Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyfyng

gyfyng

Tan tua phum mlynedd yn ôl roedd teithio rhad o fewn Ewrop yn golygu ‘pecynnau gwyliau' gyda phawb yn cael eu gwagu i gorlan gyfyng a'u trin fel defaid.

Yr oedd amryw o adeiladau'r gofaint yn rhy gyfyng i gael ceffylau dan do i'w pedoli, a gallai'r gof felly fod i mewn ac allan yn barhaus, bydded y tywydd y peth y bo.

Ie, cyfyng oedd adeiladau'r gof a'r ffenestri ar ben hynny mor gyfyng yn ogystal.

"Mi roeddan nhw wedi tario i lawr y Waen cyn dy eni di." Ond doeddwn i ddim awydd ei darfu o wedyn mewn lle mor gyfyng.

Mantais aruthrol mewn lle mor gyfyng oedd cad dau ddyn yn medru taro hefo unrhyw law ymlaen.

Nid athro wrth-ei-swydd ger desg gaeth a darllenfa gyfyng ydoedd, ond cennad dysgedig a oedd yn barod bob amser i ddarlithio i gynulleidfaoedd bach a mawr ym mhob man.

Pan fydd y teledu yn darlledu o'r Daíl yn Iwerddon, mae hi'n gyfyng gyngor ar yr aelodau sydd am siarad Gwyddeleg.

Atolygwn arnat, serch hynny, i ...' Tagwyd y weddi gynnes cyn iddi gyrraedd ei hanterth gan swn Pyrs, y coetsmon, un heglog ar ei orau, yn darn-lusgo cist ei feistres drwy ffrâm gyfyng y drws allan.

Mae tuedd i'r label clasuraeth fod yn gamarweiniol gan mor gyfyng yw'n dehongliad ni o'r term yn aml.

Dyna'r delfryd a bortreadid dro ar ôl tro yng ngweithiau'r beirdd - yr ymdeimlad o lywodraeth deuluol yn ystyr gyfyng yr endid hwnnw.

Y Stori Mae stori Dafydd yn troi o amgylch y prif gymeriad, Dafydd: bachgen ifanc hoyw, sy'n dianc o awyrgylch gyfyng a chul ei dref enedigol ym Mhontypridd i geisio rhyddid yn ninas Amsterdam.

ddiwethaf yn dangos yn glir nad oedd chwaeth ddarllen y Cymro cyffredin mor gyfyng ag y mynnai eu harweinwyr crefyddol iddi fod a cheir yng Nghymru hithau dystiolaeth nad oedd yr hinsawdd mor wrthwynebus i fyfyrdod rhywiol a hyd yn oed ffantasi%au rhywiol ag yr arferem gredu.

Ag yntau mewn coblyn o gyfyng-gyngor, daw Mona ato gyda'r bwcedaid o fadarch a brifiodd yn gnwd addawol a pherswadia'r llo a'r golwg 'Be wnai?' ar ei wep i fuddsoddi mewn rhagor o fwcedi a'u dodi i dyfu yn nhwllwch rhynllyd yr hen sinema wag.

A dyna i chi gyfyng gyngor.