Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyfieithu

gyfieithu

gyfieithu'r testun yn ffyddlon ac inni yn y mannau anodd esbonio'r cyfryw yn gwbl ddidwyll.

Serch hynny, un peth oedd rhoi hawl gyfreithiol i gyfieithu; rhywbeth arall, llawer mwy anodd, oedd dwyn y maen i'r wal.

"Chaw chiw chol chim?" sef o'i gyfieithu "Be di enw o?" Na sori, doedd o ddim yn adnabod yr un Patrick!

Wyddech chwi mai ymgais rhywun i gyfieithu trifle yw, er nas gwelais erioed mewn print, treiffl yw ymgais dila y llyfryn Terman Coginio, Ysgol Addysg Prifysgol Cymru, a 'melusfwyd cymysg' yn Y Geiriadur Mawr.

Mae holl weinyddiaeth y Cynulliad yn dal i ddilyn patrwm Saesneg y Swyddfa Gymreig ac yn dibynnu ar gyfieithu yn hytrach na cheisio newid diwylliant a sicrhau gweinyddu dwyieithog effeithiol.

Casglai torfeydd bychain o'n cwmpas, a doedd dim prinder gwirfoddolwyr i gyfieithu.

Cyfeiriodd Merêd at gyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg yn y Cynulliad a dadlau ar sail egwyddor o gymryd fod y ddwy iaith yn gyfartal y dylid cyfieithu i'r Gymraeg o'r Saesneg fel y cyfieithir o'r Saesneg i'r Gymraeg.

Wedi'r cyfan os oes cydraddoldeb rhwng aelodau, dydy hi ddim yn deg disgwyl i'r aelodau dwyieithog gyfieithu drostyn nhw eu hunain.

Doedd dim byd newydd yn y thema - yn ymhlyg yn y ddeddf a fynnodd gyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg, sydd yn cael y clod am gadw'r iaith, roedd yna fwriad i roi'r Beibl yn Gymraeg i mwyn i ...

Bellach, dan ddylanwad Genefa, y mae wedi cefnu ar ddulliau rhydd Luther a Tyndale a welir yn Kynniver llith a ban ac amcanu at gyfieithu 'air yn ei gilydd' i'r diben, fel yr eglurodd mewn nodiad Saesneg yn y Llyfr Gweddi, 'i air Duw ei hun aros heb ei lygru na'i dreisio o genhedlaeth i genhedlaeth'.

Rydym hefyd yn chwilio am bobl i gyfieithu rhai o daflenni'r Gymdeithas i ieithoedd eraill; rhowch wybod i ba ieithoedd (mawr a bach) y gallwch gyfieithu.

Bod y Beibl cyfan, gan gynnwys y Testament Newydd a'r Hen, ynghyd â Llyfr y Weddi Gyffredin a Gweinyddiad y Sacramentau, fel y mae ar arfer yn y Deyrnas hon yn Saesneg, i'w gyfieithu'n gywir ac yn fanwl, ac .

Ar ben hynny nid oedd John Davies ond llanc ieuanc, ugain oed, pan orffennodd yr Esgob Morgan gyfieithu'r Beibl.

Gallai adolygiad ar Mawl i'r Goruchaf (Vernon Lewis) roi cyfle iddo, wrth sôn am y ddawn o gyfieithu, gyfeirio at ei hoff syniad o ymgnawdoliad cyffredinol, a'r gallu sy'n eiddo i bawb o blant dynion i ddatguddio cariad Duw mewn bywyd, a'i gyfieithu i air a gweithred.

Gan nad oedd ein gard ddim yno, annoethineb ar ein rhan fuasai rhedeg oddi yno; fe'n cyhuddid o geisio dianc, a phe gofynnid inni egluro pam yr oeddem yn rhedeg buasai'n ddiwedd y byd arnom: nid oedd gennym mo'r syniad lleiaf sut i gyfieithu, "Mae 'na butain yn yr iard," i Siapanaeg.

Rhaid, drwy gyffyrddiad y bysedd ar y lein, ddychmygu taith y plu ar y blaen llinyn, a thrwyddynt gyfieithu pob cyffyrddiad ac ystum o'u heiddo yn ddarlun o'r hyn sy'n digwydd yn y pwll.

Mae nifer y copi%au llawysgrif o'r ddau destun hyn, ac eraill ar yr un thema, yn dyst i boblogrwydd eithriadol chwedlau'r Greal yn Ffrainc yn ystod y drydedd a'r bedwaredd ganrif ar ddeg, ac yn ystod y ddwy ganrif hynny hefyd fe welwyd tuedd - bron na allwn alw'r peth yn ffasiwn - i gyfieithu gweithiau llenyddol o'r Ffrangeg i ieithoedd brodorol eraill gorllewin Ewrop a'r tu hwnt, a'r Gymraeg yn eu plith.

Gwelwyd hyn ychydig amser yn ôl pan geisiodd y cenedlaetholwyr berswadio Cyngor Dyfed i gael sistem gyfieithu ar y pryd.

O'i gyfieithu, doedd hanes Ifan, y brawd fenga, ddim yn ffit iddo fo'i hun ei glywed o.

Beth arall a ysbrydolodd T Gwynn Jones i gyfieithu nifer o epigramau Groeg, ac ychydig o'r Lladin, a'u casglu dan y teitl Blodau o Hen Ardd?

Mae'r RSPB wedi cynhyrchu llawer iawn o ddeunydd rhagorol ar y pwnc hwn mewn cyswllt â'r Cwricwlwm Cenedlaethol, ac mae cyfran ohono wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg.

Ond, mae sefydliad dwyieithog lle mae'r aelodau i gyd yn rhugl mewn un iaith a lleiafrif yn unig yn rhugl yn yr iaith arall yn dra gwahanol i sefydliad lle mae'r rhan fwyaf o'r aelodau yn hollol ddibynnol ar gyfieithu llafar ac ysgrifenedig.

Yn ôl esiampl yr Ysgrythurau eu hunain, rhaid rhoi'r flaenoriaeth i briod-ddull yr iaith y cyfieithir ohoni wrth gyfieithu'r Ysgrythurau.

Nid oes sicrwydd iddo gyfieithu unrhyw ran o'r Hen Destament na'r Newydd.

Fel y disgwylid, y mae ei gyfieithu yn dilyn dulliau Calfin yn fwy nag eiddo Luther.

Mae'n ddigon naturiol, wrth gwrs, os bydd bardd neu lenor yn gweld rhyw debygrwydd rhwng ffurf lenyddol estron ac un o ffurfiau ei lenyddiaeth frodorol ei hun, iddo roi cynnig ar gyfieithu rahi enghreifftiau o'r naill iaith i'r llall.

Un o'r pethau arbennig am y Lolardiaid oedd eu bod yn gosod pwyslais mawr ar awdurdod y Beibl a'u bod wedi'i gyfieithu i'r Saesneg.

Er mwyn sicrhau hynny rhaid wrth fwy na system gyfieithu effeithiol.

Y mae'r traddodiad Ffrangeg o gyfieithu'r Ysgrythurau braidd yn wahanol.

Mae'r hyn sy'n wir am ei waith yn ei gyfanrwydd yn wir hefyd am ei waith yn y maes emynyddol, ac yma, gwelir y cydblethu'n digwydd amlycaf yn y pwyslais a roddodd Elfed ar gyfieithu a chyfaddasu emynau.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, fe ymddangosodd Beibl Saesneg arall sy'n honni ar ei wynebddalen ei fod wedi ei gyfieithu gan 'Thomas Mathew'.

Ond rhag rhoi'r argraff fod y bai i gyd ar y darllenwyr am beidio â sylwi ar lithriadau o eiddo'r golygyddion prysur, cystal gorffen trwy ddweud fod lle i gredu i un golygydd gael ei ddiswyddo gan y BBC am gyfieithu mai haid o wenyn oedd y "buzzard" a ymosododd ar fachgen o'r Canolbarth !

Yna wnaethon ni gyfieithu i'r Gymraeg i gael gigs Cymdeithas yr Iaith a bod ar Radio Cymru.

DYMA ni bellach wedi dirwyn i ben y drafodaeth ar gyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg.