Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gymhlethdod

gymhlethdod

Nodwedd benodol yr haen hon yw mai ystyried y ffordd y mae ymwybyddiaeth o bwysigrwydd iaith mewn cyfathrebu pynciol yn y cyd-destun uniaith a wneir, cyn symud i gymhlethdod y sefyllfa ddwyieithog.

Bydd disgyblion yn darllen amrediad eang o destunau llenyddol, anllenyddol a thestunau'r cyfryngau; gallant ddarllen yn gywir, yn rhwydd a chyda mynegiant priodol; bydd ganddynt ddealltwriaeth eglur o'r hyn y maent yn ei ddarllen ac yn ei weld, a gallant ymateb ar lafar ac yn ysgrifenedig i destunau o gymhlethdod cynyddol.

Maent yn hyderus wrth fynd i'r afael ag amrediad o destunau o gymhlethdod cynyddol a gallant ddeall ystyron ymhlyg yn ogystal â'r arwynebol a'r amlwg.

Gallwn ninnau ddweud fod Saunders Lewis y clasurydd - trwy'i adnabyddiaeth dosturiol o gymhlethdod natur dyn, a thrwy herio'i gymeriadau i fentro - ei fod yn osgoi ffurfioldeb crebachlyd y ddeunawfed ganrif, ac yn ymgyrraedd at synthesis rhwng clasuraeth a rhamantiaeth: prawf arall o annigonolrwydd y termau hynny.

Yn debyg i'r rhain, aeth awdur Cwm Glo i deimlo fod i'r bywyd dynol ac i gymeriad dyn a dynes elfennau o gymhlethdod sydd y tu hwnt i afael yr awduron naturiolaidd.

Yn hytrach nag ymlacio i dderbyn yr awdur yn ei holl gymhlethdod, mae hi'n haws gwneud i bob cymeriad gyfateb i athroniaeth arbennig.

Fel hyn yn unig yr argyhoeddir fod bardd yn adnabod y byd yn ei gymhlethdod cordeddog, ac y geill greu rhywbeth sy'n feicrocosm o'r byd, yn cynnwys ei elfennau gwrthgyferbyniol, ei gariad a'i gas, ei hyfrydwch a'i aflendid, ei fwynder a'i dristwch, ei eni a'i farw.

Tra gwahanol i lysoedd brenhinoedd yr Oesoedd Canol ydoedd natur y llys Tuduraidd; tyfodd hwnnw yn aelwyd genedlaethol ac i fod yn gymhlethdod o ystafelloedd neu siambrau ysblennydd a'r brenin yn ganolbwynt yr olygfa odidog a'r mynych seremoniau.