Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gynnil

gynnil

Tra mae Dick Chappell yn gynnil yn ei ddefnydd o ofod a lliwiau, fel petai am dynnu popeth i mewn i fyd bach agos ato, mae lluniau'r artist hwn yn rhoi argraff gyffredinol o ehangder.

Rhythodd i fyw llygad y gath fel y gwnaeth filoedd o weithiau o'r blaen a rhyfeddodd unwaith yn rhagor at ddawn gynnil y gŵr o'r Eidal.

Yn gynnil, gynnil yr awgrymir atyniad y ddau gariad at ei gilydd, fel pan ddywed Sarah Jones; 'Roedd eich aeliau chi fel taran ond ar unwaith dyma chi'n anwesu wyneb y gaseg.

Gŵyr lilith o hir brofiad ei bod yn rhaid ar ffermwr fod yn gynnil gyda phopeth, gan gynnwys geiriau.

Gellir defnyddio bras neu eidalaidd i ddangos pwyslais ond defnyddiwch hwy yn gynnil.

"Gyda'r stori fer, mae'n rhaid ergydio'n uniongyrchol, cadw'r tyndra'n gyson, creu amrywiaethau'n gynnil a delicet tu hwnt (os am greu amrywiaethau o gwbl) a sicrhau fod y cynnyrch terfynol mor orffenedig â thelyneg neu englyn.

Defnyddia arddull fywiog a deialog fyrlymus i adrodd yr hanes gan fodloni ar awgrym gynnil yn unig ar adegau.

Gallai hwn bara awr neu ddwy, er mwyn rhoi amser digonol i'r gynulleidfa ystyried amryfal oblygiadau'r ddeialog gynnil a myfyrio trostynt.

'Ond cofio...cofio.' Mae'r toriad cysodol ar y llinell, ar ol 'cofio man,' yn bwrw'r ansoddair yn ol yn ogystal ag ymlaen at onomatopeia'r llinell wedyn ac eironi'r gair yn y cyd-destun galarus yn gynnil iawn.

Y mae'r hanes yn mynd rhagddi'n fywiog, gyda bywyd y fynachlog a thirwedd Castil yn cael eu darlunio'n gynnil ond eto'n fyw iawn; dyma lyfr i'w lyncu ar un eisteddiad.

Glynai Modryb Lisi wrthyf fel gelen, er i mi awgrymu'n gynnil y byddwn yn ei chyfarfod hi a Miss Lloyd yn nes ymlaen yn y lle a'r lle ar yr adeg a'r adeg.

Yr ydych yn tybio mai traddodiad Cymru yw'r grefydd Gatholig, am mai hi oedd ein crefydd pan oedd ein llenyddiaeth a'n diwylliant ar ei orau; felly am eich bod yn gwybod gwerth traddodiad yr ydych yn tueddu (a siarad yn gynnil) i ddywedyd mai ennill fyddai i Gymru fyned yn Babyddol.

Er bod lle i ddal fod Traed mewn Cyffion yn rhy gynnil mewn mannau, ac mewn perygl o droi'n gronicl moel, rhaid derbyn yn gyffredinol nad yw Lewis Jones ddim yn yr un cae a Kate Roberts lle mae celfyddyd lenyddol yn y cwestiwn.

Cyn y foment dyngedfennol honno mae'r oriau weithiau'n gallu troi'n ddyddiau o fyw'n gynnil ar y nesa' peth i ddim gwybodaeth.

Yr oedd yr hen ffurfiau yn anghymwys ar gyfer dweud yr hyn a ddymunai, yr union brofiad a ysgogodd barodi Williams Parry ar 'Yr Haf.' Ond erbyn y bryddest 'Adfeilion' trodd y dull parodiol yn arf gynnil.

Bocs chwaethus, ac enw'r gwneuthurwr yn gynnil mewn print aur, artistig ar gornel isa'r caead.

'Mi fyddai plu Nico Bach hyd y caets ym mhobman.' 'Dyna fo.' Cododd Rhodri ddwy law gynnil.

Awdl delynegol, gynnil yw'r awdl fuddugol, a cheir ynddi stori serch ddwys.

Na, dydw i ddim yn dy feio di, Huwcyn." Trwy fy ngalw'n Huwcyn llwyddodd Gruff, yn ei ffordd gynnil ei hun, i gyfleu coflaid o gydymdeimlad fel y'm hysgogwyd innau i fwrw rhagor ar fy mol.

Mae golchiad o liw melyn yn dod i'r golwg trwy haenau o las golau a llwyd, gan awgrymu'n gynnil ôl tywydd ar garreg.

Holai'n dyner amdanaf, a dweud fel yr oedd wedi mwynhau cwmni Gwyn pan gyfarfu'r ddau gyntaf Gofynnais yn gynnil beth oedd ei adwaith i'r pasiant ar ôl bod ar y llwyfan, ac yr oedd yn ddigon moesgar i beidio â dangos gwyn ei lygaid a chodi ei ysgwyddau, fel yr arferai Illtud ei wneud i ddangos fod rhywbeth y tu hwnt i eiriau.

Y mae ôl llaw gelfydd person Mallwyd ar y Beibl newydd, a'r iaith yn gynnil a chywir a glân.

Awdl ddramatig ac epigramatig wych oedd awdl fuddugol 1902, ac 'roedd y gynghanedd gynnil a'r delweddu diriaethol yn wrthbwynt i awdlau clogyrnaidd a thraethodol y cyfnod.