Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gymysgedd

gymysgedd

Baco gydag arlliw brandi ceirios arno neu Curly Cob, yn gymysgedd o faco pur, gyda baco sawr licris?

Mae nofel olaf Hiraethog yn gymysgedd ryfedd o'r hen a'r newydd, y cryf a'r gwan.

Cyn cychwyn, roedd John Griffith - `Y Gohebydd' i ddarllenwyr Y Faner a phawb arall - wedi gosod ei fwriad ar bapur, gyda'i gymysgedd arferol o gyfeiriadau Beiblaidd, ebychiadau Saesneg, a Chymraeg cartrefol, byrlymus.

A dyna'r tro cyntaf i gymysgedd o deimladau fynd ar draws ei gilydd þ siom a hiraeth, ac yn fwy na'r cwbwl tosturi am fod breuddwyd rhywun arall wedi'i ddinistrio þ er mai dim ond berfa oedd o.

Wna i byth anghofio wyneb Helen Mirren (rhyw gymysgedd rhwng wyneb Greta Barbo ac wyneb Humphrey Bogart) wrth iddi sylweddoli bod ei gþr a thad ei phlant yn dreisiwr ac yn llofrudd.

'William Davies' oedd enw tad fy nhad, ac y mae gennyf gymysgedd rhyfedd o atgofion amdano.

Cynhwysai nifer o gerddi rhyfel, yn gymysgedd o rai dwys grefyddol, rhai hiraethus-deheuol, ac un ffyrnig o feirniadol.

schon bist du ein Verfassungsfeind, sy'n gymysgedd o'r gwir a'r dychmygol, yn delio â'r effaith y mae'r amheuon hyn yn eu cael ar y darpar athro, Kleff.

Y gymysgedd hon o arddulliau dysgu sydd yn rhoi'r cyfle gorau i ddisgyblion ddatblygu eu galluoedd ieithyddol a'u dealltwriaeth bynciol yn gyfochrog gan fod pwrpas real i'r ddeubeth mewn sefyllfa o'r fath.

Ymhen yr awr gofynnodd y management inni symud lawr i'r iard gerllaw ac aros tu ôl i'r rhwystrau yn gymysgedd o gyfryngwn a phobl leol yn yr haul.

Wrth weld yr Ymennydd Mawr yn dynesu trodd y Cripil ei lygad chwith mewn rhyw gymysgedd addolgar o drueni a balchder i edrych arno.

Fe'i teimlai'i hun yn gymysgedd o Fadog a Cholumbus wrth gerdded y bwrdd yn dalog ar ei ben ei hun a gwau'i ffordd yn hunanymwybodol trwy rwydwaith y teithwyr eraill.

Ar lan y llyn mae rhai tai reit solet, wedi eu hadeiladu a brics cochion, ac yna strydoedd clos o dai sy'n gymysgedd o frics a mwd.

Er mwyn gwella clustiau oedd yn crawni berwid hadau'r onnen yn nŵr y claf ac iro'r clustiau â'r gymysgedd.

"Efallai y bydd rhai pobol yn dweud, 'os dyna safon iaith ysgolion Cymraeg y De-ddwyrain, byddai'n well hebddyn nhw'." Iddo ef, nid bratiaith yw'r gymysgedd o Gymraeg a Saesneg sy'n cael ei siarad gan bobol ifanc y deffroad iaith, gyda'u cam dreiglo a'u brawddegau 'anghywir'; iddo ef, mae hi'n dafodiaith ynddi ei hun, yn iaith yr oedd actorion amlwg fel Richard Lynch neu Jâms Thomas yn ei siarad pan oedden nhw'n iau.

Ond nid arbrofi er ei fwyn ei hun mo hwn; yn hytrach yr arbrofi hwnnw gyda dulliau dysgu sydd yn golygu fod y plentyn yn cael mwy o gyfrifoldeb am ei ddysgu ei hun a thrwy hynny yn dod yn fwy annibynnol yn ei ddysgu; yr arbrofi hwnnw sydd yn sicrhau fod athro'n cael gafael ar y gymysgedd addas rhwng dysgu athro ganolog a dysgu plentyn ganolog.

Wrth iddi yfed yr hylif trofannol arall-fydol oedd yn gymysgedd anghredadwy o bob ffrwyth yn y jyngl, digwyddodd trawsnewidiad gwyrthiol.

Defnydiwyd gymysgedd o CorelDraw 3 a 4 a Paint Shop Pro 3 i greu'r graffeg; HTML Notepad yna Windows Notepad (pan sylweddolwyd bod HTML Notepad yn crap) i sgrifennu'r tudalennau HTML; Netscape Navigator 1.1 a 2 (fersiynau 32-bit) i brofi'r tudalennau; Word 6 i sgrifennu'r rhan helaethaf o'r cynnwys; a PageMaker 5 i gysodi a dylunio'r Tafod go iawn; a hyn i gyd yn rhedeg ar Windows 95 (ie, ie, ie, dwi'n sycyr, ond mae o werth o jyst am yr hwyl o allu gael tafod y ddraig fel eich saeth llygoden).

Roedd y gymysgedd afiach o waed a baw yn ei gwneud yn amhosib gweld ei wyneb yn iawn, ond am ryw reswm, gwyddai Myrddin yn union pwy oedd o.