Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gymeriad

gymeriad

Ond nid yw Geraint eto'n rhydd o fagl gormodedd yn ei gymeriad.

Dim ond un wedd - a gwedd gamarweiniol i ryw raddau - ar gymeriad Ieuan Gwynedd yw hon.

Rhan o'r bwriad yw fod llawer o'r cymeriadau yn ystrydebau - o'r athrawes ddrama sy'n hynod o "darlings, darlings" i'r prifathro gwallgo sydd wedi cael ei seilio ar gymeriad o ffilm y grwp roc Pink Floyd, The Wall.

Y mae actio David Lyn ar gyweirnod uwch nag un John Ogwen ond yna mae Williams yn ddirgelwch o gymeriad ac o bosibl ar y ffin rhwng gorffwylledd a normalrwydd.

Fe gofir bod y mynach anllad yn gymeriad cyfarwydd mewn llenyddiaeth fasweddus trwy'r oesoedd.

Cyfres o bedair pennod awr o hyd fydd Y Wisg Sidan gyda Betsan Llwyd yn brif gymeriad.

O dan yr wyneb mae yna ochr wyllt i gymeriad Gareth Lewis - ganol mis Awst fe fydd yn mynd i ddilyn y Grand Prix Hwngaraidd yn Budapest.

Yr oedd ei fam, mae'n amlwg, yn wraig o gymeriad cryf iawn.

Ystrydeb, mae'n debyg, fyddai dweud ei fod yn gymeriad unigryw, ond dyna oedd.

Ymddangosai pamffledyn Ieuan Gwynedd fel amddiffyniad wedi ei amseru'n berffaith i ateb ymosodiadau'r Dirprwywyr ar gymeriad y Cymry: 'Pe buasai yr Awdur yn gwybod pob gair a gynwysai yn adroddiad y Dirprwywyr', meddai'r Diwygiwr ym mis Ionawr, 'ni ysgrifenasai well ateb i'w cabldraethau ar wlad ei enedigaeth.

Nodwedd amlwg yn ei gymeriad oedd y gwnai bopeth a'i holl egni, gan roi ei orau ym mhopeth yr ymaflai ei law ynddo.

Mae Syd yn gymeriad.

Roedd perchennog Dremddu Fawr yn hen gymeriad craffus iawn ac yn ūr o flaen ei oes fel amaethwr.

Bachgen ifanc iawn oeddwn i pan gyfrannodd y bobl hyn eu pytiau yn y llyfr (oddieithr y mwy diweddar ohonynt) ac arwynebol iawn, ar y gorau, oedd f'adnabyddiaeth i o gymeriad neb y pryd hynny.

Gyda'i gymeriad hoffus, ychydig yn ddireidus, Williams fu'n gyfrifol am lwyddiant y gyfres chwe rhan hon.

Nodwedd arall a berthynai i'w gymeriad a'i gynnyrch oedd cadernid a phendantrwydd, a hyn a wnaeth ei olygyddiaeth, fel ei weinidogaeth, yn rymus ac effeithiol.

Mae'n bosibl, wrth gwrs, i ni ddarllen gormod i mewn i'w eiriau, ond heb os mae o'n gymeriad arbennig iawn ac wedi gweithio dros achos Heddwch yn Iwerddon ers ei drychineb ddychrynllyd.

Y mae'n disgrifio ei gymeriad yn y geiriau hyn,

Y ffaith eich bod am ddilyn ffawd rhyw gymeriad truenus neu weld cyfiawnder mewn sefyllfa anghyfiawn.

R'yn ni'n trio gwitho'n galed a joio hefyd." Mae Rhys Evans sy'n actio'r prif gymeriad ar y llwyfan bron trwy gydol y perfformiad - dyna pam yr aeth Laurel Davies am ddisgybl chweched dosbarth ar gyfer y gwaith.

Y mae Long John Silver yn gymeriad a fydd byw tra bydd straeon yn cael eu dweud.

Câi'r Ymofynnydd fantais ddwbl o'r ffaith fod y golygydd yn ŵr cyhoeddus ac yn gymeriad cenedlaethol.

Yn wahanol i nofelau Lewis Jones, nid un prif gymeriad sydd yn Traed mewn Cyffion, ond dau.

'Teg a mawr at gymeriad', meddai Siôn Cain yntau am etifeddes, 'ond ei thir a rodd ei thad'.

Doedd o ddim mor siwr o gymeriad y Miss Williams 'na o ran hynny.

Yn amlach na pheidio y ffaith i ddarllenwr glosio at gymeriad sydd yn eich siarsio i ddal ati i ddarllen.

Haera ef mai pwrpas swyddogol yn hytrach nag addurnol sydd i'r cymariaethau a'u bod yn taflu golau llachar ar gymeriad a digwyddiad yn ogystal â dwysa/ u'r adnabyddiaeth a'r dealltwriaeth.

Trwy wneud delfryd ohono, fe gafodd yn y diwedd ei droi'n gymeriad 'pathetig' ac fe fethodd y Cymry Cymraeg â sylweddoli beth oedd ar droed pan gafodd yr hen undebaeth ryddfrydol ei disodli gan undebaeth ffyrnig newydd.

Nid amherthnasol yn y cyd-destun yma yw sôn am lyfr T Hudson- Williams, Y Groegiaid Gynt, er nad yw'r awdur yn honni fod y gyfrol honno yn fwy na llyfr rhagarweiniol, a ysgrifennwyd gyda'r amcan o roi rhyw syniad am gymeriad a diwylliant y Groegiaid i ddarllenwyr heb unrhyw gefndir o addysg glasurol.

Rhys yw'r prif gymeriad, yn wynebu'r cyfuniad art`erol o waith ysgol a chariad cynta', ac mae'r ysgol yn llawn o gymeriadau nodweddiadol.

Nodwedd arall yn ei gymeriad a'i gwnâi'n fugail effeithiol oedd ei allu i siarad yn ddi- lol â neb pwy bynnag.

Cyfuniad yw o ddeialog naturiol, ymson a llafarganu, sydd yn galluogi'r awdur i dynnu sylw yn barhaus at y ffordd y mae agweddau gwahanol ar fywyd ei gymeriad yn cyd-wau a chyd-daro.

Cyflwyna gymeriad newydd, Robin y Glep, sydd yn cynrychioli elfennau yn y gymdeithas sydd yn gwrthwynebu priodas Margaret a Bob.

Wrth ddewis ymdrin a llipryn o brif gymeriad, clwtyn llestri o ragrithiwr a neidiodd ar wagen y Rhyfel Degwm er mwyn taflunio delwedd arwrol ohono'i hun i dwyllo cymdeithas hygoelus a ffug-barchus, yr oedd Tegla fel petai'n ensynio'n anuniongyrchol mai tan siafins oedd y frwydr wleidyddol, ac nad oedd yr holl helyntion ond rhyw ddrama ddisylwedd.

Ond yn wahanol i hynny yng ngolwg pawb roedd wedi hoelio'i gymeriad ar un o helion uchaf boneddigeiddrwydd y fro, heb orfod adio dim at ei daldra'i hun.

Nid yw'r arlunydd fel petai'n ymddiddori dim ynddo ef ei hun ac eto mae'n cyfleu rhywbeth o'i gymeriad.

Ond un ochr i'w gymeriad oedd y diddordeb mewn meithrin ysbrydoledd.

Mae Ben yn ffan mawr o'r straeon a chyda phob stori newydd mae na gymeriad newydd i ddod i'w nabod a'r hen ffefrynnau fel y Dewin Dwl, Rwdlan a'r Llipryn Llwyd i'w cyfarfod unwaith eto.

er bod ei farn am gymeriad Penri yn anarferol o dirion - ar wahân i'r gred ryfedd fod gwaed Cymry'n boethach na gwaed Saeson!

Yr oedd rhyw ddiniweidrwydd gwladaidd yn perthyn i'w gymeriad, a'r nodwedd hon a ddaliodd sylw John Thomas, Lerpwl:

Y Stori Mae stori Dafydd yn troi o amgylch y prif gymeriad, Dafydd: bachgen ifanc hoyw, sy'n dianc o awyrgylch gyfyng a chul ei dref enedigol ym Mhontypridd i geisio rhyddid yn ninas Amsterdam.

Nofel hunangofiannol yw, a Myrddin Tomos, y prif (a'r unig) gymeriad, yw Gwenallt ei hun.

Un stori am gymeriad felly a adroddai oedd honno arn y pregethwr cynorthwyol hwnnw - a alwyd ryw Sul i bregethu mewn dwy eglwys, ryw dair milltir oddi wrth ei gilydd.

Penderfynir ei gymeriad ef gan natur y gymundod neu'r cymundodau y perthyn iddyn nhw.

Er iddo gadw llawer o'i gymeriad unigryw, tyfodd i fod yn berson hawddgar.

"Edrychwch ar y ffyliaid," meddai merch o gymeriad drwg oedd yn ymyl.

Cafodd Bowser y gair o fod yn gymydog caredig a rhadlon ond tuag at ei deulu mynnodd ddisgyblaeth haearnaidd ac erys hanes y driniaeth a gafodd Elisabeth ganddo yn staen annileadwy ar ei gymeriad o hyd.

Y Brenin Da yw Brên a'i gymeriad yn hollol wahanol i'w lysfrawd.

Roedd Tomos yn gymeriad hoffus, syml, ffyddlon, gonest a dewr.

Daw y prif gymeriad, Dr Vavasor Jones, i'r casgliad hwnnw hefyd a'r canlyniad yw ei fod yn cyflawni hunanladdiad.

Gydai gymeriad hoffus, ychydig yn ddireidus, Williams fun gyfrifol am lwyddiant y gyfres chwe rhan hon.

Dywed ef wrthym fod tad Waldo'n "ddyn arbennig iawn, yn ddyn o gymeriad cryf a dylanwadol.

Yn debyg i'r rhain, aeth awdur Cwm Glo i deimlo fod i'r bywyd dynol ac i gymeriad dyn a dynes elfennau o gymhlethdod sydd y tu hwnt i afael yr awduron naturiolaidd.

Ond ar y llaw arall, ni chuddir oddi wrthym y nodweddion cymysg a oedd yn ei gymeriad.

Yn fynych ni allai'r beridd ddarlunio'r uchelwr yn llawnder ei gymeriad heb ystyried gwraig y plasty yn rhan hanfodol o'i wneuthuriad.

Mewn rhan arall o'r un chwarel roedd yna gymeriad arbennig yn canlyn ceffyl ac un diwrnod aeth i swyddfa'r chwarel i weld y prif oruchwyliwr i ofyn am godiad yn ei gyflog.

Roedd y gymeriadaeth wedi ei hangori mewn hen chwarelwr cwbl gredadwy (o Ddeiniolen, mae'n siwr!) Roedd rhythmau iaith lafar John Ogwen yn gweddu yn gwbl fanwl i rythmau cryf y sgrifennu a'i gymeriad yn rhan o'r gymdeithas a ddisgrifiwyd mor hoffus gan Gwenlyn ei hun yn y rhaglen fywgraffyddol a gyflwynodd y gyfres.

Oedd, fe oedd yn gymeriad lliwgar, gyda iaith a dywediadau yr un mor liwgar.

Roedd yn gymeriad annibynnol iawn - yn parhau i baratoi ei uwd i'w frecwast yn ddyddiol.

Llyfr stori-a-llun gwreiddiol i blant bach am gymeriad newydd sbon.

Yr oedd yn gymeriad llenyddol cwbl unigolyddol.

Mae Reg wedi bod yng Nghwmderi ers y dechrau - ef yw'r unig gymeriad gwreiddiol sydd ar ôl yn y gyfres.

Pe bai rhywun yn cyfieithu llyfrau plant Selina Chonz o'r Romaneg i'r Gymraeg, fel y gwnaed i lawer iaith arall, fe welai'r Cymry gymeriad y tai hyn drostynt ei hunain yn narluniau Alois Carigiet o gartrefi Uorsin a'i ffrindiau.

Y mae nod Taith y Pererin yn gymharol syml: gellir symud y prif gymeriad o gyflwr darluniadol i un meddyliol e.e.

Felly yr un cynlluniau asesu sydd ar y gweill i'r gorau o Ynysoedd Prydain yn ogystal â'r brwdfrydedd sy'n rhan annatod o gymeriad lliwgar Steve Black.

Os oedd Evan Jones yn gymeriad, roedd ganddo gefnder ymhlith y mwyaf lliwgar o blant dynion.

Meddai Mam "Nabod dy Dad, mae wedi rhoi siwt eto i ryw gymeriad anffortunus fu'n disgwyl amdano wrth gatiau'r Doc yn un o borthladdoedd De Cymru." (Hynny ar ôl i hwnnw ddarllen colofn Movements of Local Vessels yn y Western Mail.) Byddai wrth ei fodd yn teithio gyda ni yn y Mini bach, y wlad, fel y môr, yn ysbrydiaeth iddo.

Er mai'r Dewin Dwl - yr un bach comic - yw hoff gymeriad Sian o hyd, Cosyn oedd hoff gymeriad Ben erbyn diwedd y stori.

Roedd yr ail gymeriad yn byw yn y Lodge Gefn.

Y mae'r glowr mewn llenyddiaeth yn enghraifft meddai, "o gymeriad a grebachwyd gan deyrngarwch." "O safbwynt llenyddiaeth y Gymraeg byddai mwy o 'anheyrngarwch' ...wedi gwneud mwy o les, wrth gwrs, na'r teyrngarwch rhigolus sydd yn ei hanfod yn wrthlenyddiaeth, ond yr oedd argyfwng y Gymraeg, gwaetha'r modd, wedi peri meddwl ers tro fod pob 'anheyrngarwch' o reidrwydd yn ddinistriol.

Beth bynnag am hynny, roedd yn gymeriad ffraeth a gwreiddiol ei ymadrodd a fyddai'n cynhesu ati o ddifri pan y synhwyrai fod rhai o leiaf o'i wrandawyr yn mwynhau'r dull anghonfensiynol o draethu a'u bod yn awchu am ragor.

A bu'r ddau hen gymeriad yn ffrindiau iddo.

Nofel am ddatblygiad perthynas annhebygol rhwng dau gymeriad.

Ysgrif am gymeriad yn hanes y Wladfa, medd y testun.

Yn wir yr oedd yn gymeriad anghyffredin yng nghefn gwlad Cymru yn y cyfnod hwn, yn radical o'r rheng flaenaf ac yn sosialydd o'r un garfan a William Morris.

Yr oedd yn gymeriad lliwgar, yn heddychwr y rhoddwyd min ar ei dystiolaeth gan y clwyf a ddioddefodd fel milwr yn y brwydrau yn Nyffryn Somme yn ystod Rhyfel Byd I.

Prif gymeriad mewn llyfr enwog gan JM Barrie ydyw, ac y mae grwp y Diliau wedi canu can amdano.

Dod i ddeall fod pobl yn newid gyda threigl amser a wnawn trwy gyfrwng y ddau gymeriad yn y stori, Gwen a Jane Clecs.

Ar ddechrau Pwyll gellid dweud bod yr awdur am brofi mai gŵr anrhydeddus o gymeriad cadarn yw tad yr arwr, a chanddo urddas a phwysigrwydd arbennig trwy'r berthynas agos sydd rhyngddo a brenin Annwfn.

Ond rhaid i mi gyfaddef on in ame eu cymeriad nhw ond fe ddangoson nhw ddigon o gymeriad neithiwr, yn enwedig pan on nhw 2 - 0 ar ei hôl hi.

Cawn hanes Seth, y prif gymeriad an-hoffus, a'i ddylanwad ar y bobl o'i gwmpas.

Yr oedd ochr lem i'w gymeriad.

Gydag argyfwng cymdeithasol yn gefndir, ymdrecha'r prif gymeriad, y crydd.

Ond er mor syml y rhediad mae'r manylion a gynhwysir a'r awyrgylch a gre%ir yn cyfrannu at ddatblygiad y stori oherwydd trwyddo rhed llinyn beirniadaeth o gymeriad Geraint yn ei ymagwedd a'r math o ddifyrrwch sy'n mynd â'i fryd.

Yn ogystal, y mae cynlluniau ar y gweill i drefnu cwis llyfrau rhwng yr ysgolion Cynradd ac i gynhyrchu llyfrynnau lliwio a darllen i blant wedi eu seilio ar gymeriad Gloyn (sef arwyddlun Eisteddfod yr Urdd yng Nghwm Gwendraeth) ynghyd â chylchgrawn chwaraeon.

Ond os oedd na bleser wrth fynd ati i ddarllen am gymeriad bach newydd yng nghreadigaeth hudolus Angharad Tomos mi roedd na ofid hefyd.