Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gynnes

gynnes

O dipyn i beth datblygodd carwriaeth rhyngddo ef a Mary, a phan godai Ali'n fore i weithio shifft gynnar, nid yn anaml neidiai Fred o un gwely i'r llall i'w gadw'n gynnes, fel petai!

Daliwn i deimlo'n gynnes tuag ati, ond erbyn hyn roeddwn wedi dechrau meddwl amdani'n fwy gwrthrychol ac fel fy nghyfoedion yn yr ardal, yn ei gweld hi'n dipyn bach o gymer comig.

Tra'i fod o'n gwisgo amdano'n gynnes, gwthuiodd Mam y bygi dros riniog y drws a'i ollwng i lawr i'r palmant.

Pan fydde'r bechgyn ifenc yn galw heibio, doedd y croeso ddim mor gynnes a chynt, y gusan ddim mor agored, a'r miri ar goll, ac roedd rhai'n mynd mor bell a gweud fod rhan o fantell dieithrwch Madog wedi disgyn ar 'i sgwydde hi.

Dywedaf innau - os digwydd i'r pysgotwr daro ar y diwrnod y mae'r pysgod yn llwglyd - oer neu gynnes - yna mae diwrnod i'w gofio o'i flaen!

Yn yr ail ran hon, ceid cutiau bychain crynion ag arnynt do o wellt neu frwyn ­ byddai eu lloriau'n is na'r ddaear oddi amgylch er mwyn cadw'r tŷ'n gynnes ac o afael y gwyntoedd.

Un ddigon pethma oedd hi hefyd, mewn cwpan papur anodd ei drin, ond fe gafodd wen reit gynnes gan y llafnes a'i tywalltodd iddo a "Thanks, luv" wrth gymryd ei arian parod.

Beth mae goleuni'r haul yn ei wneud, ar wahan i'n cynorthwyo ni i weld ac i deimlo'n gynnes?

Llongyfarchwyd Cangen Caernarfon yn gynnes iawn ar ennill y rownd derfynol o'r Cwis Llyfrau yn Llanbedr Pont Steffan.

Fe hoffwn i ddiolch i Cymorth i Fenywod am fod mor gynnes a chymwynasgar."

Yr oedd yr hin yn debyg iawn i un o ddyddiau brafia' Mai yn Nghymru - heb fod yn oer, ac o'r tu allan [heb fod] yn rhy gynnes.

Yn ystod y gaeaf oer diwethaf gawsom ni oedd hi, ac yn ystod rhyw bythefnos neilltuol o oer, roeddwn i, ac amryw byd o rai eraill gallwn feddwl, wedi dod o hyd i gornel gynnes mewn tafarn diraen ynghanol y ddinas lle ceid bob amser cinio danllwyth o dân ar lawr.

"Mae'n dda fod dŵr y môr yn gynnes hefyd yn y rhan yma o'r byd neu mi fuaswn wedi rhewi i farwolaeth," meddyliodd.

Cynyddai'r cynnwrf a'r siom ynddi a chododd yn sydyn a gwisgo'i gwn werdd gynnes, anrheg pen blwydd ei thad iddi, a mynd allan i'r berllan gan gerdded yn gyffrous rhwng y coed, 'nôl a mlaen ar hyd ac o gwmpas y llyn pysgod am hanner awr gyfan gan fwmian iddi ei hun: 'Hannah ddim yn deall .

Y môr yn gynnes a llawn heli cryf wrth inni nofio'n hyderus tuag at y dwr brown yn ein gwahodd ni tua'r traeth a gweld eglwys wen, fechan, ar y lan.

Diolchodd y Llywydd yn gynnes i'r rhai sy'n ein cynrychioli ar y cyrff cyhoeddus.

Yr haul a'r gwynt a'r traeth yn gynnes gynnes - y gwynt di-dor!

Diolchodd y Llywydd yn gynnes iawn i'r Pwyllgor Celf a Chrefft am baratoi'n helaeth iawn ar gyfer y noson.

O'i chymharu ag Agra, roedd stesion Delhi'n edrych yn lan pan gyrhaeddon ni'n ol heno, a'r YMCA., pan gyrhaeddais hwnnw ar ol taith wallgof trwy draffig ardal yr orsaf mewn rickshaw-peiriannol, yn ddigon croesawgar yr olwg - ymron yn aelwyd gynnes gyfarwydd.

Mae Maengwyn yn ffrind i'r Arwydd o hil gerdd a diolchwn yn gynnes iddi eto am lawer iawn o bethau.

Atolygwn arnat, serch hynny, i ...' Tagwyd y weddi gynnes cyn iddi gyrraedd ei hanterth gan swn Pyrs, y coetsmon, un heglog ar ei orau, yn darn-lusgo cist ei feistres drwy ffrâm gyfyng y drws allan.

Ffrwyth y cwbl yma oedd llwyddo i greu yn Ebeneser awyrgylch gynnes, deuluol.

Diolchodd Miss Bassett yn gynnes iawn i Mr Bevan.

Llongyfarchwyd aelodau'r pwyllgor yn gynnes iawn am eu gwaith arbennig.

Roedd hi'n gynnes braf yma yng nghysgod y gwynt, y llyn yn ddrych clir, yr awyr yn sidanaidd ac esgyrn eira'n Machio'n y cilfachau.

Ac - roedd Dafydd Morgan Lewis hyd yn oed yn cyfaddef - yn gynnes.

Paid â gwrthod, was i ne cinio digalon fydd o i mi." Diolchais yn gynnes i'm cyfaill, yn fwy felly gan nad oedd gennyf olwg am fawr o ddim amheuthun fy hun.

Pan ddois allan, yn gynnes ac mewn dillad bob dydd, roedd yn dal i aros.

`Rydw i'n falch ein bod ni'n glyd ac yn gynnes yn y fan hon.

Gwaith yn cadw dyn yn gynnes ydi gwaith fel yna, gwaith a lenwodd gyfran o'm hamser, a hynny i bwrpas.

Roedd y gwin yn gynnes a melys.

Dechreuodd y bobol chwalu gan adael fesul un a dau, wedi diolch yn gynnes i'r tafarnwr am ei groeso.

Gan bod prinder affwysol llyfrau o'r math yn ein diwylliant gwleidyddol heddiw dylid croesawu'r cyhoeddiad yn gynnes.

Mae'r cerrig ar y gwaelod yn llyfn ac i'w gweld yn goch a melyn drwy'r dwr, ac yn gynnes rwy'n siwr.

Roedd y paith yn sych ag yn faith a'r croeso - fel y tywydd - yn gynnes.

Wrth edrych drwy'r ffenestr a gweld yr eira yn fantell drwchus dros y tir, a chofio fel y bÉm bron â sythu wrth aros am y trÚn ym Mhenybont, penderfynais y byddai'n well i mi gael lle gweddol gynnes.

Gan fod i Ddinbych, a'r Capel Mawr yn arbennig, le mor gynnes yn fy nghalon y mae perygl fy mod yn syrthio i fagl rhamantu.

Llongyfarchwn Derec yn gynnes iawn a'i gyd-weithwyr gan ddiolch iddynt am gyfoethogi bywyd ein Ieuenctid, a rhoi mwynhad a bendith i eraill.

Roedd y tywod yn dal yn gynnes ar ôl gwres y dydd.

Fe ddaeth Huw yn ei ôl, diolchwyd i'r nyrs garedig a oedd wedi rhoi croeso mor gynnes a newydd mor dda iddynt am Dad.

Roedd hi'n gynnes iawn, a'r lôn yn frown a llychlyd.

Tynnodd ei gap yn is am ei ben, gan dynhau ei sgarff i gadw ei hun yn weddol gynnes.

Croesawyd pawb yn gynnes iawn i'r cyfarfod a chroeso i Angela un o'r dysgwyr sy'n cael cymorth gan aelodau Merched y Wawr.

Er gwaetha'r gwlybaniaeth, roedd y croeso'n eithriadol o gynnes.

Roedd yn agor allan i rhyw fath o gyntedd oedd bron mor gynnes â phobty ar wres isel.

"Cawson ni groeso gynnes yn Esquel a Threfelin ond wedi tridiau roedd yn rhaid symud ymlaen unwaith eto.

Haul sy'n cnesu'r creigiau, ond mae'r ddaear yn gynnes oddimewn a'r gwres yn codi i'ch wynab weithia' " Mae Neli Evans yn rhan o Enlli hefyd, fel Angharad...