Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gynted

gynted

wnewch chi ddeud wrth Mr Rowlands y bydd yna siec yn y post cyn gynted ag y bydd Mrs Evans ein trysorydd ni wedi gwella o'r ffliw?'

Maent yn ei agor hefo cyllell, ac yn ei ail danio, ac i fyny'r rhaff â hwy, cyn gynted ag y gallent, a dyrna glec a thwrw mawr gan y cerrig yn rhowlio i lawr wyneb y graig.

A chyda'r Trefnydd Busnes, Andrew Davies, yn cyhoeddi y cynhelid trafodaeth ar bwnc cig eidion ar yr asgwrn cyn gynted a bo hynny'n briodol daeth y sesiwn cyntaf - dof a digon anniddorol mewn gwirionedd - o gwestiynau i'r Prif Ysgrifennydd i ben.

Cododd Debora cyn gynted ag y clywodd ei mam yn mynd i lawr staer.

Pam na fasech chi wedi gofyn i mi ddod gyda chi?" "Roeddwn i'n amau eich bod chi'n cysgu..." "O, siŵr, fe fydda i'n syrthio i drymgwsg cyn gynted ag y bydd 'y 'mhen i ar gobennydd.

Tra oedd pawb arall yn dilyn y llwybr tro am y capel, byddai Nan, gynted ag yr oedd hi drwy'r giât, yn rhuthro ar draws y gwelltglas, gan weiddi dros ei hysgwydd, 'Unionwch ffordd yr Arglwydd'.

Os na ddewch chi i agor y blydi drws y funud hon, rydw i'n mynd i'w gicio fo i lawr!" Ar sūn y fath awdurdod, trodd Morfudd ar ei sawdl, a phrysuro cyn gynted ag y cariai ei chrydcymalau hi yn ôl at y drws.

Dydw i'n hoffir un ohonyn nhw ar ffafr fwyaf y gellid ei gwneud a mi fyddai fy nhroi allan o'r ty gynted a phosib.

Bom mwg oedd ef, a chyn gynted ag y ffrwydrodd ef amgylchynwyd y golgeidwad gan fwg.

Cyn gynted ag y dechreuais siarad llanwyd neuadd y Cyngor â storom o stŵr o dan arweiniad ffyrnig yr enwog Mrs Bessie Braddock, AS a ddigwyddai eistedd yn union o'm blaen.

'A ninnau wedi aros yr holl amser i hyn ddigwydd.' Rhedodd y tri yn ôl cyn gynted ag y medrent ar hyd y llwybr anwastad.

Anogwn yr holl ymgeisyddion llwyddiannus nad ydynt yn medru'r Gymraeg ddysgu'r Gymraeg a gwneud defnydd o'r Gymraeg cyn gynted â phosib.

Rhedodd i mewn i'r bwthyn cyn gynted ag yr agorwyd y drws.

Gorau cyn gynted y dywedan nhw wrthyn ni pa bryd y bydd y dadleuon gwleidyddol yna yn cael eu teledu y flwyddyn nesaf.

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Prif Swyddog Cynllunio i ymdrin â'r cais diwygiedig cyn gynted â phosibl.

Cyn gynted ag y cyffyrddodd Sandra'r blanced, fe gododd honno ohoni'i hun, a daeth rhyw sgrech fyddarol, annaearol o rywle.

Ond neidiodd i fyny cyn gynted ag yr eisteddodd o.

Cyn gynted ag yr oedd y Blaid yn dechrau ymladd etholiadau ar raddfa eang, ac ar adegau yn ennill cyfran sylweddol o'r bleidlais, yr oedd ei swyddogaeth fel grŵp ymwthiol yn dirwyn i ben.

Ymddengys y medrai'r halen wella dyn hefyd, oherwydd credai fy nhad yn gryf iawn yn yr halen Epsom, ac fe gymerai Iwyaid ohono cyn gynted ag y teimlai'r oerfel yn disgyn arno.

Cyn gynted ag y daeth y geiriau allan o'm ceg digwyddais ddal llygad Robat John.

Hysbysodd y byddai'n ymateb cyn gynted â phosibl.

A chyn gynted ag y dant yn rhydd, ymddygant fel eu gormeswyr.

Fe wyddwn i hynny cyn gynted ag y croesais y bont o'r cei yn Dover .

Ond cyn gynted ag y cafwyd ef i mewn i'r car, dyma fe'n agor y ffenest ac yn mynd ymlaen â'i ddarlith o'r fan honno!

Gynted ag yr oeddent wedi clymu'r rhaff, i ffwrdd â nhw ar draws gwlad am ffin Ffrainc, gan fwriadu dal i fynd ddydd a nos nes cyrraedd adref.

Cyn gynted ag y gwelodd ef y saeth a'r llinyn yn nadreddu dros y wal rhedodd tuag at y fan lle y disgynnon nhw.

"Yn ôl â ni, felly, cyn gynted ag y gallwn," ebe Capten Coutts.

Doedd o'n gwybod dim am y gors, ond mae pawb yn yr ardaloedd o gwmpas yn gwybod amdani." Y noson honno, yr oeddynt braidd yn siomedig - i feddwl bod y chwilio drosodd cyn gynted ag y daethant hwy i'r bwthyn ar eu gwyliau.

Maen nhw'n aros eu cyfle yn y gwanwyn pan fo'r ffermwyr yn plannu tatws yn y ddaear a phan nad ydi'r ffens drydan yn cael ei def- nyddio, a chyn gynted ag y mae'r tatws ifainc yn y ddaear maen nhw'n dod gyda'r nos ac yn tyrchu'r ddaear gyda'u trwynau cryfion ac yn dod o hyd i'w hoff fwyd.

Syrthiodd y tair i gysgu cyn gynted ag yr oedd eu pennau ar y gobennydd - Eira ar fatras ar y llawr, Iona mewn un gwely ac Elen mewn gwely uwch ei phen.

Mae Mrs Bebb Jones yn gofyn i bob Cangen enwebu un o'i haelodau i fod ar Is-bwyllgor y Dysgwyr, a dylid anfon yr enwau at Mrs Bebb Jones cyn gynted ag sydd bosibl.

Cyn gynted ag y dringai o un pwll disgynnai yn blwmp i bwll arall a hwnnw, os rhywbeth yn ddyfnach na'r un blaenorol.

Rhaid ichwi adael i'ch tiwtor wybod y rheswm am bob absenoldeb; os ydych yn sâl anfonwch neges at eich tiwtor cyn gynted ag y bo modd.

"Pawb." Cyn gynted ag y dywedodd hi hyn, edrychodd y plant i gyd ar Iona.

Os byddwch yn sâl yn ystod profiad ysgol rhaid ichwi roi gwybod i'r ysgol cyn gynted ag y bo modd cyn dechrau'r ysgol yn y bore; rhaid ichwi hefyd roi gwybod i'ch arolygwr profiad ysgol cyn gynted ag y bo modd.

Wedi'r cwbl, rheolwr ydach chithau, a sbiwch ar y gwahaniaeth rhyngom ni.' Cyn gynted ag y gwelodd ei wên ddiog, sylweddolodd ei bod wedi dweud y peth anghywir.

Sut bynnag, aeth digon o amser heibio i weld fod ymweliad byr Wil Twmpath wedi dylanwadu'n fawr ar fywyd yn N'Ogiaid, achos cyn gynted ag y profodd y Brenin Affos y wynwyn aethant yn ffefryn mawr ym mhlith bwydydd y llys, ac yr oedd Affos a'i wraig Navid, a Namotto eu merch yn ddigon poblogaidd i ddechrau'r ffasiwn trwy'r holl deyrnas.

Cyn gynted ag y gwelodd hi Mr Sugden y bore 'ma fe sylwodd fod ei fwstas militaraidd yn llawer duach nag ydoedd amser swper neithiwr, a'r gwêr du a ddefnyddiai i sicrhau hyn a achosodd y llinellau budron ar ei liain !

Bu rhaid i Sarah Owen ymorol am waith i'w dau fab cyn gynted ag yr oeddynt yn abl i'w gymryd.

Yna, cyn gynted ag y canai'r corn, cymerent y wib fel haid o waetgwn i lawr y ffordd haearn ac i'r mynydd.

Dechreuodd ymarfer cyn gynted ag y cafodd ei goesau artiffisial.

PENDERFYNWYD pwyso ar y Cyngor Sir i uwchraddio'r bont cyn gynted â phosibl oherwydd y drafnidiaeth drom a ddefnyddia'r ffordd.

Cyn gynted ag yr oedden nhw wedi glanio dechreuodd Archie ddatod y strapiau.

Ymhen diwrnod neu ddau, galwodd Martin yn y tŷ i drafod pethau a chyhoeddodd Mary ac yntau eu bwriad i gyd-fyw cyn gynted ag y deuent o hyd i le.

'Ffoi am y winllan cyn gynted ag y medrwn ni,' sibrydodd Gareth.

Mesur tymor byr yn unig yw cardiau credyd o'r fath, a'r nod yw clirio'r ddyled cyn gynted â bo modd.