Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyhoeddwyd

gyhoeddwyd

Y gyntaf oedd Dewisol Ganiadau yr Oes Hon ym 1759 ond yn ôl Mr Lake nid oes llawer o wybodaeth ynglyn â hon ond y mae mwy o wybodaeth am ei ail gyfrol, Diddanwch Teuluol, a gyhoeddwyd ym 1763.

Yr angen enbyd am ragor o Feiblau yng Nghymru a barodd iddo awgrymu ei sefydlu a'r peth cyntaf a gyhoeddwyd ganddi oedd y Beibl Cymraeg, gyda Charles yn olygydd iddo.

Ychydig yn ol fe ailddarllenais lyfr a gyhoeddwyd flwyddyn fy ngeni, sef Old Memories Syr Henry Jones.

o'r holl lythyrau a gyhoeddwyd yn y wasg yr wythnos diwethaf dim ond un oedd yn cyfrif.

Dwi ddim yn cofio sut ro'n i'n teimlo pan gyhoeddwyd ein bod wedi cael ail wobr am y ddawns orau.

Arwydd arbennig o'r gweithgarwch meddyliol a nodweddai'r cyfnod ydyw nifer y llyfrau a gyhoeddwyd a nifer y cylchgronau a gychwynnwyd.

Pan gyhoeddwyd yn yr Eisteddfod mai Fleur-de-lis oedd ffugenw'r bardd buddugol, ni safodd neb.

Ymhlith ei gyhoeddiadau mae cyfrolau ar hanes y teulu Bute a Chaerdydd, hanes y BBC yng Nghymru a hefyd ei lyfr awdurdodol Hanes Cymru, a gyhoeddwyd gan Penguin yn Gymraeg ac yn Saesneg.

'Nid yw y penderfyniad hwn yn effeithio ar y cystadlaethau barddoniaeth arbennig ar-lein a gyhoeddwyd ar wefan yr Eisteddfod ac atgoffir i'r beirdd sydd yn defnyddio'r Wê ac e-bost bod cyfle i gystadlu trwy'r amser ar y rhyngrwyd,' meddai llefarydd.

Mae cytundeb pur gyffredinol erbyn hyn ymysg llenorion a beirniaid llenyddol ein gwlad fod Gruffydd yn un o brif feistri rhyddiaith Gymraeg ac y mae dwy gyfrol a gyhoeddwyd ganddo yn y tridegau yn dangos hyn yn glir, sef Hen Atgofion, rhan o'i hunangofiant, a'r gyfrol gyntaf o gofiant OM Edwards.

Eithr ysgrifau ydynt a gyhoeddwyd eisoes rhwng cloriau caled, nad yw'n rhy anodd dod o hyd iddynt.

Rwyn cofio teimlon hynod o hapus y bore da hwnnw yng Nghymru pan gyhoeddwyd canlyniad y refferendwm datganoli.

Mewn adroddiad a gyhoeddwyd ar y cyd gan Oxfam a'r Cenhedloedd Unedig, dywedir mai diffyg cynllunio, nid diffyg bwyd, sy'n achosi newyn.

Er bod Bedwyr wrthi'n traethu cerddodd Mrs R____ ar hyd yr ale/ i'r tu blaen, eistedd, edrych i fyw ei lygaid, a cherdded allan ar ei hunion y ffordd y daeth, gan ddweud wrth geidwad y drysau y tybiai hi mai DLlM a gyhoeddwyd i ddarlithio yno: "Dw-i wedi clŵad hwn o'r blaen." BLJ ei hun a ddywedodd y stori wrthyf i, gyda'r afiaith arferol hwnnw a gyffroai ei aelodau i gyd.

Ymrestrodd amryw o wŷr amlwg yn y Brifysgol tu ôl i Newman, fel William Palmer, a fu'n llugoer ei deimladau tuag ato er pan gyhoeddwyd Remains Hurrell Froude, a Dr Pusey, a apeliodd am amser a chyfle i Newman gael ei amddiffyn ei hun, er nad oedd yn cytuno â rhai adrannau o'r Traethawd.

Hawdd yw edmygu pob un o'r creaduriaid hyn ond annisgwyl braidd yw'r toreth o lenyddiaeth a gyhoeddwyd yn flynyddol sy'n ymwneud a hwynt.

Fodd bynnag, mae'n rhaid darllen y canllawiau ar gyfer pob pwnc o fewn y Cwricwlwm Cenedlaethol yng nghyd-destun y Gorchymyn Cwricwlwm Cenedlaethol a gyhoeddwyd ar gyfer y pwnc hwnnw.

Ceir disgrifiadau manwl yn adroddiadau swyddogol y cyfnod, a hefyd mewn llyfrau a gyhoeddwyd yn ddiweddar, megis llyfr ardderchog Robert Hughes the fatal shore, ac o diddordeb arbennig i ni'r Cymry astudiaeth fanwl Deirdre Beddoe o hynt a helynt y carcharorion benywaidd o Gymru, Welsh Convict Women, a llyfr Dr Lewis Lloyd, Australians from Wales.

Am y tro cyntaf er pan gyhoeddwyd y stamp cyntaf yn 1839 bydd stamps syn sticio heb lud-y-maen-rhaid-ei-wlychu ar eu cefnau yn cael eu gwerthu ddechraur flwyddyn newydd.

Lluniodd aelodau'r gweithdai hyn argymhellion a gyhoeddwyd yn y llyfryn Iaith Ifanc ym mis Gorffennaf.

Ychydig a gyhoeddwyd o'r safbwynt cymdeithasegol yn Gymraeg, on un enghraifft yw astudiaeth Dr R.

Llidiwyd y dynion ymhellach gan adroddiadau cyllidol y cwmniau rheilffyrdd a gyhoeddwyd ar y pryd.

Fe ufuddhaodd Wil Sam ac fe gyhoeddwyd y stori yn Y Ddinas - un o amryw a welodd olau dydd hwnt ac yma yn yr un cyfnod.

Mae'r wobr gan Gyngor y Celfyddydau yn mynd i'r llyfr a ddewisir gan banel o feirniaid yn llyfr mwyaf nodedig yn y Gymraeg ac yn y Saesneg a gyhoeddwyd yn ystod y flwyddyn 2000.

Cyfeirir ato hefyd yn fy nghyflwyniad i ddiwylliant gwerin Uwchaled mewn cyfrol, Yn Llygad yr Haul, a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Gyhoeddiadau Mei.

Yn y rhifyn a gyhoeddwyd ar ddydd y cyfarfdo bu'r Cymro, o dan y pennawd 'Bwgan Costau'r Brifwyl', yn tynnu sylw at bryder cynnyddol.

Danid Rowland a gyhoeddodd fwyaf, ond yn ôl ei gofiannydd diweddaraf, nid oes ar glawr fwy nag un ar ddeg a gyhoeddwyd yn ei ddydd, ac ymddangosodd y ddeuddegfed ymhen rhai blynyddoedd ar ôl ei farwolaeth.

Cyfieithiad o'r Mabinogion a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1948.

A phan gyhoeddwyd hynny, ac yntau'n eistedd rhwng dau swyddog carchar, neidiodd Silyn ar ei draed mewn gorfoledd a brysio ar draws at Rhian i'w chofleidio'n dynn.

Ac fe gyhoeddwyd llythyr Vincent o fewn ychydig wythnosau i'r Eisteddfod yn y Royal Albert Hall lle llwyfannodd y Cymry eu teyrngarwch diarhebol gerbron Tywysog Cymru a'i deulu, lle cadeiriwyd Berw am awdl i Victoria a lifeiriai o edmygedd a diolch, lle bu Henry Richard AS, a 'savants' cyfarfodydd y Cymmrodorion, yn sicrhau pawb o fewn clyw na châi'r Gymraeg atal llanw'r Saesneg.

Dengys adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Hydref gan Hybu Iechyd Cymru fod angen gwella deiet pobl ifanc yng Nghymru.

Addasiadau ydyn nhw o lyfrau a gyhoeddwyd yng Ngwlad Belg.

"PA LE, PA FODD DECHREUAF": yw teitl llyfryn a gyhoeddwyd yn ddiweddar sy'n fraslun bywiog a blasus o fywyd a gwaith Dr Roger Edwards, yr Wyddgrug, - un o wyr athrylithgar y ganrif ddiwethaf.

Ategwyd y farn honno gan T. Madoc Jones, caplan a golygydd Seren y Dwyrain, y papur a gyhoeddwyd yn Cairo.

Gobaith Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yw y bydd y ddogfen Arwain o'r Gadair fel ei rhagflaenydd Dwyieithrwydd Gweithredol a gyhoeddwyd gan Gymdeithas yr Iaith yn rhoi seiliau cadarnach i'r Gymraeg yn y Cynulliad Cenedlaethol.

(Gweddi a gyhoeddwyd gan Ganolfan Sant Samson, Efrog) Hyn, gan obeithio y bydd y weddi o gysur i'r rhai sy'n hŷn ac yn gymorth i warchod rhai iau rhag hunanoldeb.

Nofel a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1880, am un o wþr ifanc Terfysg Beca.

Madoc Jones, caplan a golygydd Seren y Dwyrain, y papur a gyhoeddwyd yn Cairo.

The Miner's Next Step a gyhoeddwyd yn y Rhondda yn galw am newidiadau sylweddol mewn perchnogaeth a rheolaeth glofeydd.

Bydd y ddogfen hon sydd wedi ei seilio ar lyfryn a gyhoeddwyd gan Ysgrifenyddiaeth Bwrdd Trysorlys Canada yn cynnig canllawiau ar sut i gynnal cyfarfodydd pwyllgor yn y Cynulliad Cenedlaethol yn llwyddiannus yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Y mae'r ffaith hon, ynghyd â theneuwch y dystiolaeth hanesyddol am Arthur, wedi peri'n ddiweddar i rai ygolheigion droi'n ôl at y farn a gyhoeddwyd gan Syr John Rhŷs ganrif yn ôl, sef fod seiliau mytholegol yn gorwedd y tu ôl i'r traddodiadau amdano.

Daw bywiogrwydd arddull Youenn Drezen a'i glust am ddeialog i'r amlwg eto yn ei ddramâu byrion, a gyhoeddwyd dan y teitl Youenn Vras hag eu Leue (Owain Fawr a'i Lo).POT-POURRI - Herbert Hughes

Newydd syfrdanol, a nodaf yr union amser fel y gwnaeth llawer ohonom pan gyhoeddwyd llofruddiaeth yr Arlywydd Kennedy.

Y mae'n syndod gymaint o farddoniaeth gwerin a gyhoeddwyd yn y cylchgronau.

Un o'r pamffledi pwysicaf a gyhoeddwyd, ac y bu gwerthu mawr arno, oedd ...

Dengys ystadegau a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd fod patrwm i'r gefnogaeth.

Hawliodd y Gymdeithas fuddugoliaeth yn ei hymgyrch o blaid Deddf Eiddo ym mis Rhagfyr pan gyhoeddodd y Swyddfa Gymreig ddrafft o Nodyn Cyngor Technegol (NCT) ar `Yr Iaith Gymraeg -Cynlluniau Datblygu Unedol a Rheoli Cynllunio'. Drafftiwyd y canllawiau newydd yn sgil pwysau oddi wrth y Gymdeithas a nifer o awdurdodau cynllunio lleol am ddiwygio'r canllawiau cyfredol a gyhoeddwyd fel `Cylchlythyr 53/88' ym 1988.

Gadawodd Youenn Drezen hefyd nifer o gerddi hir, fel Kan da Gornog (Cân i'r Gorllewin) a gyhoeddwyd yn Gwalarn.

Yr anerchiad pwysicaf, fodd bynnag, oedd un Saunders Lewis yn y cyfarfod agoriadol ar "Egwyddorion Cenedlaetholdeb" a gyhoeddwyd yn ddiweddarach fel pamffledyn cyntaf y Blaid.