Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gynnau

gynnau

Yn wir, âi allan o'i ffordd i 'w swcro drwy ddod â chanlyniadau adref gyda hi, canlyniadau a gawsai yn y dafarn lle byddai'r gynnau mawr yn iro'u gyddfau ar gyfer y brif unawd.

"Dos di yn syth i nôl Cymro, ac i ddweud yr hanes am Dad wrth Mr Bassett, Idris," meddai Cadi, "ac fe aiff Deio a minnau i'r tŷ i gynnau tân ac i hwylio swper." "O'r gore," meddai Idris, ac i ffwrdd ag ef.

Cyfeirias gynnau at Jean Markale a'i amheuaeth o darddiad Lladin yr enw Arthur.

Y llongau rhyfel yn tanio eu gynnau er cof am y rhai anffodus a fu farw dros eu gwlad yn y Rhyfel.

Ni ofynnodd iddi erioed gynnau tân na gwneud neges, roedd yn ormod o þr bonheddig i hynny.

Doedd hi ddim yn brofiad pleserus iawn eu gweld nw yn dal eu gynnau Kalaschnikov ad yn amlwg heb weld Gorllewinwr erioed o'r blaen.'

Soniais gynnau am 'rin' llenyddiaeth Kate Roberts.

Ac yn wyneb yr hyn a ddywedwyd gynnau, mae angen esbonio pam yr oeddem ni, aelodau Adain Chwith y Blaid megis, yn anesmwyth am y polisi - neu'n gywirach, am y mynegiant arferol ar y polisi: teimlo'r oeddem fod y mynegiant hwnnw'n gwneud cam â hanfod y polisi.

Arferai Waldo fynd i lawr i Rosaeron i gynnau tân i'w ewythr bob dydd, ac ar bob nos Sul fe âi'r ewythr i gael swper yng nghartref Waldo.

Os ydi cynhyrchydd yn dweud 'Dwi isio cadair yn fama', rydach chi'n deud 'Pam?' Mae o neu hi'n deud wrthoch chi; iawn, dyma'r fath o gadair wnawn ni'i rhoi - oherwydd mae hi o fewn yr iaith weledol o'n i'n sôn amdani gynnau...

Daeth y ferch i sefyll i wynebu'r ddau filwr a rhoddodd gic i'w gynnau o'r ffordd.

A'i nain wedyn, yr oedd honno yr un mor gyndyn i ollwng ei gafael, ac yn ôl pob golwg, hyd yn oed yn gwrthryfela yn ei henaint, yn codi ei llais gynnau, yn erbyn pwy tybed?

Fe fyddai gweddill y trafod â mi fy hun ac â newyddiadurwyr eraill yn digwydd mewn dinas lle roedd mil o blant yn marw bob wythnos, lle'r oedd plant deg oed yn llusgo gynnau rhydlyd drwy'r llwch am eu bod yn rhy drwm i'w cario.

Mae'n anhygoel i rywun o'r tu allan weld y difrod aruthrol a chlywed y difrod yn digwydd - y gynnau a'r bomiau a'r shells.

Roedd y cwbwl ar dâp - y dagrau, y gweiddi, menyw'n llewygu dan y gwres a'r emosiwn, wynebau oer a gynnau cadarn y milwyr Israelaidd, a baner y wladwriaeth Iddewig yn chwifio'n herfeiddiol ar dir y daeth yn amlwg imi nad oes ganddynt y bwriad lleia' o'i ddychwelyd i'w wir drigolion.

Dywedais gynnau fod Thomas Parry yn y pantheon.

Yng nghanol y dwr, ceisiai ffoaduriaid gynnau tanau gyda'r ychydig goed oedd i'w cael yn y dref.

Mae'n wir fod brenin a brenhines newydd ar orsedd Lloegr, Sior y Pumed a'r Frenhines Mari, ac Amundsen o fewn ychydig dros fis i gyrraedd Pegwn y Deau; ond yr oedd Streic y Plocyn wedi gwneud bywyd yn anodd i'r glowyr a'u teuluoedd, y streic a geisiau sefydlu hawl y glowr i fynd a phlocynnau pren diangen adref o'r pyllau glo, y plocynnau pren a hwylusai'r dasg o gynnau tan yng ngrat y gegin.

Crynodeb byr yw'r canlynol o'r newyddion a gefais wrth bori trwy ddau bapur newydd yn unig y bore yma: Bavaria - tân wedi'i gynnau'n fwriadol mewn tþ a oedd yn gartref i deuluoedd Twrcaidd.

Roedd y gred yn bodoli adeg y Rhyfel Byd Cyntaf, hwyrach am fod yr amser roedd yn ei gymryd i gynnau'r drydydd sigare/ t yn rhoi digon o gyfle i'r gelyn fedru saethu at y golau gwan yn y tywyllwch.

Fel y dywedodd ein harweinydd, rydym yn ymladd, yn dawnsio, yn canu ac yn ein harfogi ein hunain â gynnau er mwyn ein hamddiffyn ein hunain.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd o ac Elwyn Bodhalan yn hogia wedi cael model o iwnifform y Gatrawd Gymreig bob un; a phan oeddan ni'n dod adre o'r capel ar y Sul roedd y ddau yn sefyll, un wrth bob cilbost efo'u gynnau slygs, yn gwylio lon Caebrynia.

Roedd y gynnau'n dal i gadw sŵn ond doedden nhw ddim yn rhwystro'r Ysgrifenyddion rhag cario ymlaen gyda'u gwaith.

'Ond yr hen ddyn mawr yna a redodd o'r fynwent yma gynnau.

'Fyddwn i byth yn aros tan y diwedd yn yr ymdrechion hunanymwybodol hynny i 'gynnau tan ar hen aelwyd'.

Fel y dywedais i gynnau roeddwn i wedi bod yn gwylio Twm Dafis ers tro ond heb gael arwydd ei fod yn gwneud unrhyw beth o'i le.

'Gyda llaw, Modryb,' gofynnodd Mam gan gofio, 'wnaethoch chi ddim tisian gynnau, do?'

Roedd hi'r oer gythreulig y tu allan y bore hwnnw, ond roedd hi'n siŵr ei bod hi'n oerach o dipyn yn y tŷ, fel pe na bai'r tân wedi ei gynnau ers dyddiau.

Anghofia' i fyth ychwaith y wefr yn un o wersylloedd mwyaf anghysbell y Cwrdiaid o weld milwyr ifainc yn rhoi eu gynnau ar eu cefnau ac yn cario'r hen, y musgrell, y claf, gwragedd beichiog a babanod i hofrenyddion i'w cludo adref.

Dim ond wedi picio i'r drws nesaf i gynnau'r tân er mwyn i'r gegin fod wedi cynhesu erbyn i Anti Jini Norman godi roedd hi; mae cryd-cymalau Anti Jini yn ddrwg yn y bore.

Mynnai hefyd nad hi oedd wedi tisian gynnau, pan oedd Mam yn y stafell ymolchi.

Dysgodd gywiro gynnau, a daeth hyn yn rhan bwysig a diddorol o'i waith: gweithio morthwylion i hen ynnau deuddeg bôr a defnyddio pinnau i sicrhau gynnau oedd yn rhy sigledig i hyd yn oed y Bedwin mwyaf beiddgar fentro eu tanio.

Cyfrannodd syniadau beiddgar at gynnau'r chwyldroadau yn America a Ffrainc ac yr oedd rhai o'r rheini'n hynod feirniadol o Gristionogaeth.

Roedd gynnau yn nwylo'r ddau.

Rhagymadroddais yn ddigon talog gynnau drwy led awgrymu mai bardd eilradd ydoedd, a dyna rywsut y farn gytun mwyach, ac eto, mewn rhai o'r sonedau hyn (VI, VII, XVI, XXIV, XXXI, XLII, XLIII) y mae'n dweud rhywbeth o bwys mawr mewn llenyddiaeth Gymraeg ac yn ei ddweud yn gain synhwyrus ac yn fachog fyw.

Roedd y gaeaf yn agosÐu, a bwriad Saddam oedd gyrru'r Kurdiaid i'r mynyddoedd unwaith eto; os na fyddai'r gynnau yn eu lladd, bydden nhw'n siwr o farw yn yr oerfel.

Draw ymhell yng nghanol y mynyddoedd, roedd gynnau'n tanio; gallem glywed eu swn yn cystadlu â thrwst y taranau glaw.

Ambell dro troi a throsi am hydion, ychydig funudau o gysgu a breuddwydio hiraethus ac yna dihuno drachefn a'r breuddwyd gynnau'n deffro pryderon amdanynt gartref.