Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyfoes

gyfoes

Cyfrinach llwyddiant Merch Gwern Hywel yw fod yr ymdeimlad o 'fyw trwy'r digwyddiadau' wedi'i drosglwyddo iddi, a'n bod ninnau'n cyfranogi o gynnwrf yr ymrafaelion diwinyddol fel petaem yn gyfoes a hwy.

Mae hefyd yn enghraifft arall o Fwrdd yr Iaith Gymraeg yn gweithio'n agos gydag asiantaethau eraill i ddatblygu'r defnydd o'r Gymraeg ym maes technoleg gyfoes.

Bywyd y Cymry a ymfudodd i Benbedw ar dro'r ganrif a gyfleir yn I Hela Cnau Marion Eames - y fwyaf darllenadwy o'r holl nofelau hanes, a chan ei bod yn ymdrin a chyfnod y mae atgofion amdano wedi'u trosglwyddo'n deuluol i'r awdures, mae'n pontio rhwng y nofel hanes a'r nofel gyfoes.

Megis yn achos gwyddoniaeth, nid un fiwsig sydd, ond amryw fathau arni: y clasurol a'r ysgafn, yr offerynnol a'r lleisiol, cerddoriaeth gyfoes a cherddoriaeth gynnar, gan gynnwys caneuon ac alawon gwerin ac yn y blaen.

'Roedd awdl anfuddugol James Nicholas unwaith eto yn gyfoes ac yn trafod problemau'i chyfnod.

Cerddi ychydig yn fwy cofiadwy i mi oedd y rhai am y Gymru gyfoes.Mae Croesawu'r Cynulliad yn felys chwerw ei naws wrth i'r bardd gymharu sefyllfa o lawenydd yn ein gwlad ni a sefyllfa boenus barhaus Iwerddon.

Nofel gyfoes gan awdur Rancid Aluminium.

Awdl alegorïol gelfydd yn y modd y mae hi'n rhoi gwedd gyfoes i chwedl Branwen yn y Mabinogi.

Mae'r cyfan o'r storiwyr hyn, serch hynny, o ran techneg, yn perthyn yn ddiogel i fraddodiad y stori fer Gymraeg, er mor gyfoes eu deunydd.

Mae hi'n gwbl gwbl gyfoes." Fydd Manon Rhys ddim yn newid llawer ar Cwmglo ar gyfer cynulleidfa fodern.

Dyma stori gyfoes, sydd yn ddibynnol ar nodweddion cyfoes i w chynnal - hynny yw, modur a ffawdheglu er bod fersiynau cynnar o'r stori hon ar fathau eraill o drafnidiaeth megis ceffyl a throl, neu geffyl yn unig.

Ac fe ddaeth yn ffasiynol ymysg nofelwyr hanes yn ddiweddar - fel pe baent yn euog o'u tuedd i roi pen yn nhywod y gorffennol - i bwysleisio mor gyfoes yw arwyddocad eu gwaith.

Yr ydym yn hynod obeithiol wrth edrych ymlaen at y dyfydol gyda tho ifanc braf iawn yn gweithio'n galed i newid delwedd draddodiadol cymdeithasau Cymreig yr Unol Daleithiau o fod yn glybiau y "Blue Hairs" yn llawn hen bobl sydd heb weld y Gymru gyfoes ac sydd ddim eisiau ei gweld.

Mae Mr Thomas yn defnyddio'r adargraffiadau diweddar sy'n cynnwys orgraff gyfoes.

Diolch i Cwl Cymru mae bellach yn boblogaidd bod yn Gymro neu Gymraes, ac adlewyrchwyd y diwylliant ieuenctid Cymraeg yng nghynyrchiadau BBC Radio Cymru, yn arbennig y pwyslais ar slotiau cerddoriaeth gyfoes llawn bywyd a rhaglenni bywiog i ieuenctid.

Wrth ddysgu wyth cân gyfoes a bywiog bydd disgyblion yn cael cyfle I ddatblygu eu medrau a'u hyder mewn Cymraeg Ail Iaith.

Ond tywyllu cyngor a wna'r syniad fod hanes yn gyfoes yn y modd hwn.

Onid oedd modd creu llenyddiaeth a hyd yn oed greu prydferthwch o 'ddirni'r sefyllfa gyfoes, o'r bywyd yr ydym yn ei fyw'r awron'?

Hynny yw, barddoniaeth a oedd yn rhychu mewn hynafol rigolau oedd barddoniaeth Gymraeg gyfoes bron yn gyfan gwbl; prin fod moderniaeth wedi ei chyffwrdd.

Daeth y ditectif preifat Leo Beckett (wedi'i chwarae gan Neil Pearson) i'r sgrîn yn Dirty Work. Roedd y gyfres dditectif hon a gynhyrchwyd ar gyfer BBC One ac a leolwyd yng Nghaerdydd yn portreadu'r ddinas mewn ffordd gyfoes realistig yn ogystal â chyflwyno golwg newydd ar hen rôl y ditectif preifat.

Yn oes y pornograffi, y camddefnyddio alcohol, yr esgusodi ar odineb a'r ymbleseru dilyffethair, y mae'r geiriau hyn yn boenus o gyfoes.

Fel rhan o'r broses o godi ymwybyddiaeth ymhlith ieuenctid ac oedolion yr ydym wedi darparu tapiau sain o gerddoriaeth Gymraeg gyfoes i dafarndai a chlybiau'r ardal i'w chwarae fel cerddoriaeth cefndir.

Ond am wleidyddiaeth gyfoes dywedodd Lingen mai Saeson o Loegr a ddygai bob cyffro gwleidyddol i'r meysydd glo Cymreig, a dyna ragweld y Seisnigo ar y mudiad Llafur a oedd i ddwyn Keir Hardie o Glasgow i fod yn arweinydd y Cymry.

Roedd y gyfres dditectif hon a gynhyrchwyd ar gyfer BBC One ac a leolwyd yng Nghaerdydd yn portreadur ddinas mewn ffordd gyfoes realistig yn ogystal â chyflwyno golwg newydd ar hen rôl y ditectif preifat.

Meddyliwch am yr atom neu'r electron - dau o bileri gwyddoniaeth gyfoes.

Er y bydd yna elfennau o ddysgu am hanes ardal, mae hefyd yn stori gyfoes sy'n wynebu rhai o bwyntiau allweddol bywyd yn y Cymoedd heddiw.

'Roedd y dilyniant buddugol yn herfeiddiol, yn gyfoes ac yn llawn o naws y chwedegau a'r saithdegau.

Crai - Ar ddechrau'r 90au gwelwyd Sain yn ymateb i ofynion y Sîn Roc yng Nghymru trwy sefydlu is-label i'r cwmni, yn bennaf ar gyfer cerddoriaeth ifanc y Gymru gyfoes.

Drwy'r Ymofynnydd gofalodd drwytho'r mudiad yn hynt a helyntion ei orffennol, gan groniclo nid yn unig ffeithiau moel eithr eu gwerthfawrogi'n graff, gan danlinellu cyfraniad unigryw 'hen Gewri'r Ffydd' a'u pwysigrwydd i'r eglwys gyfoes.

"Mae ei thema hi mor gyfoes.

Nid arswyd yw prif ergyd pob stori gyfoes o bell ffordd, er ei fod yn gyffredin iawn, iawn.

Cychwyn gyda gwrtheb a wnaeth yr awdur - ar Genedlaetholdeb yr oedd y bai am bicil Cymru gyfoes, cenedlaetholdeb gwladwriaethau Ewrop, gyda'u pwyslais ar undod a chryfder ar draul diwylliannau lleiafrifol.

Awdl alegorïol yw hon, sef awdl sy'n defnyddio chwedloniaeth i draethu neges gyfoes.

Yr oedd holl wareiddiad a diwylliant Ewrop mewn perygl enbyd, meddai, ac eto prin y mae eco o'r holl broblemau hyn ym marddoniaeth gyfoes Cymru.

Mae arwyddion Saesneg i'w gweld ar bob tu a'i seiniau'n llifo drwy'r cyfryngau i bob cartref, yn wir i ystafelloedd preifat ein plant a'n hieuenctid drwy gyfrwng y dechnoleg gyfoes.

Mae'r dehongliad o hanes yn gyfoes, o raid, am mai'n rhagdybiau ni sydd y tu ol iddo, ond nid yw hynny'n gwneud ddoe a heddiw'n un.