Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyhoeddir

gyhoeddir

Y mae'n gofiant i fardd ifanc addawol, ac y mae'r cerddi a gyhoeddir ynddo, ynghyd â'u cefndir, yn ychwanegu llawer at ein dirnadaeth o farddoniaeth Gymraeg y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mi ragdybiaf y bydd y ffigurau a gyhoeddir cyn hir yn sioc ac yn siom i'r rheini ohonom sy'n ystyried nad Cymru fydd Cymru heb y Gymraeg.

Erbyn heddiw, ffurfiant gyfartaledd uchel o'r holl bapurau nedwydd a gyhoeddir yn yr Ynysoedd Prydeinig.

Fe gyhoeddir yn swyddogol amser cinio mai Graham Henry fydd hyfforddwr y Llewod ar y daith i Awstralia haf nesaf.

Fe fydd cyhoeddiadau swyddogol y Senedd yn ddwyieithog, fe gyhoeddir testun y Bwletin Swyddogol (yr 'Hansard') mewn Basgeg a Sbaeneg, ac fe fydd y ddwy iaith yn cael eu hystyried yn wreiddiol.

Hybu defnyddio'r Gymraeg drwy sicrhau'r ddarpariaeth briodol o lyfrau, cylchgronau a phapurau a gyhoeddir, a cheisio sicrhau darllen eang arnynt.

Os yw ffigurau diweddar i'w credu yna gallwn ragweld mai Llangefni a Bodffordd fydd yr unig gymunedau naturiol Gymraeg ar ôl ym Môn gyda dros 75% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg pan gyhoeddir canlyniadau y cyfrifiad nesaf sydd i'w gynnal yn 2001.

Mae Lewis yn un o feirdd mawl mwyaf y bymthegfed ganrif, fel y ceir gweld yn glir pan gyhoeddir ei holl waith o'r diwedd, ond y mae'n bennaf adnabyddus am un gerdd eithriadol, sef ei farwnad deimladwy i'w fab ei hun.

Y mae'n briodol mewn llawlyfr a gyhoeddir o dan nawdd y Bwrdd Cenhadol inni gofio'r gwledydd y bu cysylltiad rhwng Cymru a'r gwaith cenhadol ynddynt.

O fewn dim ond tridiau i gyhoeddir syniad ou dirwyo gan punt yr un yr oedd ganddi saith gan punt yn y gelc.

Os yw ffigurau diweddar Social & Market Strategic Research i'w credu yna gallwn ragweld mai Llangefni a Bodffordd fydd yr unig gymunedau naturiol Gymraeg ar ôl ym Môn gyda dros 75% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg pan gyhoeddir canlyniadau y cyfrifiad nesaf sydd i'w gynnal yn 2001.