rhan (sic) a fwriedir i'r merched."ø Sôn am nofelwyr Saesneg y mae 'G' yn yr erthygl ddifrifddwys hon.

Rhaid, drwy gyffyrddiad y bysedd ar y lein, ddychmygu taith y plu ar y blaen llinyn, a thrwyddynt gyfieithu pob cyffyrddiad ac ystum o'u heiddo yn ddarlun o'r hyn sy'n digwydd yn y pwll.

Ei gyffyrddiad cynta o'r bêl fu ei chodi allan o gefn y rhwyd.

Deuai i gyffyrddiad â phob math o droseddwyr ac ni ellid cael neb gwell i drafod eu hachosion ac i gynorthwyo'r llysoedd i wneud cyfiawnder â hwy.

Ond a ydynt gymaint allan o gyffyrddiad â bywyd pobl gyffredin fel nad ydynt yn sylweddoli cyn lleied ohonom sy'n gallu mynegi barn oleuedig ar ei gynnwys a'i oblygiadau?

Awgrymodd mai gwell fyddai i rai o'r offeiriadon mwyaf mentrus 'fynnu brech Undodaidd rhag ofn iddynt ddod i gyffyrddiad â ni yn ddiarwybod iddynt'.

Derbyniais gyffyrddiad y Crist byw gan y Brawd Mandus mewn lle heb fod ymhell o Fryste.