Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gymraes

gymraes

Roedd hi'n Gymraes ac yn eitha ymddiheurol.

Mae'r Gymraes o Gaerdydd, Tanni Grey-Thompson, wedi ennill ei phedwaredd medal aur yn y Gemau Paralympaidd yn Sydney, Awstralia.

Yr un modd, diniweidrwydd a barodd iddo gyhoeddi Y Gymraes (neu 'Merched Cymru', yn ôl y pennawd gwreiddiol), ei lenwi â chynghorion doeth ynglŷn â moes a buchedd yn unol â gwerthoedd y dosbarth canol parchus, a chredu y byddai'n apelio at ferched cyffredin.

Diolch i Cwl Cymru mae bellach yn boblogaidd bod yn Gymro neu Gymraes, ac adlewyrchwyd y diwylliant ieuenctid Cymraeg yng nghynyrchiadau BBC Radio Cymru, yn arbennig y pwyslais ar slotiau cerddoriaeth gyfoes llawn bywyd a rhaglenni bywiog i ieuenctid.

Roedd y ffaith fod Nia yn Gymraes ac yn canu'r delyn o gymorth iddi gael y swydd.

yr oedd un cysur ganddynt y cawn chwarae teg gan fod athrawes y babanod yn Gymraes o Sir Feirionnydd.

Mae'r Gymraes Hayley Tullett drwodd i rownd derfynol y râs 3,000 metr ym Mhencampwriaethau Dan-do y Byd yn Lisbon.

Canlyniadau cymysg gafodd y ddwy Gymraes yn nhîm Prydain yn y senglau.

Enillwyd medal aur gan Gymraes arall, Emma Brown o Bentre'r Eglwys, ger Pontypridd.

ochr yn ochr â'r chwarelwr, y bugail a'r Gymraes rinweddol fel un o gymeriadau stoc y llenyddiaeth gyfundrefnol a grewyd yn Oes Victoria," meddai.

Gwahanol hefyd am ei bod yn cael ei chyflwyno gan ddwy Gymraes na fu erioed yno o'r blaen ac Americanwr ifanc sydd wedi dysgu Cymraeg.

Mae'r Gymraes Tanni Grey-Thompson wedi ennill ei thrydedd medal aur yn y Gemau Paralympaidd yn Sydney.

Nos Fawrth fydd noson y Gymraes Joanne Thomas, y mezzo-soprano 29 oed o Donyrefail.

mae ann griffiths yn llawn adleisiau i'r darllenydd o gymro / gymraes.

Ond pa tip-girl, mewn difrif, a fyddai'n debygol o ddweud wrth ŵr ifanc nwydus a oedd yn sibrwd 'acenion cariad' yn ei chlust: 'A ydych yn ddirwestwr?' Oni fyddai puteiniaid cyhyrog ac ystrywgar ardal Chinatown - merched fel 'Snuffy Nell' Sullivan, 'Big Jane' Thomas a 'Saucy Stack' Edwards - wedi chwerthin yn aflywodraethus petaent wedi darllen disgrifiadau Ieuan Gwynedd o'r Gymraes nodweddiadol: 'y forwyn wridgoch sydd yn adsain y fuches hwyr a boreu â melusder ei chân .