Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyfreithiol

gyfreithiol

Serch hynny, un peth oedd rhoi hawl gyfreithiol i gyfieithu; rhywbeth arall, llawer mwy anodd, oedd dwyn y maen i'r wal.

Yn fab i Ioan Arfon, ac wedi'i fagu ynghanol canolfan ddiwylliannol ferw yn nhref Caernarfon, cafodd y fraint ar ran un cystadleuydd o herio'r Eisteddfod Genedlaethol yn gyfreithiol (ac ennill).

Y Prif Gyfreithiwr Erlyn oedd Daniel Alun Roberts Thomas (DART i'w ffrindiau a'i gydnabod), cymeriad os bu un erioed, tipyn yn un-llygeidiog yn achos y Gymraeg, a daeth rhai o'i sgarmesoedd gyda Chymdeithas yr Iaith yn enwog iawn ar y pryd, ond roedd yn gyfreithiwr da, a thu allan i faterion yr Iaith, yn un o farn gyfreithiol ddibynnol a sad, a'i wybodaeth o'r gyfraith droseddol yn eang a manwl.

Fe ddadleuwyd fod Senedd yr Alban yn haeddu grymoedd deddfwriaethol gan fod y wlad honno a'i chyfundrefn gyfreithiol ei hun.

Chwarae teg i'r Llywodraeth, trwy ryw bedair canrif o lywodraethu Cymru, er pob tro ar fyd, er pob newid ar ddull y Senedd a moddion llywodraeth, er pob chwyldro cymdeithasol, ni bu erioed anwadalu ar y polisi hwn o ddiddymu'r iaith Gymraeg yn iaith weinyddol mewn na swydd na llys nac unrhyw ysgrif gyfreithiol.

Fe'i perswadiwyd i adael i John Powell, cynrychiolydd y Goron, lywyddu'r achos a chanlyniad y gwrandawiad oedd penderfynu nad oedd gan yr esgob hawl gyfreithiol i feddiannu'r faenor.

Maen nhw'n dal i geisio darganfod yn union beth ydy'r sefyllfa gyfreithiol.

A yw trefniadau'r ysgol yn galluogi disgyblion i wneud y cynnydd mwyaf posibl, gan sicrhau bod cwricwlwm eang a chytbwys ar gael, yn cynnwys y Cwricwlwm Cenedlaethol, addysg grefyddol, lle bo angen hynny'n gyfreithiol, ac unrhyw ddarpariaeth gwricwlaidd arall?

Beth yw'r sefyllfa gyfreithiol ynglŷn â llongddrylliadau hanesyddol ar hyn o bryd?

Daeth Ceredig yn frenin ar 'wlad' Ceretigion ('gwlad' yn yr hen ystyr gyfreithiol, sef brenhiniaeth).

Sbardunwyd math newydd o gystadleuaeth gan Y Gwir yr Holl Wir, sef sioe gwis gyfreithiol ryfeddol o ysgafn, a oedd yn llwybr newydd i BBC Radio Cymru.

Ond Eglwyswyr oedd y Methodistiaid yn gyfreithiol ac ni allent osgoi gwg yr ustusiaid.