Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyflafan

gyflafan

Gobeithio y bydd yna gadoediad cyn i gyflafan ddigwydd.

Er na chyhoeddwyd pryddest 'Mab y Bwthyn' gan Cynan hyd Eisteddfod Caernarfon ym 1921, mae'n rhoi hanes yr hyn a ddigwyddodd i filwr diniwed o L^yn o'r cyfnod pan ymuna â'r fyddin hyd at ei ymateb i'r gyflafan yn ffosydd Ffrainc.

Byddai'r cetris gweigion niferus ar ochrau ffordd y Cob yn tystio i'r gyflafan.

A lladd eu cywion o flaen eu llygaid!' Chwarddodd y chwilen wrth gofio'r gyflafan.

Er gofid, cytunwyd nad oedd modd yn y byd i'r Cynulliad rwystro'r gyflafan a gafwyd yn nhermau swyddi.

Mae Kampuchea'n wlad brydferth a thoreithiog ac anodd oedd credu, pan es i yno, fod y wlad bymtheng mlynedd ynghynt wedi diodde' newyn mawr a'i phobl wedi byw drwy gyflafan erchyll a gormes mawr.

Thema ganolog: Adwaith ac Ad-drefnu: y Rhyfel Mawr a'r adwaith iddo yng Nghymru; a'r modd y bu'n rhaid i Gymru aildrefnu yn fewnol ar ôl cael ei sugno i mewn i gyflafan y pwerau mawrion; y modd y dechreuwyd amau a chwalu'r hen safonau a fodolai cyn y Rhyfel, a'r Eisteddfod, yn arbennig, yn wynebu cyfnod o argyfwng gyda rhai yn proffwydo ei thranc.