Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyflawnder

gyflawnder

Ac ymhellach, beth a barodd i Simwnt Fychan ddisgrifio plasty newydd un o'i noddwyr yn 'gyflawnder cyfiawnder' a 'derwen o wladwriaeth' os nad ei gred fod cynhaliaeth lawer amgenach na bwyd a llety i'w chael ynddo?

Wrth son am 'led-glasuraeth' y ddeunawfed ganrif mae Saunders Lewis yn datgan yn feirniadol: Nid oedd ei threfn hi, ei synnwyr da a'i chytgordiad, yn effaith meistrolaeth eang ar gynnwrf profiadau, ond yn hytrach yn gynnyrch crebachu profiad a rhannau pwysig o gyflawnder bywyd.

Yn ein plith ym Mangor yr oedd myfyriwr o'r enw Henry Aethwy Jones, brawd o Lerpwl, a feddai gyflawnder tra helaeth o hunanhyder, ac un a fentrai drafod ei athrawon fel cydradd, a hynny mewn Cymraeg oedd yn camdreiglo'n rhyfedd.

Daeth i mewn â llygredigaeth a meidroldeb i amgylchedd dyn; ond golygai hefyd i'r union offeryn a allai arwain y cyfanfyd i gyrraedd ei gyflawnder a gwireddu ei botensial dwyfol, i'r offeryn hwnnw, dyn, fradychu ymddiriedaeth Duw gan fethu â chyflawni ei wasanaeth offeiriadol ar ran y byd.

Nid turio i'r Mabinogi a Chymraeg Canol a wnaeth, a chwilio am batrymau fel ysgolhaig, ond ysgrifennu o gyflawnder ei enaid fel Cymro o Lanuwchllyn.