Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gynhenid

gynhenid

Magwyd Richard Davies, mae'n amlwg, yn awyrgylch a thraddodiad yr uchelwyr o barch tuag at leynddiaeth gynhenid Cynru a diddordeb mawr ynddi, megis rhai eraill o gyfieithwyr beiblaidd ei gyfnod; a William Salesbury, William Morgan, a John Davies, Mallwyd, yn eu plith.

Nid ydym wedi llwyddo fel y dymunem i wneud heddychiaeth yn rhan gynhenid o'r foeseg Gristionogol, fel, dyweder, geirwiredd neu ddiweirdeb.

Er mwyn i'r iaith gael cyfle i ffynnu mae'n rhaid i nifer o bethau, sy'n rhan mor gynhenid o'r hen drefn, ildio.

Nis gwelir fel rhywbeth hanfodol gynhenid yn y ddynoliaeth, yn halogiad meidrol, ond fel rhywbeth a amlygid mewn troseddau moesol megis anghyfiawnder,anonestrwydd, gorthrwm, trais a chreulondeb.

Yn ogystal â hyn, gall delwedd ddwyieithog fod yn fantais y tu hwnt i Gymru, yn enwedig yn y marchnadoedd hynny lle mae delwedd unigryw yn hollbwysig, neu lle byddai dangos dealltwriaeth o amlieithrwydd yn eu huniaethu â'r farchnad gynhenid.

A bu optimistiaeth gynhenid Curig Davies yn foddion i gynnal ysbryd ei bobl mewn dyddiau hynod dywyll.

Mae prblem gynhenid ynghlwm wrth hyn fodd bynnag, sef bod i welliannau ffyrdd mawr oblygiadau amgylcheddol sylweddol sydd yn debygol yn rhan fwyaf o achosion o fod yn annerbyniol yn y Parc Cenedlaethol.

Wedi'r ffilmiau bu cyfle iddo drafod yn Chapter eu hunion grefft, am gwta dri chwarter awr pryd, y nododd fel dawn sylfaenol gwneuthurwr rhaglenni y grefft o gyfuno'r gallu i ddweud stori a'r gallu i dynnu llun - dau beth sy'n gynhenid i ni'r Cymry, yn ôl Gwyn Erfyl.