Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gynhelid

gynhelid

Fel gwraig i fanijer pen-pwll Tyn-y-bedw roedd ganddi'r statws angenrheidiol i gael y fraint o arllwys te wrth un o'r byrddau adeg unrhyw barti a gynhelid yn y festri, swydd o urddas i'r dewisol o blith y chwiorydd.

Golygai hynny docio ar y gweithgareddau a gynhelid ynddi gynt.

Fe gynhelid y rhain ar raddfa un-i-un rhwng y Rheolwr a'r Cynghorydd, a byddent yn gwbl gyfrinachol ac anffurfiol.

Rhedodd y merched o'r naill dž i'r llall i baratoi ar gyfer y cymortha a gynhelid heno ym Mhlasgwyn i helpu gweddw Guto Pandy.

Cyn dyfodiad y peiriannau sydd â rhan mor amlwg heddiw yng ngweithgarwch y ffarm, ymweliad brysiog yn unig a wneid â'r ffair a gynhelid yn fisol.

Cynghorau lleol yn cael yr hawl i roi cyfraniadau ariannol i'r Eisteddfod Genedlaethol pan gynhelid y Brifwyl yn eu hardaloedd nhw.

Amrywiai'r ysgolion hyn yn ddirfawr o rai gweddol dda i rai a gynhelid mewn ystafell fechan dywyll gan hen wraig a wyddai efallai air neu ddau o Saesneg, ac o'r herwydd yn cael ei chyfrif yn ysgolhaig.

Yn gynnar iawn yn hanes hwnnw sefydlesid 'cyfarfod egwyddori' a gynhelid nos Sul ar ôl yr oedfa.

Go brin i'r terfysgoedd fod yn ddi-drais, fodd bynnag, oherwydd ai pethau'n reit boeth yn yr arwerthiannau a gynhelid ar ol atafaelu eiddor rhai a wrthodai dalu'r degwm.