Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gylch

gylch

Olion afonydd Ond maentumir nad oedd Mawrth yn rhewllyd trwy gydol ei hoes oblegid yn ystod ei dyddiau cynnar credir fod yma gynhysgaeth gref o nwyon yn byrlymu o fynyddoedd tanllyd ar hydddi gan greu atmosffer trwchus o'i gylch ac yn cadw gwres yr haul rhag dianc ac o'r herwydd yn codi tymheredd arwynebol y blaned.

Gêm gyfartal, felly, a digon i Alan Cork gnoi cil yn ei gylch.

Trois at ei wraig a'i holi hi yn ei gylch.

Nid oes unrhyw dystiolaeth iddynt droi at y Tristan en Prose, er bod fersiynau diweddar o Gylch y Fwlgat yn cyfuno'r Tristan hwnnw â hanes y greal,' ac ni adawodd rhamantau cynnar Be/ roul a Thomas' eu hôl ar chwedlau Cymraeg.

Y mae 'anllywoadraeth a lladrad', meddai ymhellach, yn sicr o lygru 'hil gŵr a nerth gwâr yn ei ôl', a 'hwnnw sy'n gyfion', yn 'geidwad', yn 'gadarn', yn 'gall' ac yn ŵr 'da'r synnwyr' yng ngherddi Wiliam Llŷn, os nad hwnnw a oedd ei hyn yn benteulu a gadwai drefn ddisgybledig ar ei dy a'i dylwyth ac a estynnai gortynnau ei warchodaeth i gylch ehangach ei gymdogaeth.

Roeddem yn edrych fel rhes o bysgotwyr o gylch pwll tro ond fod y wialen yn ein ceg.

Cyfuno deunydd a fenthycwyd o'r Brut ac o ramant Ffrangeg, y Merkn en Prose (rhan o Gylch y Fwlgat) a wnaeth awdur anhysbys y testun a adwaenir heddiw fel 'Genedigaeth Arthur', er enghraifft, ac a gadwyd yn llsgr.

Y mae'n canu, nid yn unig gydag eraill, ond hefyd dros eraill; ac nid yn unig dros eraill o'i gylch yn y capel, ond dros rai nad ydynt yno.

Mae chwithdod mawr ar eu hol yma ym Moelfre - buont yn barod bob amser eu cymwynas a'u gwasanaeth a'u cyfeillgarwch i ni, drigolion y pentref, ac i gylch eang o Fon a'r Gogledd.

Er bod y Saeson yn wannach nag y dylsen nhw fod, oherwydd absenoldeb Lee Westwood, mae ganddyn nhw dri profiadol o gylch-daith Ewrop yn y tîm - Roger Chapman, Brian Davis a Jamie Spence.

Fe archwilion ni hyd at bum milltir o gylch y castell heddiw.'

(Yno, fel y digwyddodd pethau, ar ymweliad â chartref Wil, fy mrawd, y cafodd Mam ei tharo'n wael.) Pan gyrhaeddais, roedd fy chwiorydd a'm brodyr yn y llofft o gylch y gwely, a Mam, druan, yn anymwybodol.

Holais Bob yn ei gylch.

Roedd Derfel am beth amser yn bregethwr cynorthwyol gyda'r Bedyddwyr, ac yn aelod o gylch llenyddol blaenllaw a oedd yn cynnwys Ceiriog a Chreuddynfab.

Mae o wedi bod wrthi'n ffoi erstalwm rŵan, yn ffoi'n gylch o amgylch y byd a'r ysbrydion aflonydd ar ei sodlau'n ei hambygio ac yn ei gosbi.

Daeth y syniad am y 'dinesydd defnyddiol' yn gyfarwydd i wladweinwyr, sef y gwr cyffredin a allai wasanaethu'r wladwriaeth mewn sawl ffordd am ei fod yn llythrennog ac yn fwy hyblyg o'r herwydd, â'r gallu i fyw a gweithredu y tu allan i'w gylch pentrefol traddodiadol.

Ar ogwydd felly, edrychai'r bonet bach yn debyg iawn i'r llewyrch hwnnw a beintir o gylch pennau saint mewn hen ddarluniau.

"Am dy fod mor anesmwyth, mae popeth o dy gylch di yn dlawd."

Drwy'r dydd bu'r plu yn chwyrlio o'r awyr lwyd a phan ddaeth y nos a'i rhew, ni allai yr un cerbyd dramwyo'r ffyrdd o gylch y dref.

Bu'r cynllun newydd yn llwyddiant anghyffredin gan i bedwar ar hugain o aelodau newydd o gylch Glasfryn ymuno â'r Ysgol Sul.

O holl amrywiaeth taclau'r gwareiddiad newydd, o raselydd i beiriannau golchi, mae'n debyg mai'r teledu ddaeth a'r chwyldro i'w anterth wrthi ganolbwynt yr aelwyd symud o'r lle tan, gyda'r gadair freichiau a'r setl a'r soffa yn gylch o'i gwmpas a phawb yn ei wynebu, i'r bocs yn y gornel, a phawb yn eistedd yn rhes a'u hochrau at y tan a'u hwynebau at y sgrin.

Yn y Gymdeithas Gymraeg yr oedd ffilm yn cael ei dangos o ymweliad Côr Gyfynys a Phatagonia -- a gwelais amryw o gylch Stiniog ar y ffilm.

Hedfannai ei gwallt yn gudynnau brith o gylch ei phen, fel petai newydd gael sioc drydan, ac roedd ei chap nos lês wedi ei luchio'n ôl yn gam ar gefn ei phen gan y mwng gwyllt.

Griffith, ac aeth blynyddoedd heibio cyn i bobol ddechrau teimlo'n blase/ yn ei gylch.

Aethai hyn yn gylch wedyn o ddirywiad cynyddol.

Bob yn dipyn, fe fyddai'n dechrau camu'r haearn o fod yn ddarn unionsyth i fynd yn raddol yn gylch.

Daeth yntau yno, dyn bychan, bywiog, yn gwisgo sbectol drom, a chanddo farf frown dywyll o gylch ei wyneb, ac yn gwenu'n siriol wrth ymddiddan â Mam.

Fe geisies i dynnu sgwrs a Luned yn i gylch e, ond doedd gan honno fawr ddim i weud wrth neb ar ol y briodas, ac fe anghofiodd pawb am y peth yn union y daeth stori arall i gnoi cil arni.

Gan mai ymwelydd dros dro yn unig oeddwn i, fentrwn i ddim beirniadu cyflwyr yr economi yn yr Undeb Sofietaidd, oni bai fod y bobl hwythau'n teimlo mor ddig yn ei gylch erbyn hyn.

Ar ôl gorffen gwneud y bwl byddai'r gof yn gosod dau gylch haearn amdano yntau.

Aeth popeth yn gylch gwyllt o'i chwmpas, ac yna'n dywyllwch.

Bu nifer o bobl o gylch 'Y Pentan' yn brysur iawn yn Eisteddfod Casnewydd, yn enwedig o gofio mai hon oedd yr eisteddfod olaf cyn Eisteddfod Dyffryn Conwy a'r Cyffiniau y flwyddyn nesaf.

Yr oedd ganddo ddawn arbennig i sgrifennu'n ddiddorol am bobl a phethau o gylch Ffestinioig.

Pan oeddwn yn wyth a naw oed awn o gylch Nant-y-moel gyda cherdyn i gasglu at y genhadaeth dramor.

Roedd yna ffos o gylch y castell!

Heb hyd yn oed y weledigaeth hon i ddechrau, dygnu arni a wnaeth HR er hynny, gan weithio trwy gyfrwng y wasg a thrwy anfon gwahoddiadau at gylch ehangach fyth o gydnabod.

Cyfeillion agos yn unig, ebe Glenys, fel petai'n gallu darllen ei feddwl, gan droi atynt i gyd yn eu tro i wenu arnynt a'u derbyn i gylch ei chyfeillgarwch.

Yng nghanol y tywyllwch daliai porter ei lamp i fyny a hithau'n taflu ei phelydrau allan yn gylch i niwl y bore.

Dyma gylch cyfarfod sydd wedi gafael a thyfu, cylch o bobl o wahanol enwadau o fewn y dref sy'n dod at ei gilydd i sgwrsio, yfed te a choffi a myfyrio ar y Gair, a hynny bob bore Mawrth yn Festri Salem.

Nid pruddglwyf rhamantus bellach, ond nodyn sinig o enau gŵr a welodd taw twyll ydoedd y cyfan o'i gylch.

Un o'r pethau a dynnodd fy sylw gyntaf wedi symud i'm cartref newydd oedd yr adeilad mawr - muriau uchel o'i gylch, a safai led dau gae oddi wrth ein tŷ ni.

Dro arall ant i ryw gylch o gerrig i sefyll am awr neu ddwy a llafar ganu'n uchel wedi eu gwisgo mewn gwyn a glas a gwyrdd.

A grwp o hogiau ifanc o gylch Llangernyw.

O gylch Papur Menai roedd clybiau Dwyran a Phenmynydd a Llangoed wrth gwrs ond rhwng Penmynydd a Rhosybol yr oedd hi am Darian yr Enillwyr efo Rhosybol yn y diwedd yn mynd a hi.

Eryrod, cathod gwylltion a llwynogod yw eu gelynion naturiol hwy yn yr Alban ac os bydd y gelynion hyn yn fygythiad gwirioneddol mewn cylch arbennig, ymfuda'r ysgyfarnogod i ddiogelwch rhyw gylch arall.

Dyma bwys o siwgr; ni ellir dadlau yn ei gylch.

Heledd yn crechwenu'n ddwl yng ngafael y ddiod, Heledd yn wylo'n ddilywodraeth a hyll, yn nadu fel anifail mewn poen, a neb yn gallu torri drwy gylch ei hing i'w chysuro.

Spadea yw'r chwaraewr gyda'r record salaf ar y gylch-daith - mae wedi colli 22 gêm yn olynol.

Yr oedd hefyd yn aelod o Glwb yr Efail ac o Gylch Cinio Bangor.

Cerdded o gylch yr hollt enfawr, tua milltir neu fwy o dro.

Cafwyd eitemau gan barti o bobl ifanc o gylch Carmel a Llanrwst.

Am naw o'r gloch nos yfory mae criw ohonyn nhw'n mynd i ganu carolau o gylch y dref.

Pa fedal fyddai fyth yn ddigon cymwys ac addas i hongian o gylch ei gwddf fel teyrnged i'w dewrder yn sefyll yn yr adwy i'n hatal ni y gwþ þ ie, y rhai cryfaf, i fod þ rhag llwyr golli ffydd a mynd ar ddisberod gyda'r genfaint foch?

Tyfai ymylwe o flew main o dan y llygaid ac o gylch y genau mân.

Un o gylch yr Oriel ei hun yw Maredudd ab Iestyn.

Ymysg yr enillwyr o Benmynydd oedd Dilwyn Owen a Dylan Jones am Baratoi Oen at gylch sioe; Arwel Jones a Medwyn Roberts am wneud crempog (a'i thaflu!!); Paul Parry ac Ann Williams am addurno drwm olew, Arwel Jones ac Aled Pennant am wneud cenel i gi, ac unwaith eto eleni, eu tim dawnsio gwerin.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, er mawr ddiddordeb i ni'r prentisiaid, carcharwyd nifer o Almaenwyr yn Graiglwyd Hall, ac roedd weiren bigog o gylch y cae o flaen y tŷ.

Diolch yn fawr iawn hefyd i Ffion o gylch meithrin Talgarreg am y llun ar gyfer y clawr.

Ac fel arbenigwr ar gelloedd, mi alla i dy sicrhau di nad ydi o'n brofiad y gelli di ein twyllo ni yn ei gylch.

Torri dau gylch o risgl, hanner modfedd oddi wrth ei gilydd, yw'r ffordd briodol o wneud y gwaith.

Yn anarferol iawn nid oedd ganddi deulu agos ond cafodd ofal gan gylch bach o gyfeillion.

Dyn tawel, swil yn y bôn, oedd Francis, yn troi yn ei gylch bychan ei hun, ond yn gwybod mwy am y byd mawr y tu allan na'r rhelyw o'i gwmpas.

Ymdroellai cylchoedd o arogleuon amhleserus o'i gylch.

Ond ar yr un pryd ceir penodau lle mae'r pwyslais ar gyffroi dychymyg y pelntyn, drwy ei gael i'w roi ei hun yn sefyllfa cymeriadau hanesyddol, sef ymarferion yr 'empathi' bondigrybwyll, y bu cymaint o ddadlau yn ei gylch yn ddiweddar yn y wasg Seisnig.

Mae'n amlwg oddi wrth ei holl gynnyrch, er gwaethaf ei barch at reswm, at drefn, at ffurf mewn bywyd a chelfyddyd, nad pleidiwr llythyren farw'r ddeddf ydyw o gwbl, oherwydd mae'n barhaus yn herio'i gymeriadau i gamu y tu hwnt i gylch cyfyng eu harferion traddodiadol a gweithredu'n greadigol er mwyn meddiannu gwirionedd uwch.

Yn y cyfarfodydd hyn daeth y geiriau a ganlyn yn gyfarwydd: Daeth y geiriau'n gyfarwydd i bob un wrth i gylch ohonom gydio yn nwylo'n gilydd i'w canu.

Raid i ddyn ddim ond dechrau dweud stori ysbryd a fydd ganddo gylch o wrandawyr parod.

A chwythu mwg o gylch ei feddyliau dwys.

Ar waethaf anlladrwydd y trigolion - yr oeddynt yn ddigon wynebagored yn ei gylch fel y prawf y lluniau yn nhai'r puteiniaid ac yng nghartref y brodyr Vitti, yr oedd y trefwyr yn gosod pwys mawr ar lendid corff ac ar iechyd.

Bwtyai nhw, ar ryw ffurf neu'i gilydd, gyda phob pryd; gyda'i facn i frecwast, a'i gig i'w ginio, ar dafell i'w de ac mewn salad i'w swper; yn falurion yn ei gawl, yn sudd yn ei saws, yn stibedi o gylch ei gaws; wedi eu berwi a'u ffrio a'u stwnsio a'u stwffio.

Ac ymhen y flwyddyn i'r diwrnod yr oedd wedi amgylchynu tŷ Ty'n y Gilfach hefo'r polyn, a dod yn ôl i'r weirglodd, yn union i'r fan lle y dechreuodd ei gylch flwyddyn yn ôl.

Nid yw'r Gymraeg a glywir mewn ambell gylch yng Nghymru heddiw namyn braiaith esgymun a chwbl ddiurddas.

Onid ydi'r hogan benchwiban 'na sy'n darllen y Newyddion bob nos yn nith i chwaer yng nghyfraith c'nither Margiad Parry Ty Mwg a 'dydi pedigri hen ddynas Ty Mwg yn ddim i orfoleddu yn 'i gylch.

Os buoch chwi'n ceisio gwerthu buwch sbeitlyd ryw dro, fe gofiwch fel yr ymddangosai fod holl stþr y farchnad yn tarddu o gylch eich cyfeilles.

Ni byddai na rhaff o gylch ei chorff na gefynnau am ei choesau yn ddim ond moddion iddi ddangos ei champau.

Hynny, a'r ofn o fod y tu allan i gylch y chwerthin ac amau, yn f'unigrwydd, mai fi a'i symbylodd.