Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyfoethog

gyfoethog

Casglodd Henry Hughes lawer iawn o drysorau yn ymwneud â Threfeca hefyd ac yr oedd ganddo, at hynny, lyfrgell gyfoethog iawn o lyfrau Robert Jones, Rhoslan, a set gyflawn o "Welch Piety%, yr adroddiad blynyddol am ysgolion Griffith Jonse, Llanddowror.

Blwyddyn gyfoethog yn hanes yr adran oedd honno.

Trosiad hir yw'r gerdd, ymysg pethau eraill, mae mor gyfoethog ei hawgrymiadau, o'r gynhaliaeth ysbrydol sydd i feidrolyn i wynebu ei feidroldeb yn ei aml boen a'i siom a'i anobaith.

'Rydan ni'n gyfoethog, Siân!' gwaeddodd Tudur toc, wedi anghofio popeth am ginio a'r cerydd fyddai yn eu disgwyl yn y garafân.

Mae craig sy'n gyfoethog mewn magnesiwm carbonad, sef Dolomit, i'w weld yng nghanol creigiau'r bae, yn ogystal â Charreg Galch Wlitig.

Yr oeddwn innau'n adnabod llawer o awduron llyfr fy mam, ond yn awr, yng ngoleuni cofio amdanynt, yr wyf yn medru gwerthfawrogi llyfr mor gyfoethog ydyw, ac mor gyfoethog oedd fy mam pan oedd hi'n gwneud y detholiad.

Mae'r lliwiau y mae'n eu defnyddio yn Beddgelert yr yr Hydref yn gyfoethog o goch a brown a melyn - lliwiau'r Hydref.

Os gwerthir car fu'n eiddo i berson enwog, llwyddiannus neu gyfoethog, bydd pobl yn heidio i brynu'r car yn y gobaith y caiff lwc y cyn-berchennog ei drosglwyddo i'r perchennog newydd gyda'r cerbyd.

Ond fe ddylsai gwladwriaeth gyfoethog gyda rhyw 59 miliwn o boblogaeth wneud yn well na bod un safle yn is na Cuba ac un safle uwchben Romania yn nhabl y medalau.

Wedi fy arswydo gan dlodi difenwol fy mhobl sy'n byw mewn gwlad gyfoethog; wedi fy nhrallodi gan y modd y cawsant eu hymylu yn wleidyddol a'u mygu yn economaidd; wedi fy nghynddeiriogi oherwydd y difrod wnaed i'w tir, eu hetifeddiaeth gain; yn pryderu tros eu hawl i fyw ac i fywyd gweddus, ac yn benderfynol o weld cyflwyno trefn deg a democrataidd drwy'r wlad yn gyfan, un fydd yn amddiffyn pawb a phob grwp ethnig gan roi i bob un ohonom hawl ddilys i fywyd gwâr, cysegrais fy adnoddau deallusol a materol, fy mywyd, i achos yr wyf yn credu'n angerddol ynddo, ac ni fynnaf gael fy nychryn na'm blacmêlio rhag cadw at yr argyhoeddiad hwn.

Ac am ei bod hi'n ynys ym môr y gorllewin, yr oedd Iwerddon wedi cadw mwy o'i nodweddion cenedlaethol, ac fe allai Waldo ymdeimlo, ac ymglywed, â'i hen hanes a'i chwedloniaeth gyfoethog, wrth deithio drwyddi ar gefn ei feic.

Fel y dengys y map, y mae Ceredigion yn weddol gyfoethog mewn olion Oes y Pres.

Er ei fod yn edrych yn un llawn, nid yw Ceredigion ar y cyfan yn sir gyfoethog mewn olion bywyd cyntefig.

Prin yw delweddau felly - ond yn ystod yr žyl y mae'r cyfle i chwilio am ddelweddau yn adderchog gan fod y dewis mor eang ac yn gyfoethog, yn syfrdanol o amrywiol ac yn wirioneddol ryngwladol, ac eto'n Gymreig yn yr ystyr orau; yn fodern; yn gyffrous, yn gyfeillgar, yn barod i groesawu diwylliant pentre'r byd.

Yn ddiweddar mae gwyddonwyr wedi dadansoddi gwreiddiau a dail betys a chael ynddynt rai sylweddau anhysbys ynghyd â ffibr, haearn, caliwm, potasiwm, y fitaminau A, C a nifer o'r cymhlyg B, gyda'r dail yn arbennig o gyfoethog mewn haearn a fitamin A.

Ar y llaw arall, oherwydd cysylltiadau eang y golygydd deuai cynrychiolaeth deg o Gymru gyfan i mewn i'r Ymofynnydd, drwy erthygl a chân, sylw neu lythyr, gan ei wneud yn gyfoethog ei syniadau ac eang ei orwelion.

Llais fel pres, yn gyfoethog ac yn sgleiniog ac yn aeddfed.

Ni fedrai gweision cyflog heb gyfalaf, heb fuddsoddiad mewn cymdeithas, fod ag unrhyw deimlad o ymrwymiad, tra tueddai cystadleuaeth y farchnad rydd i ostwng nifer y cyfalafwyr i rif llai a llai o ŵyr gor-gyfoethog.

...ie brawddegau wrth gofio Hiraethog y cynefin unigryw sydd er ei foelni ymddangosiadol mor gyfoethog ei gefndir.

O'r holl Geltiaid y Cymry yn unig a fedrai ddarllen eu hiaith - efallai eu bod yn unigryw yn Ewrop yn hyn - a chan hynny hwy yn unig ymhlith y Celtiaid a barhaodd i gynhyrchu llenyddiaeth gyfoethog.

cyfoes, chwaraeon, hamdden, y celfyddydau ac adloniant, a chyfle arall i weld rhywfaint o'r cynnyrch gorau o'r gwasanaeth analog a rhaglenni archif gyfoethog BBC Cymru.

`Rydyn ni'n gyfoethog!' `Beth wnawn ni ag ef?' `Hanner munud ...' `Beth?' `Nid ein harian ni yw e.' `Ond ni ddaeth o hyd iddo.' `Y cyfan y mae hynny'n ei olygu yw bod rhywun wedi ei golli e.

Dros y ddwy flynedd nesaf gall y gwylwyr a'r gwrandawyr ar draws y DG dderbyn gwledd gyfoethog o raglenni o Gymru.

Roedd Arabrab ei wraig yn gyfoethog iawn, a'i safle ef fel Swyddog Cynllunio (swydd fach reit hwylus a digon di-straen) yn dibynnu arni hi i raddau helaeth, ac ni allai fentro'i chroesi.

Mae hynny'n golygu fod cenhedlaeth yn codi sy'n hynod anwybodus am y Beibl a'i athrawiaethau ac am y traddodiadau Cristionogol sydd wedi cyfrannu mewn ffyrdd mor gyfoethog at fywyd Cymru.

Gallai Cela Trams redeg y lle, a thalu cyfran go dda o'r elw i'r Trysorlys: byddai hynny'n siŵr o ennill cefnogaeth y Canghellor a hawdd fyddai darbwyllo'r bobl y byddai N'Og mor gyfoethog o hyn ymlaen fel y gallai pawb wledda ar fwydydd llawer mwy blasus a maethlon na wynwyn.

Nid yw'r un i ddysgwyr mor gyfoethog ei ddisgrifiadau a'i fanylion ac roedd braidd yn chwithig i mi ei ddarllen - dim hanner mor naturiol a'r fersiwn i blant Cymraeg iaith gyntaf.

Mae is-ddiwylliant yr ifanc yn eithriadol o gyfoethog a deniadol, ac felly'n rymus.

Yr oeddwn yn teimlo'n gyfoethog!

Tydi meistr ddim yn gyfoethog iawn." "Digon gwir," ochneidiodd yr ych.

Yn ôl pob sôn, mae'r eglwys hon, sydd wedi ei lleoli yn un o ardaloedd tlotaf Caerdydd, yn rhoi mwy i'r tlodion na sawl eglwys arall mewn ardaloedd hynod o gyfoethog.

Fy mraint i yn ystod y chwarter canrif diwethaf fu cael rhoi ar gof a chadw ronyn o'r etifeddiaeth gyfoethog yn Uwchaled a'r cyffiniau, ac, mewn darlith, ysgrif a chyfrol i rannu'r trysor hwn ag eraill.