Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyfryw

gyfryw

Nid oedd yr amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd oedd ohoni yng Ngogledd Cymru yn gyfryw i feithrin na chynnal arlunydd o ddifri.

Felly mae'n bosib ystyried bod anffyddlondeb a diffyg teyrngarwch yr anghredadun i'r un yr addawodd rannu ei fywyd ag ef/hi yn gyfryw bechod ag i fod yn sail diddymu'r briodas, yn gymaint ag y byddai godineb.

Ac os bydd cyflwr meddwl neu gorff y claf yn gyfryw fel na all roi caniatâd, a fydd yn ddigon i berthnasau roi caniatâd?

Dechreuodd fel prentis crydd, ac y mae ef a Daniel Owen yn enghreifftiau da o'r dosbarth o grefftwyr yn y ganrif ddiwethaf sydd yn eu hymdrechion i ddod o hyd i lyfrau da, i'w darllen, ac i ymddiwyllio arnynt yn gyfryw ag y dylent godi cywilydd wyneb arnom ni yn y ganrif hon gyda'n haddysg rad, ein horiau gwaith cwtogedig a'n horiau hamdden helaeth.

Os yw'r niwed gyfryw fel bod gofyn i'r aelod o'r staff gael cymorth a/ neu sylw parhaus yna fe fydd yr aelod uchaf o'r staff sydd ar gael yn penderfynu p'un ai i drefnu cludiant neu alw am ambiwlans.