Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyfyl

gyfyl

Cwt cymharol fychan oedd o, heb lun na phoster ar ei gyfyl.

Nid aethai neb i'r drafferth i ymwthio drwy'r drain a'r danadl poethion i fynd ar ei gyfyl.

Ar ol y ffilm caiff Mona'r usherette a Trefor y projectionist wybod gan Eli y rheolwr sydd ar fin ymddeol fod y lle i'w gau - penderfyniad ciang o ddynion di-Gymraeg na fu erioed ar gyfyl y lle.

A phobl ddi-rodres cefn-gwlad Llþn a gymerai ran, heb un actor ar gyfyl y lle.

Ar y cornel roedd ffenestr siop, heb neb ar ei gyfyl.

Bu rhwyg o'r tu mewn i ran uchaf ei drowsus ers pythefnos heb iddo geisio rhoi tamaid o edau ar ei gyfyl.

Cynnar iawn, wrth gwrs, yw'r gerdd (neu'r ddwy gerdd) yn Llyfr Du Caerfyrddin, ond yr unig ffeithiau pendant yno yw ei bod yn cyfeirio at hanes am Drystan a March (sef yr elfen fwyaf sylfaenol yn yr hanes), a hanes arall am 'ddial Cyheig' - cymeriad na wyddys fawr ddim amdano, ac na ddaw ar gyfyl hanes Trystan mewn unman arall." Yn ôl y ddysgeidiaeth hon, felly, y mae'n rhan o swyddogaeth y llywodraeth i ddefnyddio'r gyllid lywodraethol i reoli galw cyfanredol yn yr economi er mwyn sicrhau lefel cynnyrch gwladol sy'n cyfateb i gyflogaeth lawn.

Holodd ni'r plant a oeddem ni wedi bod ar gyfyl ystafell Mr Sugden, ond na, gallem gymryd ein llw, ac er bod arni gywilydd mawr o'i hamryfusedd 'doedd dim amdani ond gosod allan liain glân iddo a byw trwy amser cinio ac amser te ac amser swper mewn sachliain a lludw, yn ymwybodol iawn o'i bai ond heb ddweud gair wrth y gŵr gwadd amdano.

Bu'n hir iawn yn dod yn ol, wedi arswydo rhag y dynion yna mae'n siŵr, a thipyn o dalu'r pwyth yn ol i mi hefyd am adael iddyn nhw ddod ar gyfyl y lle.

Pe gallwn ddioddef y tro yma, ni fyddai'n rhaid i mi fynd ar gyfyl yr un ymarfer eto hyd yr un diwethaf, efallai.

Yn wir, roedd y rhan helaethaf o'r cymdeithasau adeiladu heb yr un gair o Gymraeg ar gyfyl y lle.

Ac nd oedd arlliw o'r ofn sy'n perthyn i'r bwli ar ei gyfyl.

Rydw i wedi bod draw ddwywaith i chwilio, ond dydi hi ddim ar gyfyl y lle.

Er mai yno i'w hamddiffyn nhw y daeth y milwyr cyntaf, chaen nhw ddim mynd ar gyfyl y trefi na mwynhau eu hadloniant arferol yn eu gwersylloedd.

Dyma ei ddarlun o Dduw: Sant Heb fodfedd o nefi blw ar ei gyfyl, Yn ysbryd solat a diysgog yn ehangder y cymylau, Yn gosmig Ac yn or-gosmig Ac yn llawen farfog.

ond gallai tad ffred wneud hynny am nad oedd yr un o 'r teulu 'n mynd ar gyfyl na na nac eglwys er pan ddaethant i fyw yno.