Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyfri

gyfri

Yn gyntaf, na fu wedi marw Elisabeth hyd at drothwy'r ugeinfed ganrif na chais na bwriad gan neb o bwys yng Nghymru i ddatod dim ar y cwlwm a unodd Gymru wrth Loegr na gwrthwynebiad o unrhyw gyfri i'r egwyddor o deyrnas gyfunol a diwahân.

Dechreuodd gyfri'n ddistaw wrth redeg.

Dim ond pan aeth ati i gyfri'r arian a gosod trefn ar ei lyfrau ar ol cyrraedd gartre y gwelodd golli ei waled.

Yn y cyfamser, heblaw am gyfri'i arian bob dydd Sadwrn a gwrando ar hanesion ei ffrindiau, benthycai lyfrau yn ymwneud â chŵn o'r llyfrgrell a'u darllen o glawr i glawr.

Mae'n bosib hefyd y bydd yna ail-gyfri mewn tair talaith arall.

Arllwysodd Rhys y pres o'i gadw-mi-gei ar y gwely a'i gyfri'n ofalus er ei fod o'n gwybod i'r ddimai faint oedd ganddo oherwydd iddo gyfri'r pres y Sadwrn diwethaf hefyd a'r Sadwrn cyn hynny.

Mae Llys Goruchaf Florida yn ystyried a yw'r ail gyfri sy'n digwydd mewn sawl man yn y dalaith yn ddilys ai peidio.

Ond nac esgeuluser y canol ar unrhyw gyfri.

Câi bleser wrth gyfri ac ailgyfri gan ei fod o'n cynilo i brynu ci bach.

Yn gyntaf, er ei fod yn aelod ers deng mlynedd ar hugain (ei eiriau o), mae ei wyneb o yn ddigon dieithr i rengoedd gweithredol y Gymdeithas i gael ei gyfri'n wyneb newydd, ac yn ail os ydio am werthfawrogi talent newydd mewn unrhyw faes darllened fyfyrdodau gwleidyddol Hefina Clwyd.