Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyhoeddiadau

gyhoeddiadau

Cyhuddwyd y papur newydd a'r orsaf radio o fod yn cydweithio'n agos ag ETA am fod y mudiad hwnnw'n dewis rhyddhau ei gyhoeddiadau trwy gyfrwng y papur.

Ymhlith ei gyhoeddiadau mae cyfrolau ar hanes y teulu Bute a Chaerdydd, hanes y BBC yng Nghymru a hefyd ei lyfr awdurdodol Hanes Cymru, a gyhoeddwyd gan Penguin yn Gymraeg ac yn Saesneg.

mae'r llyfr yn dilyn stori Catatonia o'r cyfarfyddiad cyntaf rhwng Cerys a Mark yn gig Rhyw Ddydd ym Mhontrhydfendigaid (ie, myth yw'r stori am gyfarfod wrth byscio yng Nghaerdydd), trwy ddyfynnu erthyglau ac adolygiadau o bob math o gyhoeddiadau ar hyd a lled Cymru ar byd - canmoliaeth o bob cyfeiriad.

Ond cofiwch chi, petai rhywun yn mynd ati i gasglu'r holl gyhoeddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid yng Nghymru, fe fyddai ganddo lyfrgell go fawr ymhen dim o amser!

Peth wmbredd yn wir o lyfrau prin o'r ddeunawfed ganrif, rhai cannoedd o farwnadau o'r un cyfnod a hen gyhoeddiadau Cymraeg diddorol y Cymreigyddion a gadwai eisteddfodau mewn tafarndai ym Merthyr, Aberdâr a Dowlais.

Unwaith eto, yn yr holl gyhoeddiadau a datganiadau cadarnhaol o du'r Llywodraeth a'r Grwp, mae'r bwganod oesol 'Rhesymol ac Ymarferol' yn codi eu pennau.

Os am fwy o wybodaeth am gyhoeddiadau Addysg BBC Cymru, mae Llinell Wybodaeth ddwyieithog ar agor yn ystod oriau gwaith ar 029 20 999998.

Cyfeirir ato hefyd yn fy nghyflwyniad i ddiwylliant gwerin Uwchaled mewn cyfrol, Yn Llygad yr Haul, a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Gyhoeddiadau Mei.

Mi ro i gyhoeddiad ichi yn y Capel Mawr ar yr amod 'mod i'n cael rhoi Alwyn Hughes Thomas yn y daflen gyhoeddiadau y flwyddyn nesaf.

Nid oedd ei ddadl ond distylliad o ffeithiau ac opiniynau a gofyniadau a wnaethpwyd yn gyfarwydd yn yr holl gyhoeddiadau swyddogol a grybwyllwyd eisoes.

Gyda nifer o gyhoeddiadau ar faterion pur dechnegol y cychwynnodd ar sesiwn cwestiynau llafar y Cynulliad ddydd Mercher.

Anodd meddwl am unrhyw agwedd o briodi nad yw Bethan Mair a Meleri Wyn James yn cyffwrdd a hwy ac er bod digonedd o'r math yma o gyhoeddiadau ar gael yn y Saesneg bydd o fendith i sawl pâr cael cyfrol fach fel hon wedi ei hanelu'n benodol at gynulleidfa Gymraeg ei hiaith.

Dros ddeng mlynedd ar hugain o olrhain hanes lleol fe ddarllenais filoedd o gyhoeddiadau o'r un natur.

Wedi i'r golygydd sôn am gyhoeddiadau Huw Jones o Langwm, eir ymlaen i drafod ei faledi, unwaith eto, mewn modd sy'n ddealladwy ac apelgar i'r ysgolhaig ac i'r darllenydd cyffredin.