Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyfleu

gyfleu

Ond roedd yr iaith a ddefnyddiodd i gyfleu ei sylwadau beirniadol yn nodweddiadol ddi-flewyn-ar-dafod, yn debyg i bawb o'i gyfoedion o'r un dosbarth.

Sefydlu dulliau o gyfleu ystyr.

Dymunai gyfleu agwedd ar realiti nas gwelir ar wyneb pethau - agwedd sydd yn ddigon hawdd i ddyn ei chuddio rhagddo ef ei hun gan ei gwthio ymhell tu hwnt i gyrraedd meddwl.

Yn ei waith ceisiodd Harry Hughes Williams gyfleu ei ymateb i hyn, gan symleiddio a rhoi mynegiant i'w ganfyddiad mewn paent.

Defnyddiodd iaith blaen, uniongyrchol i gyfleu ei neges losg.

Defnyddir y trosiad o'r cyw yn gadael y nyth i gyfleu'r sefyllfa yma, ond teimlwn fod y diweddglo braidd yn ystrydebol.

Yn yr un modd, yn Gaeaf yn Nrws y Coed, a'r eira yn blanced wen yn gorchuddio'r byd, gwelir ambell i ddafad yn crafu am welltyn glas ac yn llwyddo i gyfleu y ddelwedd gydnabyddedig o'r ddelfryd o'r gaeaf.

Cofiaf wylio cynnwys y llyfr hwn mewn cyfres faith ar y teledu sbel yn ol a James Burke yn traethu gyda huotledd wrth bicio o wlad i wlad i gyfleu ei syniadau am hanes gwareiddiad.

Roedd y syniad ddinist yn gryf ym myd celf y chwedegau, ac yn hytrach na chreu cerfluniau 'hierarchaidd' a gâi eu gosod ar bedestal neu lwyfan gwell ganddo oedd creu 'democratiaeth o wrthrychau' a fedrai gyfleu teimlad tuag at ddarnau o natur, pren, haearn, pridd, unrhyw weddillion dienw y gallai eu defnyddio.

Neu eiriau tebyg i gyfleu fod y gwerthwr yn gofyn llawer gormod.

Anodd cael hyd i eiriau i gyfleu yn iawn pa mor wrthun yw penderfyniad Jack Straw i ganiatau mynediad i'r Treisiwr Tyson i'r Alban.

.' Yna mae trefn gystrawennol y darn yn chwalu i gyfleu anhrefn y darlun digrif nes y down at y diwedd, pan dry'r frawddeg yn ôl arni ei hun er mwyn y clo: .

Ei ddadl yw fod y "dilyniant" cyfeiriadau'n ffurfio "is-destun" (ei air am "sub- text") i gyfleu mewn ffordd anuniongyrchol neges nad yw'n amlwg ym mhrif destun y Llyfr.

Treulir braidd ormod o amser ar ddechrau'r bennod hon i gyfleu ymateb diddeall y plant i'r degwm, a hynny i raddau helaeth er mwyn creu digrifwch, sydd yn tanseilio difrifwch y digwyddiadau a ddisgrifir wedyn.

Ceisia gyfleu ei deimladau i aelodau eraill y grūp ond eu hunig ymateb yw mynnu bod yr amser am emosiwn heibio ac mai'r hyn sydd ei angen yn awr yw strategaeth a chanllawiau pendant ac astudiaeth o wleidyddiaeth, nid datganiadau o dristwch neu ddicter na hyd yn oed o lawenydd.

Bryd hynny, yr hyn y gallwch chi ei gyfleu yw teimlad ac argraffiadau.

Defnyddir lliwiau a dulliau'r impresionistiaid i gyfleu gofod ac ansawdd.

Ergyd arswydus sydd i englynion Williams Parry, ond yma mae'n fater o gyfleu'r berthynas glos rhwng y tad a'r mab, fel petai Siôn yn dal i fodoli yn ymwybyddiaeth ei dad - ymdeimlad sy'n gwbl ddilys yn seicolegol wrth gwrs.

Fel mae'n digwydd, mae'r Cor Meibion yr wyf yn aelod ohono, sef Cor Bro Glyndŵr (er mwyn y troednodwyr), yn canu gosodiad Bryceson Treharne o soned 'Dychwelyd' TH P-W; gosodiad teilwng, greda i, sydd yn llwyddo i danlinellu grym y soned ac i gyfleu dehongliad cerddorol o un JR ar ddiwedd ei ymdriniaeth.

Er hynny, buan mae'r drymiau a'r gitars yn tarfu, gan gyfleu'r gwahaniaeth rhwng yr ochr angylaidd a'r agweddau mwy sinistr sydd i fywyd.

Roedd Harry Hughes Williams yn arbennig o fedrus yn defnyddio techneg i gyfleu'r hyn a alwodd Paul Nash yn 'ysbryd lle'.

Ni lwyddodd ychwaith i wir gyfleu ing a chyni glowyr De Cymru.

Beth yw geiriau i gyfleu trueni pobl?

Llwydda i gyfleu llonyddwch a bodlonrwydd cymeriadau wrth iddynt werthfawrogi byd natur.

Bydd angen inni weithio gyda'r Cyngor uchod i sicrhau bod llais effeithiol Gwynedd gyfan yn cael ei gyfleu i sylw gwneuthurwyr penderfyniadau cenedlaethol ar Ofal yn y Gymuned, y Ddeddf Iaith a'r Ddeddf Elusennau.

Trwy'r cymdeithasu mynych a fu rhwng aelodau o'r teulu a'u cyd-ysweiniaid Cymreig ac â'r uchelwyr Seisnig, un ai yng Ngwedir neu yn Llwydlo neu yn Llundain, adlewyrchir yn barhaol yr ymdrech uchelgeisiol honno i gyfleu rhyw naws neu statws cymdeithasol arbennig.

Na, dydw i ddim yn dy feio di, Huwcyn." Trwy fy ngalw'n Huwcyn llwyddodd Gruff, yn ei ffordd gynnil ei hun, i gyfleu coflaid o gydymdeimlad fel y'm hysgogwyd innau i fwrw rhagor ar fy mol.

Yn ôl Geraint, mae'r enw Neola i fod i gyfleu rhywbeth newydd ac ifanc.

Yr unig ffordd i gyfleu ystyr y Beibl i'r lleygwyr oedd eu cael i wrando ac i edrych.

Defnyddiodd y bardd y gynghanedd i gyfleu rhuthr a grym y peiriannau yn effeithiol.

O ran techneg dylwadodd yr Impresionistiaid a'r O^l-impresionistiaid gryn dipyn arno, ond gofalai bob amser fod y dylanwadau hynny'n gwasanaethu ei amcan arbennig ef o gyfleu ei ymateb personol i olygfa.

Dim ond tri chyffyrddiad o baent a ddefnyddir i gyfleu'r ieir yn y blaendir a dim ond un llinell doredig ar letraws yw'r ystol sy'n pwyso ar un o'r teisi.

Pe byddai'r apostol am gyfleu yr un peth yma, byddem yn disgwyl iddo ddefnyddio'r un eirfa yn y fan hon.

Trwy roi'r lluniau o ddioddefaint ac anobaith yn eu cyd-destun, llwyddodd y wasg i annog ymdeimlad o euogrwydd yn y byd gorllewinol a thrwy hynny gyfleu cyfrifoldeb y byd hwnnw tuag at yr wynebau trist oedd yn cyfarch y cynulleidfaoedd teledu rhyngwladol.