Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gynhyrfus

gynhyrfus

Yna dechreuodd sgwrio llawr y gegin a golwg gynhyrfus iawn arno.

"Ol reit, ol reit," ebr ef_'n gynhyrfus a thipyn yn bigog.

Collodd, bum ffrâm i bedair yn erbyn Graeme Dott, mewn ffrâm olaf gynhyrfus a barodd 35 munud.

Y mae'n cynnig ffordd i mewn i Gymru sy'n danllyd, gynhyrfus, tawel a hynafol, barddonol a ffraeth.

Wrth i Carol ysbarduno'r car bach yn ddidrugaredd tua'r gogledd, gallai glywed eu lleisiau'n parablu'n gynhyrfus am yr holl bethau a welent drwy'r ffenestri, a gwyddai mai felly'r oedd hi wedi disgwyl i bethau fod.Gallai ei chysuro'i hun nad ymddwyn yn fyrbwyll a wnaethai, ond paratoi cynllun brysiog yn ei phen a gweithredu arno'n syth.

Mewn un angladd wrth ddarllen Salm y Bugail, fel hyn y traethodd y doctor: 'le, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnaf newid' (Pan dery angau, un wedd ar y brofedigaeth yw'r newid sy'n digwydd i'r holl dŷ mewn cegin a pharlwr a llofft, newid sy'n syfrdanu.) Ni wn ai o fwriad ai trwy ddamwain y rhoes y meddyg dro mor annisgwyl i'r gair, ond roedd ei glywed yn gynhyrfus o newydd: 'Nid ofnaf newid.' Roedd Doctor Jones yn ŵr pur grefyddol ei natur, ac ar ambell Sul byddai'n pregethu hwnt ac yma yn eglwysi'r fro.

dyna'r Son ...' Pwyntiodd yn gynhyrfus at y cerdyn.

Wrth weld Robert Ferrar yn dod i fyw yn Abergwili, yr oedd canoniaid Tyddewi'n bur gynhyrfus ac yn barod amdano.

Cododd yr ysbryd fi a'm cario ymaith; ac yr oeddwn yn mynd yn gynhyrfus fy ysbryd, a llaw yr ARGLWYDD yn drwm arnaf.

Teimlwn yn glwyfedig, ac ebe fi, dipyn yn gynhyrfus: ``Dafydd Dafis, os nad af i'r athrofa yrŵan, nid af yno byth.

'Aros,' meddai'n gynhyrfus, 'rwy'n gweld y pwysau.

Mae'n wir y sonnir am dyrfa o filwyr, am gefnogaeth gref y chwarelwyr, ac am yr awyrgylch gynhyrfus yn gyffredinol.

Yn nwylo medrus Tony Jones, llwyddwyd i greu yr awyrgylch gynhyrfus briodol yn y rhan gyntaf ac i gael tensiwn rhwng y Ficer a gŵr y Tollau yn yr ail ran.

Argyhoeddi yn hytrach nag addysgu oedd y nod a dyna a wnaeth y pregethu hwn yn beth mor gynhyrfus.