Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyfranogi

gyfranogi

Yn erbyn cefndir yr ymgyrch hon y clywn ei lais yn galw ar ddynion i gymryd i fyny'r groes a'i ddilyn - anogaeth sydd ar y naill law yn eu cyfarwyddo i gerdded ffordd tangnefedd ac ar y llaw arall yn eu gwahodd i gyfranogi o ddioddefaint y Selotiaid yr oedd eu cyrff meirwon weithiau i'w gweld ar groesbrennau mewn mannau amlwg ym Mhalestina.

Gwahoddir pawb sy'n rhannu dymuniad y Bwrdd i weld yr iaith yn ffynnu, ac sydd am weithio mewn partneriaeth gyda ni, i fynnu eu rhan yn y strategaeth hon ac i gyfranogi o'i gwireddiad.

Fel Cymdeithas, mynnwn fod y Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru a'i fod yn hen bryd i'r Gymraeg gael ei normaleiddio fel prif iaith ein gwlad. Edrychwn at y Cynulliad i arwain a gweithredu strategaeth genedlaethol gynhwysfawr ac integredig fydd yn galluogi pawb yng Nghymru i gyfranogi yng nghyfoeth yr iaith gan fagu hyder cyffredinol ym mhwysigrwydd yr iaith Gymraeg.

Dylai'r Cynulliad ddatblygu ffyrdd o hybu diwylliant yng Nghymru sy'n gynrychioladol o bob agwedd ar fywyd yng Nghymru gan gynyddu yn benodol gyfleoedd i'r boblogaeth ddi-Gymraeg gyfranogi yn yr iaith Gymraeg.

Chwysodd wrth syllu arni, a gweddio na chai yntau gyfranogi o'r un profiad.

Y nod yw sicrhau bod cyfle teg a digonol gan bawb i gyfranogi o'n hetifeddiaeth Gymraeg gan amcanu i wneud y Gymraeg yn brif iaith holl bobl Cymru.