Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyflog

gyflog

"Sut mae Owen?" "Reid dda; mi ges lythyr y bore yma, yn licio i le'n iawn." "Da iawn bod rhywun yn hapus." "Ond cofiwch, 'dydi i gyflog yntau ddim hanner digon, a chysidro'r gost sy wedi bod efo fo." "Nag ydi, mae'n siŵr." "Mae o'n talu chweugian yn yr wsnos am lodging ac yn prynu i fwyd i hun." "Gwared y gwirion!" "Ydi, a mae'r criadur bach yn tri%o anfon rhyw 'chydig adre bob mis." "Chwarae teg iddo fo.

Roedd disgwyl i wraig crefftwr helpu ei gwr wrth ei grefft er mai dim ond hanner ei gyflog a gâi hi am wneud yr un gwaith yn union.

Doedd yna fawr o alw am ei wasanaeth ac roedd hynny o gyflog a gâi yn fychan iawn.

Er mawr loes i Harri Gwynn ceryddwyd ef gan nifer o wþr blaenllaw y genedl am feddwl derbyn y fath ychwanegiad i'w gyflog a dywedwyd wrtho mai ei ddyletswydd oedd ad-dalu cyfran sylweddol ohono.

Disgrifiodd ei hun fel 'meddwyn gwaeth nag erioed' erbyn hyn--câi ei gyflog gan y porthmon wedi cyrraedd pen y daith, a byddai'n meddwi, yn cadw cwmni drwg a bron bob tro byddai'n deffro a chanfod bod ei bres wedi'u dwyn.

Rhaid oedd bod yn brentis am bedair blynedd, heb gyflog o gwbl.

Gofynnodd am fil o bunnau y flwyddyn o gyflog.

Mae pob un o aelodau'r Pwyllgor Rheoli'n wirfoddolydd di-gyflog, a dirprwyir cyfrifoldeb am weithgareddau dydd-i-ddydd y Gymdeithas i Drefnydd a thim o staff.

Y mae Crile yn gofyn a fyddai'r llawfeddyg wedi mynnu gwneud yr operasiwn ei hun petai'n gweithio am gyflog yn hytrach na chael tâl am wasanaeth?

Tybed na 'welai' y bardd hefyd y caledi a'r dioddef oedd ynghlwm wrth y llafurio am gyflog bychan, i chwarelwr, ac elw mawr, i berchennog?

Yn anffodus collodd ei lygad wrth weithio yn y chwarel, a bu raid newid ei ffordd o ennill ei gyflog.

Mae ei grintachrwydd ef yn ffurfio rhyw wrthbwynt i foneddigeiddrwydd Harri sy'n rhoi hanner ei gyflog i Marged tra fo'i thad yn wael.

Cannoedd o nyrsus yn gorymdeithio i'r Senedd gan obeithio cael rhagor o gyflog.

Newidiwyd ei gontract ac fe dderbyniodd gyflog rheolaidd.

Yr hyn nad ydynt am ei weld yw 'creu corff biwrocrataidd enfawr gyda swyddog ar gyflog mawr, mewn swyddfa foethus a gyda char cwmni, i drefnu gigs a dweud wrth fandiau a chymdeithasau sut i drefnu pethau'.

Yr oedd yn rhad ac o fewn cyrraedd y gweithiwr cyffredin a'i gyflog bychan.

Yn ychwanegol at hynny câi ei thalu am ei gwaith fel howsgipar yn Nhyddyn Bach, ond yr oedd ar Siôn Elias rai wythnosau o gyflog iddi.

'A bydd pobol yn dechrau holi'r hyfforddwr ynglyn â'i gyflog enfawr a pha wobrwyon mae e'n ddwyn i Gymru.

Wedyn dyna J. Elones yn ei ddilyn gan gefnu ar swydd dda a diogel fel athro yn Llundain am swydd, ansicr yr adeg honno, fel Ysgrifennydd a Threfnydd y Blaid a'i gyflog yn dibynnu ar gyfraniadau gwirfoddol.

Enillai ddigon o gyflog i fforddio siwt trowsus hir, i brynu ffon, i fynd ar ei wyliau i Landrindod unwaith o leiaf, i gael ychydig o ddannedd gosod ac i ddechrau smocio.

A oes rhywrai'n cofio amdano ar ddechrau'i yrfa fel ysgolfeistr yn pallu newid sieciau'i gyflog am nad oedd yn teimlo'i fod wedi'i hennill yn llawn?

Dyna hefyd oedd barn yr Ysgrifennydd Cyffredinol (er ei fod yn gwybod beth fyddai'r effaith ar ei gyflog terfynol).

Pa gyflog, yn wir, fyddai'n ddigon i'w dalu iddi am ei holl gymwysterau?

Glowyr De Cymru yn mynd ar streic i ennill rhagor o gyflog.

Mewn rhan arall o'r un chwarel roedd yna gymeriad arbennig yn canlyn ceffyl ac un diwrnod aeth i swyddfa'r chwarel i weld y prif oruchwyliwr i ofyn am godiad yn ei gyflog.

Bu hefyd dan yr ordd gan nifer o wþr blaenllaw'r genedl ynglŷn â'i gyflog ar ôl dwy flynedd fel Ysgrifennydd Cyffredinol yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhwllheli.

Pan ddaeth yn Ysgrifennydd Cyffredinol cyntaf y Blaid trodd draean ei gyflog yn ôl.

plentyn tair oed sydd yn araf ei datblygiad;Pwy sydd i benderfynu ar gyflog cychwynnol? rhaid i hogia gael bod yn hogia.

Yn awr mae plant yn cael mwy o arian poced nag a enillai ein tadau o gyflog mewn wythnos.

Celwydd oedd y cyfan, meddai, ac nid oedd arno'r un ddimai o gyflog iddi.

'Ry'n ni'n gallu anfon Adam i'r ysgol hon am fod Tony'n gweithio'n galed ac yn ennill digon o gyflog, ond mae'n anodd i eraill.

Maent yn cynnig 18 mis o gyflog i rhywun sy'n barod i adael cyn y Nadolig, 12 mis o gyflog os gadawant cyn y Pasg ac yn bygwth y cant ddim os gadawant wedi hynny.