Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gymundod

gymundod

Gydag amser daeth gwleidyddion a haneswyr i'r arfer o alw Prydain yn genedl er na bu erioed yn gymundod cenedlaethol.

Amod bodolaeth pobl grwydrol oedd cwlwm teuluoedd, ac felly 'pobl' yn yr ystyr o gymundod o deuluoedd oedd Israel.

Penderfynir ei gymeriad ef gan natur y gymundod neu'r cymundodau y perthyn iddyn nhw.

Mae cenedl, meddai, yn gymundod iaith, yn gymundod tiriogaeth, ac undod gofod.

"Pa beth sy'n gwahaniaethu cymundod cenedlaethol oddi wrth gymundod politicaidd?" Sonia am gylymau gwaelodol sy'n rhwymo dynion ynghyd.

Unir aelodau'r gymundod hon gan eu hanes - sef y profiad o gydfyw am ddwy neu dair mil o flynyddoedd ar y penrhyn a alwn yn Gymru; a hefyd gan ffactorau eraill sy'n cynnwys eu traddodiadau, a'r iaith Gymraeg yn bwysicaf yn eu plith; gan batrwm diwylliannol unigryw; gan sefydliadau crefyddol, diwylliannol, cymdeithasol (yn arbennig eu tîm rygbi), ac, yn awr eto, gan rai gwleidyddol; a chan yr ymwybyddiaeth o'u Cymreictod.

Pe chwelid y gymundod Gymreig fel y darfyddai â bod yn genedl byddai bywyd y rhai a enid yn y dyfodol ar y penrhyn hwn yn sylweddol dlotach.