Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gynharach

gynharach

Roedd yr Iraniaid wedi gofyn i mi yn gynharach a fedrwn i fwrw allan gythreuliaid, ac emwyn arbed gwaith egluro a chyfieithu roeddwn i wedi dweud wrthyn nhw y medrwn i.

LUCKY, cyfarwyddwr Canolfan theatr Genedlaethol Bratislava, Slofacia, mewn cynhadledd i drafod theatr plant a phobl ifanc yng Nghiwba yn gynharach eleni.

gan fod yr union dric wedi cael ei chwarae ar y ffrancod ychydig fisoedd yn gynharach, nid oedd bai arnynt am fod mor ddrwgdybus.

Canolfan a agorwyd yn swyddogol gan Colin Jackson a Jamie Baulch yn gynharach eleni.

Yn gynharach yn y flwyddyn, roedd The Office yn olwg dreiddgar y tu ôl i'r llenni ar y Swyddfa Gymreig oedd yn dangos gweision sifil wrth eu gwaith yn datblygu ac yn llywio'r ddeddfwriaeth ac yn trafod cartref y Cynulliad.

Roedd yn arbennigwr ym myd bridio defaid run fath ag y mae ei fab heddiw, y soniais amdano yn gynharach yn y llyfr yma.

Ychydig o ddatblygiad syniadol oedd yn y llythyron gyhoeddodd Hugh Hughes yn ei erbyn yn y Seren Ogleddol o'u cymharu â'i ysgrifau yn Seren Gomer bum mlynedd yn gynharach, ond cafodd le yn ei bapur ei hun i'w hegluro'n llawn ac yn fanwl.

Gellir olrhain y defnyddiau sydd yn y ffynonellau hyn yn ôl i'r nawfed ganrif, ac yn ôl pob tebyg dipyn yn gynharach, ond nid i'r cyfnod Arthuraidd ei hun.

Ynghanol yr helynt hon y cyflawnodd Morgan waith mawr ei fywyd, sef cyfieithu'r Hen Destament (ac eithrio'r Salmau) a'r Apocryffa o'r newydd i'r Gymraeg, a diwygio cyfieithiadau William Salesbury o'r Salmau a'r Testament Newydd - fel y clywsoch yn gynharach fore heddiw, fe gafodd Salesbury beth help gyda'r Testament Newydd gan Richard Davies a Thomas Huet.

Mi fyddai'r grym yn dal yn styc ar y top ac mi fyddai'r trydydd o'r tair carfan yna enwais i yn gynharach yn dal i drïo dyfalu lle aethon ni'n rong.

Yn gynharach, gwrthododd Llys Goruchaf Florida gais gan dîm cyfreithiol Mr Bush i ddiddymu'r cyfri â llaw yn y dalaith.

Soniwyd yn gynharach am y 'Cornis', sef y mwynwyr a ddaeth o Gernyw i weithio'r gwaith copr ger yr Offis Gocyn ar ffordd Nant Peris, ac fel y daeth yr enwau Pleming, Closse a Salt yn enwau cynefin yn y cylch.

Pwysleisiodd yn ei ddatganiad fod gan John Hollins ddwy flynedd arall o gytundeb fel rheolwr - mi wnaeth o arwyddo'r cytundeb yn gynharach yn y tymor - a bod cwmni Ninth Floor, perchnogion presennol y clwb yn bwriadu parchu'r cytundeb hwnnw.

Helmed, gyda llaw, a werthwyd am £2,4000 mewn ocsiwn yn gynharach eleni.

Wedi teithio am bythefnos, roedd y teulu wedi cyrraedd y ffin ddeuddydd yn gynharach.

"Un prynhawn fe ddaeth y ffarmwr adre o'r farchnad yn gynnar, yn gynharach nag arfer.

Mae'n bosibl mai rhan o ffurf gynharach ar yr hanes yw'r orfodaeth i adrodd ei stori wrth bob un sy'n dod i'r llys ac yna cynnig ei ddwyn ar ei chefn, neu, fel y dangosodd y Dr Brynley Roberts, fe all fod yn ffurf o gosb gynnar, cosb a ddarostyngai'r troseddwr yn boenus ac y gwyddai'r awdur amdani.

Soniais yn gynharach nad oedd glendid yn un o rinweddau'r lle.

Derbyniodd y Llys gyfraniad, oherwydd yr elw ym Mhwllheli, a oedd ymhell y tu hwnt i'w ddisgwyliadau ddwy flynedd yn gynharach.

'Roedd wedi colli ei briod bedair blynedd yn gynharach, ac effeithiodd y golled hon yn ddirfawr arno.

Roedd hi wedi ffarwelio â Phorthmadog un mlynedd ar ddeg yn gynharach er mwyn gweithio yn Israel.

Ond fel arfer roedd yn well ganddi hi'r shifft gynharach, er mwyn bod adre pan gyrhaeddai Shirley ac Alan, yn lle bod y cyfrifoldeb yn syrthio ar Beti o hyd.

Cafodd pawb amser wrth eu boddau a'r un faint yn dychwelyd ac a gyrhaeddodd yno yn gynharach.

Ond ar ôl profiadau go erchyll pan aeth i Iran yn gynharach eleni - yr ugeinfed gwlad iddo ymweld â hi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf - mae'r ffotograffydd Aled Jenkins bellach yn fwy na bodlon i gadw'i draed yn dynn ar ddaear Cymru.

Mi gafodd y ddau adweithydd eu cau yn gynharach eleni pan ddaeth darn yn rhydd yn y sustem.

Bore trannoeth, cododd yn gynharach nag oedd ei arfer.

Dwedodd hefyd ei fod wedi derbyn arian i gaur batiad yn gynnar yn y prawf olaf yn erbyn Lloegr yn gynharach eleni.

Ar ben hynny, y mae chwyddiant yn codi, fel y clywsom yn gynharach, ac mae'r rhagolygon, yn ôl y farn ddiweddaraf, yn ddu iawn am y tri mis nesaf.

CYMDEITHAS YR IAITH GYMRAEG Annwyl Olygydd, Llythyr Agored at Gynghorwyr Cymuned Dosbarth a Sir Mewn ymateb i'r ddirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg a'r Swyddfa Gymreig yn gynharach eleni datganwyd yn ddigon clir bod gan y Cynghorau Dosbarth a'r Cynghorau Sir yr hawl i baratoi adroddiadau "ar unrhyw destun a ddymunant, gan gynnwys yr iaith Gymraeg".