Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyhyd

gyhyd

Dywedodd hwnnw y byddai'n rhaid i Waldo ymadael, ond y gwnâi ef ohirio hynny gyhyd ag y gallai.

a) Gadw'r galwr i siarad gyhyd â phosib.

Mynnai'r canoniaid fod Ferrar yn gohirio anfon papurau'r achos iddynt gyhyd ag oedd yn bosibl er mwyn ei gwneud yn anodd iddynt amddiffyn eu hunain a haerai Ferrar fod y canoniaid yn ei rwystro rhag gweld y dogfennau yn Nhyddewi a oedd yn diffinio hyd a lled ei waith a'i awdurdod fel esgob.

Mynnwn fod cymunedau Cymru a'r iaith Gymraeg angen grym deddfwriaeth gynradd i ateb gofynion eu lles gorau ac i herio'r anghyfiawnder a'r dinistr sydd wedi ein caethiwo fel cenedl gyhyd.

Dangosodd fod llygod a borthwyd ar ginseng am fis yn medru nofio heb ddiffygio ddwywaith gyhyd â llygod na chafodd ginseng.

Yn ddistaw bach, roedd Dafydd Elis Thomas wedi gobeithio y byddai Syr Wyn Roberts yn aros yn y Swyddfa Gymreig gyhyd â phosib - bellach, gyda Rod Richards yn swydd allweddol yr iaith, mae yna ansicrwydd newydd.

Tra bo hi'n bosibl i gael cwmni%aeth ffrindiau llengar yn y wlad mewn ardal bendant, a chymdeithas i sgwrsio am y pethe, a mwynhau gwir ffrwythau'r awen, gyhyd â hynny y bydd rhywrai'n deall y math o fywyd yr oedd Waldo'n gynrychiolydd mor lew ohono.

Gan inni fod gyhyd yn nisgleirdeb yr haul ni allem weld yn glir iawn i'r cysgodion, ond wedi cynefino tipyn gallem weld merch yn plygu allan o un o ffenestri'r adeilad gyferbyn.