Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gynhaliol

gynhaliol

Yn sgil grym y tractor a'r JCBs a pheiriannau eraill, y diwydiant agrocemegol, had gwell a phatrymau newydd o werthu ac o ddosbarthu, fe chwalwyd y ddibyniaeth ar lafur a'r gyfundrefn rhannol hunan-gynhaliol.

Fel y nododd Gruffydd wrth adolygu'r ddrama yn Llenor yr haf hwnnw, ffurf newydd ydoedd na chai'r clod a haeddai er ei bod yn 'ymgais onest i dorri llwybr newydd.' Llwybr ydoedd a wyrai oddi ar gonfensiwn drama'r Gegin Gymreig yn null Beddau'r Proffwydi, o ran plot a hefyd o ran syniadaeth gynhaliol.

Yn achos Cymdeithas yr Iaith Gymraeg mae'r fytholeg gynhaliol yn neilltuol o gref gan bod blynyddoedd gwawrddydd y mudiad yn cydddigwydd â ffrwydriad diwylliant ieuenctid y chwedegau, cyfnod euraid yng nghof yr aelodau cynnar sy'n cysylltu genedigaeth y Gymdeithas â rhyddid a menter eu hieuenctid eu hunain ond sydd bellach wedi ymgolli ym mharchusrwydd canol oed.

Gan fod amaeth Gymreig mor ddibynnol ar y gyfundrefn gynhaliol (y grantiau) - ofnir i'r newidiadau yn y PAC achosi yn y man gwymp pellach yn incwm y ffermwyr ac yn eu nifer.

Cred y Gymdeithas fod perygl i'r Byd Addysg Gymraeg ddatblygu'n beiriant hunan-gynhaliol, a bod angen hybu'n bennaf y datblygiad hynny lle mae'r drefn addysg yn cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y gymuned yn hytrach na hybu'r defnydd o'r Gymraeg tu fewn i'r ysgol neu'r coleg yn unig.

Mae'r ganolfan yn hunan-gynhaliol ac mae gweithwyr yn ailgylchu'r glaw er mwyn dyfrhau'r planhigion.

Rydym eisoes wedi crybwyll fod yn rhaid i'r Gymraeg ffynnu ymhob agwedd ar gymdeithas os yw hi i ddod yn hunan-gynhaliol.

Weithiau gall mytholeg gynhaliol guddio'r ffaith syml honno.

Yn y modd hwn gall ieuenctid gael llwyfan a strwythur gynhaliol.

Yn yr adran hon nodir yr hyn sydd ei angen o ran darpariaeth gynhaliol bellach i gynyddu'r cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg, yn arbennig ym maes cyfieithu.