Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gynlluniau

gynlluniau

Drwy weithio mewn partneriaeth ag amrediad o sefydliadau mae BBC Cymru yn uchelgeisiol yn ei gynlluniau i danio dychymyg y wlad a dod â dysgu i bob sector o'r gymuned drwy ei fenter dysgu gydol oes.

Mae'r milwreiddio yn rhan o gynlluniau Ffrainc a'r Almaen heb os nac oni bai.

Ei fwriad oedd ei bachu wrth iddi ddod allan, ond yn amlwg roedd madam wedi rhag-weld ei gynlluniau ac wedi gofalu bod ganddi gwmni.

Fel yr oedd hi'n digwydd, nid oedd ganddo gynlluniau ar gyfer y noson heblaw twtio dipyn ar yr ardd, ond fe allai ef fod wedi trefnu if ynd allan efo'i wraig neu i gyfarfod cyfeillion - wedi'r cwbl, fe fyddai llawer o bobl yn mynd allan ar nosweithiau Sadwrn.

Ond bydd y Bwrdd yn parhau i ystyried cyfeiriad y strategaeth a'r mesurau a nodir ynddi wrth baratoi ac adolygu ei gynlluniau corfforaethol o flwyddyn i flwyddyn yng ngoleuni'r cynnydd mewn cyflawni'r amcanion, ac yng ngoleuni canlyniadau Cyfrifiad 2001.

Ond, y mae'n ddisgwyliad newydd fod gan y Bwrdd y ddyletswydd i gynghori'r system ar weithredu pob sefydliad addysgol, i'r graddau y mae'n gweithredu cynllun iaith beth bynnag, ac anhebyg y byddai gan y Bwrdd yr amser (sef y staffio) i fedru monitro neu arolygu'r fath bentwr o gynlluniau er mwyn cyflawni'r ddyletswydd statudol yn effeithiol.

Ni ellir gorbwysleisio, felly, yr angen am ddarpariaeth helaeth o lyfrau, cylchgronau a phapurau o'r safon orau, a hefyd gynlluniau egnïol i'w marchnata.

Yn bedwerydd, ceir pedair senedd daleithiol wedi eu sylfaenu ar bedair talaith hanesyddol Iwerddon gyda chyfrifoldeb tros ddosrannu arian, penderfynu ar gynlluniau datblygu taleithiol a goruchwylio gwaith heddlu'r Cynghorau Ardal.

Mae'r corff sy'n rheoli snwcer, y WSA, ar fin cyhoeddi eu hymateb i gynlluniau TSN i ffurfio cylchdaith newydd o gystadlaethau fydd yn cynnwys Pencampwriaeth Byd fydd yn cael ei chynnal yr un pryd â Phencampwriaeth y Byd Embassy y flwyddyn nesa.

Yn y flwyddyn sy'n dod byddwn yn ceisio adeiladu gwrthwynebiad unedig i gynlluniau'r llywodraeth ym maes darlledu digidol trwy ymgyrchu a chynghreirio gyda mudiadau eraill ym maes darlledu yng Nghymru.

(ch)Pob gwaith arolwg a ffurfio polisi%au ar gynlluniau statudol ac anstatudol megis y cynlluniau lleol a'r Cynllun Fframwaith cyn belled ag y mae angen gwneud hynny i baratoi'r cynlluniau neu'r polisi%au neu sylwadau drafft mewn ffurf derfynol i'w mabwysiadu gan y Pwyllgor er mwyn eu hargymell i'r Cyngor yn unol â (d) isod.

Bydd hyn yr un mor berthnasol i gynlluniau a ariannir yn rhannol gan Grantiau o'r Swyddfa Gymreig.

Mae fy niddordeb arbennig, fodd bynnag, ym maes addysg a'r rôl arbennig y gall BBC Cymru ei chwarae wrth ddatblygu gwasanaethau addysgol newydd, gan gynnwys arlein, ac edrychaf ymlaen at glywed mwy am gynlluniau ar gyfer y maes hwn o ddarlledu a ddylai chwarae rhan mor bwysig yn natblygiad cymdeithas ac economi Cymru.

sicrhau fod y drefn gynllunio yn gwasanaethu'r gymuned leol, bod tai newydd yn diwallu anghenion lleol, ac na roddir caniatâd i gynlluniau a fyddai yn niweidiol i'r gymuned yr iaith Gymraeg neu'r amgylchedd.

A^i i drafferth i egluro'i gynlluniau'n amyneddgar iddi, er nad oedd galw yn y byd tros iddo wneud hynny.

Nonsens yw hynny, yn ôl Gallagher, a dywedodd y bydd y clybiau yn gwrthwynebu unrhyw gynlluniau i gwtogi'r Cynghrair.

Ond y mae'r nofelydd y mae Hywel Teifi yn cyfeirio ato fel un allai greu y nofel lofaol fawr Gymreig wedi dweud wrth Y Cymro nad oes ganddo ef gynlluniau i gyhoeddi dim byd yn y dyfodol agos.

Ar hyn o bryd y tueddiad ganddynt yw ymateb i gynlluniau sy'n effeithio'r ardaloedd gan wneud awgrymiadau o blaid neu yn erbyn unrhyw gynllun.

Ond gofynnodd Mick Bates, Rhyddfrydwr, Maldwyn, pa gynlluniau sydd i sicrhau y defnyddir deunydd adeiladu o Gymru yn adeilad newydd y Cynulliad.

Diau bod rhesymau cymhleth am hynny, ond gyda golwg ar byllau afon dylid cofio fod y nodweddion a enwyd gynt hwythau yn cael eu dileu, gan gynlluniau traenio sy'n golygu clirio a dyfnhau rhedfa'r afon.

Mae gan BBC Cymru gynlluniau niferus ac amrywiol yn y maes hwn, ac un project ym 1999 oedd pecyn hyfforddiant Medrau Allweddol i athrawon, darlithwyr a chyflogwyr.

Yn wahanol i'r Swyddfa Gymreig, fe gafodd meini prawf clir eu creu - fod angen i gynlluniau gynyddu'r cyfle i bobol siarad a defnyddio'r Gymraeg, fod yna dargedau a mesurau llwyddiant, ei fod yn cydweddu â pholisi%au Bwrdd (beth bynnag yw y rheiny).

Mae'r cyfrifoldeb am yr holl ffyrdd, heblaw am y priffyrdd, yn nwylo Cyngor Sir Clwyd ac mae Rhaglen Ffyrdd Clwyd yn rhestru nifer o gynlluniau i wella pethau yn ardal y Bedol o Landymog i Graianrhyd ac o Fetws Gwerful Goch i Landegla.

Ni fedraf ddiolch yn ormodol i Cassie Davies, oherwydd bu hi fel angel gwarcheidiol drosof yn yr holl gynlluniau.

Dylid rhoi blaenoriaeth i gynlluniau sydd yn cwrdd anghenion lleol am waith, yn cyfrannu at amcanion parc cenedlaethol a helpu i ychwanegu at werth cynhyrchion lleol; ii) Datblygwyr ddylai fod yn gyfrifol am gostau ychwanegol dylunio neu ddefnyddiau adeiladu er mwyn cyrraedd y safonau amgylcheddol uwch sydd yn angenrheidiol mewn parciau cenedlaethol; iii) Dylai asiantaethau datblygu gwledig ac awdurdodau lleol gydweithio gyda'r parciau cenedlaethol i hybu cynlluniau datblygu economaidd sydd yn cydweddu ag amcanion parciau cenedlaethol; iv) Dylid edrych yn ffafriol ar arall gyfeirio fferm sydd yn cyfrannu at gynnal busnesau fferm heb beryglu amcanion parciau cenedlaethol.

Er bod y Brenin Affos yn gwrthwynebu fflatiau yn ddiweddar (Pwy a allai dyfu wynwyn mewn fflat?) caniataodd Ynot i gynlluniau fynd trwodd am floc o fflatiau yn union ar gyfer tŷ helaeth Eproth, y Gweinidog Cerdd a Dawns.

Mae croeso i bob aelod ddod i hwn i bleidleisio ar gynlluniau'r Gymdeithas am y flwyddyn ganlynol.

Cychwynnodd Cynog Dafis yn Gymraeg gan ofyn pa gynlluniau sydd gan y Prif Ysgrifennydd i adolygu cyflogau athrawon.