Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gymhellion

gymhellion

Yn ôl yr egwyddor hon, y mae'n ystyrlon i drin nwyddau traul (a hefyd, o ran hynny, nwyddau cyfalaf) fel cyfanred, os oes modd egluro'r galw cyfanredol am y nwyddau hyn heb ystyried na'r ffactorau sy'n pennu'r galw am nwyddau unigol nac ychwaith gymhellion treulwyr fel unigolion.

Mewn gwlad ddwyieithog fel Cymru, lle mae'n naturiol ac yn ofynnol i bawb ddysgu'r Saesneg sy'n fyd eang ei defnydd, mae'r rheidrwydd i ddysgu a defnyddio iaith carfan leiafrifol o'r boblogaeth ac iaith sydd wedi ei chyfyngu o ran defnydd i dir Cymru yn dibynnu ar wahanol gymhellion.

Gwnaeth Penri y rhan fwyaf o'i waith yn sir Northampton, yn esgobaeth Peterborough ac ni ellir gwerthfawrogi'n llawn gymhellion ei weithgarwch heb gymryd hynny i ystyriaeth.

Cawn weld yn nes ymlaen mai'r esgeulustod hwn o gymhellion yr unigolyn, yn arbennig yn y farchnad lafur, yw un o'r prif gyhuddiadau a wnaed yn erbyn y dadansoddiad Keynesaidd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Darllen oedd ei brif ddiddordeb ac, fel Fidel, roedd ei gymhellion yn tarddu o ramant a moesoldeb yn hytrach nag unrhyw ideoleg bendant.

Mewn cyfres o ymladdfeydd gwaedlyd gyda lladron o farchogion treisgar a thwyllodrus dengys Geraint ei nerthoedd fel marchog arfog, ond yn y modd garw, didostur yr ymetyb i rybuddion ffyddlon Enid gwelir mor brin ydyw o wir gymhellion y marchog urddol, er bod un awgrym mai'n groes i'w natur ei hun y gweithreda fel hyn, 'a thost oedd ganthaw edrych ar drallod cymaint â hwnnw ar forwyn gystal â hi gan y meirch pe ys gatai lid iddaw'.

Gwarth o beth yw i rai pobl briodoli iddo gymhellion Seisnig a Saesneg, ar y rhagdybiaeth ei fod yn ddi-Gymraeg, ac mai ei fwriad yw penodi swyddogion yn ei lun a'i ddelw Anghymreig a di-Gymraeg ei hun.

Bellach i'r naill awdur fel y llall, os mewn dulliau gwahanol i'w gilydd, y mae seiliau'r gymdeithas yn gwegian, ac mae'r pwyslais wedi symud oddi wrth natur yr hen gymdeithas at broblemau'r unigolyn o fewn y gymdeithas mewydd symudol ac ansicr, ac oddi wrth ddigwyddiadau allanol dwys neu ddigri at gymhellion mewnol unigolion yn ceisio ymdopi â bywyd.

Ac mae'r ffaith fod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi cau'r drws ar ragor o ymchwil i unrhyw gysylltiad honedig wedi arwain at ragor o ddrwgdybiaeth o gymhellion y llywodraeth.