Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyforiog

gyforiog

Yn ystod oes o ildio i'r demtasiwn frown, un peth sydd wedi fy synnu fi'n fawr ydi gymaint mae gwnethurwyr siocled yn edrych tua'r ffurfafen am ysbrydoliaeth - tydi siopa petha da yn gyforiog o Farsus, Galaxis, Milky Wals a Star Bars yn union fel pe bydda'r gwneuthurwyr â'u llygaid o hyd ar y nefoedd honno o lle daeth yr hen Quetzalcoatl i chwilio am damaid o swpar a'i hada Cacao fo mor anhoddadwy â Treets yn ei law fach boeth o.

Mae gwaith ymchwil yn dangos fod y powlenni a'r cadachau yn gyforiog o germau.

Yr oedd y Dyneiddwyr yn gyforiog o obaith.

* bod digon o ymglymiad gweithgar neu brysurdeb pwrpasol i'r plentyn a bod profiadau uniongyrchol a pherthnasol iddo/ i mewn amgylchedd sy'n gyforiog bosibiliadau.

Trwy alw ei bobl ei hun at ei chenhadaeth arbennig ymhlith y bobloedd ceisiai ollwng yn achubol rydd ar yr holl ddaear nerthoedd y Deyrnas, y grymoedd yr oedd ef ei hun yn gyforiog ohonynt.

Wrth 'go iawn' fe olygid nofelydd a allai hoelio sylw cynulleidfa, trwy adrodd stori afaelgar, llunio deialog fyrlymus a chreu cymeriadau amrywiol 'o gig-a-gwaed', fel y dywedir - nofelydd a oedd yn gyforiog o'r rhinweddau henffasiwn, os mynnir.

Roeddwn i dan yr argraff fod newyn yn taro gwlad oedd heb fwyd i'w roi i'w phobl ond, ar strydoedd Mogadishu, roedd yna farchnadoedd yn gyforiog gan fwydydd o bob math; cig, blawd, bara, siwgwr, ffrwythau, llysiau, olew, losin hyd yn oed.