Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gynifer

gynifer

Mae'n biti bod yna gynifer ohonyn nhw, oherwydd dyma lyfr sy'n cyflwyno "genre% newydd i'n llên - llyfr sydd yn efelychu ac yn cael ei ysbrydoli gan gêmau cyfrifiadur.

Welwyd erioed gynifer o Gymry yn dadlau eu hachos yn Nulyn.

Mae'n syndod gynifer o bobl yn yr eglwysi sy'n ceisio darganfod ar ba gyn lleied o grefydd y gallant fyw.

Y gobaith yw y bydd y math yma o drefniant yn lleihau dylanwad y benthycwyr mawr diegwyddor sydd yn dod â diflastod i gynifer o deuluoedd tlawd.

Mae'n syndod gynifer o bobl sydd â diddordeb yn hanes crefydd yng Nghymru.

Fel y gellid disgwyl, gan fod Mrs Parry wedi cyfeilio i gynifer ohonynt, 'roedd ei rhestr o unawdwyr yn bur faith - Joan Hammond, Isabel Baillie, Ruth Packer, Tudor Davies, Heddle Nash, Norman Allen, Bruce Dargarvel, David Lloyd.

Sylweddolai gynifer o beryglon annisgwyl sy'n y byd hwn.

Digwyddodd hyn gynifer o weithiau i Gwyn a minnau, eto daliem i obeithio.

Ni chyhoeddodd yr un gw~inidog-yn ei Gyfundeb gynifer o lyfrau ag a wnaeth ef.

Yr oedd yn frawychus weithiau bod mor agos at gynifer o berfformwyr da.